Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.

Cofrestriadau addysg uwch gan fyfyrwyr yng Nghymru

  • Yn 2017/18, fe wnaeth nifer y myfyrwyr o Gymru a gofrestrodd mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig barhau â’r gostyngiad a welwyd dros yr wyth mlynedd diwethaf, gan ddisgyn ychydig i 96,780.
  • Roedd y dirywiad hwn o ganlyniad i ostyngiad o 1,880 (6%) yn nifer y myfyrwyr rhan-amser yn 2017/18.
  • Am bob 2 o ddynion sydd wedi cofrestru mewn prifysgol, roedd 3 o fenywod.
  • Mae nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru wedi cynyddu o 59,745 i 60,155 yn 2017/18 (cynnydd o 1%).
  • Mae nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru wedi cynyddu o 15,350 i 16,665 yn 2017/18 (cynnydd o 9%).
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd oedd Pynciau Perthynol i Feddygaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn gofrestriadau nyrsio.

Cofrestriadau addysg uwch yng Nghymru

  • Mae’r nifer sydd wedi cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru wedi aros ar lefel sy’n debyg i’r hyn ydoedd yn 2017/18 yn dilyn gostyngiad dros y pum mlynedd diwethaf.
  • Roedd gostyngiad o 1,995 (7%) yn nifer y myfyrwyr israddedig a oedd yn astudio’n rhan-amser.
  • Bu cynnydd arall yn nifer yr israddedigion llawn amser i’r ffigur uchaf a gofnodwyd erioed, sef 80,690.
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o 24,365 i 25,205 yn 2017/18 (cynnydd o 3%).
  • Roedd bron i ddau o bob pump myfyriwr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o gymharu â dim ond un o bob pump myfyriwr israddedig.
  • Roedd dros hanner y myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2017/18 oedd Gwyddorau Biolegol, gyda Phynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.

Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr llawn amser

  • Mae Cymru’n fewnforiwr net myfyrwyr llawn amser o’r DU. Yn 2017/18, derbyniodd Cymru 9,795 yn fwy o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU nag a anfonwyd i’r gwledydd hynny.
  • Roedd 36,290 o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU mewn prifysgolion yng Nghymru, o gymharu â 26,495 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio mewn SAUau yng ngweddill y DU.
  • Roedd dau o bob pump myfyriwr israddedig o Gymru yn astudio yn Lloegr, fel y gwnaeth ychydig dros un o bob tri myfyriwr ôl-raddedig o Gymru.

Cymwysterau addysg uwch

  • Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru wedi gostwng i  27,980 yn 2017/18.
  • Roedd ychydig dros dri chwarter y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
  • Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan brifysgolion yng Nghymru wedi gostwng ychydig yn 2017/18 i 40,085.

Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru

  • Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru ar gael o 2016/17 ymlaen.
  • Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru wedi cynyddu o 1,400 yn 2016/17 i 1,670 yn 2017/18.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.