Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cafcass Cymru yn croesawu cyhoeddi'r Adroddiad “Everyday Business” a chyhoeddiad y Llywodraeth mewn perthynas â diddymu'r rhagdybiaeth o gyfranogiad rhieni.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cafcass Cymru yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad “Everyday Business” gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig. Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ymchwil a gafodd ei harwain gan academyddion o Brifysgol Loughborough, a aeth ati i ddadansoddi 300 o ffeiliau achosion ac i arsylwi ar 100 o wrandawiadau llys, yn ogystal â siarad â gweithwyr proffesiynol y system cyfiawnder teuluol a grwpiau ffocws yn cynnwys goroeswyr. 

Er i'r ymchwil nodi rhai enghreifftiau o arferion da, mae'r adroddiad yn nodi bod llawer i'w wneud o hyd i fynd i'r afael â'r rhwystrau strwythurol a all arwain at ganlyniadau anniogel i oroeswyr sy'n blant ac yn oedolion – diwylliant o blaid cyswllt, prosesau llys gwrthwynebol, cyfyngiadau o ran adnoddau a threfniadau gweithio mewn seilo – a nodwyd yn adroddiad y ‘Panel ar Niwed’ a gyhoeddwyd yn 2020. 

Mae Cafcass Cymru yn cydnabod bod angen gwneud newidiadau diwylliannol parhaol. Yn sgil cyhoeddi Adroddiad y Panel ar Niwed yn 2020 a'r gwaith maes a gynhaliwyd ar gyfer yr astudiaeth “Everyday Business”, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella ein hymateb i gam-drin domestig. Ers 2021, rydym wedi cael cymorth gyda'n gwaith yn y maes hwn gan Cymorth i Ferched Cymru, drwy drefniant secondiad sydd ar waith o hyd.

Gwnaethom gyhoeddi canllawiau ymarfer ar gam-drin domestig ym mis Mai 2025 ar gyfer ein hymarferwyr ac rydym wrthi'n rhoi dull gweithredu sy'n fwy ystyriol o drawma ar waith drwy ein fframwaith ymarfer. Mae Cafcass Cymru yn parhau'n ymrwymedig i wella'r ffordd rydym yn nodi achosion o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol ac yn ymateb iddynt, sydd, fel y dywed Adroddiad y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a hynny'n gwbl briodol, yn aml yn cael eu bychanu neu eu diystyru. Drwy ein partneriaeth â Sefydliad Safe & Together, rydym yn rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i'n hymarferwyr fel y gallant ddeall effaith cam-drin domestig ar blant a theuluoedd yn well, a chadw'r ffocws ar fan cychwyn y niwed: ymddygiad y cyflawnwr. 

Mae Cafcass Cymru yn croesawu cyhoeddi adolygiad y Llywodraeth i'r rhagdybiaeth o gyfranogiad rhieni, a'r cyhoeddiad y bydd y rhagdybiaeth yn cael ei diddymu o Ddeddf Plant 1989. Rydym yn cydnabod bod lleisiau plant wedi cael eu tawelu neu eu hymyleiddio yn rhy aml o ganlyniad i ddiwylliant sydd o blaid cyswllt. Mae diddymu'r rhagdybiaeth yn gam pwysig tuag at sicrhau canlyniadau i blant sy'n canolbwyntio ar eu hawliau, eu diogelwch a'u llesiant ac sy'n eu hamddiffyn rhag ymddygiad niweidiol. 

Mae Cafcass Cymru yn gweithio i sicrhau bod profiadau a dymuniadau plant yn ganolog i'n hasesiadau a'n hargymhellion. Mae'r broses o gyflwyno'r llys Braenaru ledled Cymru gyfan ym mis Ebrill 2025 yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod llais pob plentyn sy'n destun achosion cyfraith breifat yng Nghymru yn cael ei glywed.

Rydym yn ymrwymedig i gydweithio â'n partneriaid ar draws y system cyfiawnder teuluol, Llywodraeth Cymru a'r sector cam-drin domestig i gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen. Byddwn yn parhau i wrando, i ddysgu ac i weithredu – gan ddwyn cyflawnwyr i gyfrif am effeithiau eu hymddygiad a gosod diogelwch a llesiant plant a goroeswyr wrth galon popeth rydym yn ei wneud.