Mae mwy o gymorth ariannol i fyfyrwyr a buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn yn rhan o becyn cymorth ar gyfer y sectorau addysg bellach ac uwch.

Er mwyn sicrhau bod addysg uwch ar gael i fwy o bobl, eu helpu i fanteisio arni, a chefnogi myfyrwyr sy'n wynebu pwysau'r costau byw sy'n parhau, mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cyhoeddi heddiw (4 Rhagfyr 2024) gynnydd o 1.6% yn y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr israddedig rhan-amser ac amser llawn cymwys o Gymru, myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Bydd uchafswm y cymorth ar gyfer astudiaethau meistr ôl-raddedig ac astudiaethau doethurol ôl-raddedig hefyd yn cynyddu 1.6%. Yn ogystal, bydd y grantiau ar gyfer y rheini sydd â dibynyddion a'r rheini sy'n anabl hefyd yn cynyddu 1.6%.
Llywodraeth Cymru sy'n cynnig y cymorth mwyaf hael tuag at gostau byw myfyrwyr israddedig amser llawn yn y DU, ac mae gennym y lefelau uchaf o gymorth grant nad oes rhaid i'r bobl fwyaf anghenus ei ad-dalu. Ar gyfartaledd, mae myfyrwyr Cymru yn ad-dalu llai na'u cydfyfyrwyr yn Lloegr.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol ar gyfer Medr i gefnogi addysg bellach ac uwch. Mae hyn yn cynnwys £10m i gefnogi addysgu a dysgu, gwaith ymchwil, ehangu mynediad a rheoli newid mewn prifysgolion, a bydd £10 miliwn yn cael ei roi i golegau addysg bellach i dalu costau'r galw cynyddol a chymorth i ddysgwyr.
I gydnabod costau uwch darpariaeth addysg uwch a darparu cyllid ychwanegol i Brifysgolion Cymru, ac i helpu i sicrhau eu bod yn parhau'n hyfyw ac yn gystadleuol, bydd y cap ar yr uchafswm y gellir ei godi ar fyfyrwyr israddedig sy'n dewis astudio yng Nghymru yn cynyddu i £9,535 o £9,250, yn unol â Lloegr. Ni fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar faint o arian sydd ar gael i fyfyrwyr tra byddant yn astudio. Bydd y benthyciad ffioedd dysgu hefyd yn cynyddu hyd at £9,535. Bydd y diddymiad rhannol o hyd at £1,500 o ddyled myfyriwr, pan fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad, yn parhau. Mae hyn yn unigryw i fyfyrwyr o Gymru, lle bynnag y maent yn astudio.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol, ac mae'n destun balchder i mi bod Cymru bob amser wedi cynnig y gefnogaeth ariannol fwyaf hael yn y DU i'n myfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol a sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb, beth bynnag eu cefndir, a'u bod yn gallu manteisio arni, fel y gallwn godi lefel sgiliau er budd economi Cymru i'r dyfodol.
Roedd y penderfyniad i godi ffioedd dysgu yn anodd ond yn angenrheidiol, er mwyn sicrhau bod sefydliadau addysg uwch Cymru yn parhau i gystadlu â rhannau eraill o'r DU. Rwyf am fod yn glir na ddylai'r cynnydd bach hwn mewn ffioedd ddarbwyllo unrhyw un o Gymru sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol y flwyddyn nesaf i beidio â gwneud hynny. Ni fydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw. Ni fydd chwaith yn cynyddu eu had-daliadau misol fel graddedigion.