Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae pobl Cymru yn fodlon â gwasanaethau cyhoeddus ac â'u bywydau bob dydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg wyneb-yn-wyneb o fwy na 11,000 o oedolion dros 16 oed sy'n cael eu dewis ar hap i gymryd rhan. Mae'r canlyniadau yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn lle gwell i fyw.

Ymhlith canlyniadau allweddol Arolwg Cenedlaethol 2017-18 gwelwyd bod:

 

  • 86% o'r bobl a oedd yn rhan o'r arolwg yn fodlon â gofal eu meddyg teulu, a 90% yn fodlon â'r gofal yr oeddynt wedi ei dderbyn yn eu hapwyntiad diwethaf yn y ysbyty Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • 88% o rieni yn fodlon ag ysgol gynradd eu plentyn, a 75% yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plentyn 
  • 68% yn dweud eu bod yn gallu talu eu biliau a bodloni eu hymrwymiadau heb unrhyw anhawster
  • 86% yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth y dylid bod yn falch ohoni 
  • 77% yn fodlon â'u gallu i gael gwasanaethau yn eu hardal leol
  • 85% yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Mae tua hanner y cwestiynau yn arolwg 2017-18 yn newydd ac mae amryw o gwestiynau yn ymwneud â gweithgareddau'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, mynediad i wasanaethau lleol ac agweddau at y Gymraeg.

Yn ôl y canlyniadau, yn gyffredinol, mae 82% o bobl Cymru yn fodlon â'u bywydau. Wrth groesawu'r canlyniadau, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:

 

 

“Mae'n ein helpu i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus drwy gael gwybod lle mae pethau'n gweithio'n dda ond hefyd lle mae yna faterion sydd angen rhoi sylw iddyn nhw.

 

“Cafodd yr arolwg ei gynnal yn wyneb rhaglen barhaus a niweidiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyni cyllidol. Er gwaethaf hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dal i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus sy'n addas ar gyfer yr oes fodern ac mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod pobl yng Nghymru yn fodlon yn gyffredinol â'r gwasanaethau sydd mor bwysig inni i gyd.

“Mae canfyddiadau'r arolwg hwn yn amserol a byddan nhw'n ein helpu ni i gyflenwi gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl, ac y dylai pobl eu disgwyl.

“Mae clywed barn pobl o bob cwr o'r wlad yn mynd i helpu i wneud Cymru yn lle hyd yn oed gwell i fyw, gweithio ac i'w fwynhau.”

Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18