Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd canllawiau ychwanegol hefyd ar y disgresiwn fydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio’r premiymau.

Daw hyn yn sgil trafod ac ymgysylltu parhaus â chynghorau, cymunedau a'r diwydiant twristiaeth.

Bwriad y newidiadau treth, a fydd mewn grym o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yw datblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu’n rhedeg busnesau. Mae'r newidiadau'n dangos yn gliriach bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd fel rhan o fusnes llety gwyliau dilys.

Mae'r meini prawf ar gyfer penderfynu bod llety hunanddarpar yn atebol i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor yn cael eu cynyddu. Yn hytrach na chael ei osod am o leiaf 70 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, bydd gofyn i’r eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod.

Bydd y newid a gyhoeddir heddiw yn golygu y bydd dau gategori arall o eiddo yn cael eu heithrio o'r premiymau treth gyngor os nad ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf gosod mwyach. Bydd hyn yn berthnasol i bob eiddo sy'n cael ei gyfyngu gan amodau cynllunio sy'n golygu mai dim ond fel llety gwyliau tymor byr y gellir ei ddefnyddio, neu sy’n ei atal rhag cael ei ddefnyddio fel prif breswylfa rhywun.

Mae canllawiau wedi'u diweddaru, sy’n cael eu hanfon at awdurdodau lleol er mwyn  ymgynghori arnynt, hefyd yn cadarnhau'r disgresiwn sydd ar gael pe bai llety gwyliau’n methu â bodloni'r meini prawf gosod newydd.

Bwriad y cam hwn yw sicrhau bod y newidiadau a wneir yn cael eu gwneud mewn ffordd mor deg â phosibl, gan sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion cymunedau sydd â nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau fel rhan o sector twristiaeth cynaliadwy.

Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu ar unwaith i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Rwy’n cydnabod teimladau cryfion darparwyr llety hunanddarpar yn eu hymateb i’r newidiadau i'r meini prawf gosod, ac rwyf wedi gwrando ar y sylwadau gan fusnesau unigol a chyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol a byddant yn sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle mae ganddyn nhw gartrefi neu lle maen nhw’n rhedeg busnesau.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian AS:

Trwy weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol yn y Senedd, rydyn ni wedi gallu gweithredu'n gyflym i ddechrau mynd i'r afael â hen anghyfiawnderau a methiannau'r farchnad yn y system dai sy'n cael effaith ar gymunedau ledled Cymru. Ein nod yw sicrhau bod mwy o dai ar gael i bobl leol eu rhentu a'u prynu, a’u bod yn fwy fforddiadwy. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam synhwyrol i'w gymryd er mwyn sicrhau bod y pecyn o fesurau rydyn ni'n ei gyflwyno yn gallu cael ei weithredu mewn ffordd mor effeithiol â phosib – i wneud y gwahaniaeth mwyaf posib i bobl a chymunedau gan liniaru unrhyw ganlyniadau anfwriadol yr un pryd.

Mae nifer o eithriadau eisoes bremiymau’r dreth gyngor.  Er enghraifft, ni ellir codi premiwm ar eiddo sy'n destun amod cynllunio sy'n ei atal rhag cael ei feddiannu am gyfnod parhaus o o leiaf 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn.