Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y bydd bron i 400 yn fwy o leoedd hyfforddi i nyrsys yn cael eu creu yng Nghymru, diolch i gynnydd pellach o 8% yng nghyllideb hyfforddiant GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Cynllun Addysg a Hyfforddiant uchelgeisiol 2023-24 Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer GIG Cymru, sef cynllun a gefnogir gan y pecyn buddsoddi uchaf erioed o £281m.

Dyma’r nawfed flwyddyn yn olynol inni weld cynnydd mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn cefnogi 527 o leoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol y GIG, o wyddonwyr a fferyllwyr i therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion, yn ogystal ag amrywiaeth o nyrsys.

Mae’r cynnydd mewn lleoedd hyfforddi yn cynnwys y proffesiynau canlynol (gweler y rhestr lawn isod):

  • Lleoedd hyfforddi i nyrsys oedolion, o 1,651 i 1,892 – sef cynnydd o 14.6%.
  • Lleoedd hyfforddi i nyrsys plant, o 175 i 192 – sef cynnydd o 9.7%.
  • Lleoedd hyfforddi i nyrsys iechyd meddwl, o 410 i 530 – sef cynnydd o 29%.
  • Lleoedd hyfforddi i fydwragedd, o 185 i 190 – sef cynnydd o 2.7%.
  • Lleoedd hyfforddi i ffisiotherapyddion, o 174 i 180 – sef cynnydd o 3.4%.
  • Lleoedd hyfforddi i therapyddion galwedigaethol, o 179 i 197 – sef cynnydd o 10%.
  • Lleoedd hyfforddi i barafeddygon, o 116 i 120 – sef cynnydd o 3.4%.
  • Lleoedd hyfforddi i dechnegwyr fferyllol, o 30 i 50 – sef cynnydd o 66.7%.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

Er gwaetha’r pwysau ar ein cyllideb oherwydd chwyddiant, rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol yn y GIG yma yng Nghymru.

Dw i wrth fy modd o allu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi unwaith eto i nyrsys a llawer o’r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan mai nhw sy’n creu sylfaen gadarn i’n gwasanaeth iechyd.

Rhaid sicrhau bod aelodau gweithlu’r GIG wedi eu hyfforddi’n briodol ac yn meddu ar y sgiliau iawn er mwyn inni allu darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru a gwella’r safonau yn ein gwasanaeth iechyd.

Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn helpu i greu gweithlu a fydd yn gallu ymateb i heriau’r dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae mwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda ffocws ar atal afiechyd a darparu gofal ym mhob cymuned.

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Nyrsys a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn AaGIC, Lisa Llewelyn:

Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol o’r GIG yng Nghymru, a bydd yn helpu i gynnal y niferoedd presennol yn y gweithlu a hefyd y niferoedd ar gyfer y dyfodol.

Drwy adeiladu ar dwf y blynyddoedd diwethaf, bydd y lleoedd addysg a hyfforddi ychwanegol yn cynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwahanol sydd ar gael i ddarparu gofal o safon i’n pobl drwy weithio mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau yng Nghymru.