Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Prif bwyntiau

Myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru mewn darparwyr addysg uwch y DU (SAU)

  • Cynyddodd nifer y myfyrwyr o Gymru a gofrestrwyd mewn SAU yn y DU 6.4% o 102,665 yn 2019/20 i 109,190 yn 2020/21.
  • Bu cynnydd o 3.6% yn nifer y myfyrwyr israddedig o Gymru; o 83,800 yn 2019/20 i 86,845 yn 2020/21. Daeth y cynnydd hwn yn bennaf o gynnydd yn nifer yr israddedigion rhan-amser a gynyddodd 8.0%; o 22,830 yn 2019/20 i 24,665 o fyfyrwyr yn 2020/21.
  • Bu cynnydd o 18.4% yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru; o 18,865 yn 2019/20 i 22,345 yn 2020/21.
  • Am bob dau o ddynion a oedd wedi cofrestru mewn SAU, roedd tair o fenywod.

Cofrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru

  • Mae nifer y cofrestriadau mewn SAU yng Nghymru wedi cynyddu 6.5%; o 136,370 yn 2019/20 i 145,175 yn 2020/21.
  • Mae nifer yr israddedigion llawn amser wedi cynyddu 3.2%; o 82,275 yn 2019/20 i 84,890 yn 2020/21. 
  • Mae nifer y myfyrwyr israddedig rhan-amser wedi cynyddu 5.5%; o 24,845 yn 2019/20 i 26,205 yn 2020/21.
  • Cynyddodd nifer y myfyrwyr ôl-raddedig 16.5%; o 29,240 yn 2019/20 i 34,075 yn 2020/21. 
  • Astudiodd 40.1% o ôl-raddedigion yn rhan-amser, o'i gymharu â 23.6% o israddedigion.
  • Roedd ychydig dros hanner nifer y myfyrwyr mewn SAU yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn SAU yng Nghymru yn 2020/21 oedd Busnes a rheoli, a phynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.

Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr amser llawn

  • Mae Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr amser llawn o’r DU.
  • Roedd 40,680 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU mewn SAU yng Nghymru, o gymharu â 27,690 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru yn astudio mewn SAU yng ngweddill y DU.
  • Astudiodd 37.6% o israddedigion llawn amser o Gymru yn Lloegr, a 34.2% o ôl-raddedigion llawn amser o Gymru a astudiwyd yn Lloegr.

Cymwysterau addysg uwch

  • Cynyddodd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru 6.2%; o 28,515 yn 2019/20 i 30,290 yn 2020/21.
  • Roedd tua thri chwarter y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
  • Cynyddodd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan brifysgolion yng Nghymru 7.8%; o 40,250 yn 2019/20 i 43,390 yn 2020/21.
  • Gellir priodoli'r cynnydd hwn i'r gostyngiad sylweddol mewn cymwysterau rhwng 2018/19 a 2019/20. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o rai darparwyr a welodd oediadau gweinyddol yn ymwneud â phandemig COVID-19 a ddechreuodd ym mlwyddyn academaidd 2019/20. Fel ganlyniad, cafodd cymwysterau na chawsant eu hadrodd ym mlwyddyn academaidd 2019/20 eu cario drosodd i 2020/21

Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru

  • Mae nifer y myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch mewn SABau yng Nghymru wedi gostwng 17.4%; o 1,580 yn 2019/20 i 1,305 yn 2020/21.

Daw'r data a gynhwysir yn bennaf o Gofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ac yn seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, sy'n cynnwys cofrestriadau myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae HESA yn cyhoeddi data cyfunol o gofnod Myfyriwr HESA a chofnod amgen Myfyriwr HESA. O ganlyniad, gall ffigurau a gyhoeddir gan HESA ac Stats Cymru fod yn wahanol

Gwybodaeth bellach

Nid yw tablau lefel pwnc ar StatsCymru wedi'u diweddaru oherwydd problem gyda chodio pwnc yn newid rhwng blynyddoedd. Bydd y tablau hyn yn cael eu diweddaru yn ystod yr wythnosau nesaf pan fydd y mater wedi'i ddatrys.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.