Neidio i'r prif gynnwys

Segura llonydd yw pan fydd cerbyd yn stopio ar ffordd gyhoeddus gyda'r injan yn dal i redeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lleihau allyriadau o drafnidiaeth ar y ffyrdd yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn wella ansawdd aer. Gall diffodd eich injan pan fyddwch yn parcio helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Gall diffodd hefyd arbed tanwydd ac arian. 

Mae'n drosedd gadael eich injan i redeg. Gallech dderbyn dirwy o hyd at £150 am wneud hynny o'r 30 Medi 2026. 

Mae Rheol 123 o Reolau'r Ffordd Fawr yn dweud bod rhaid i yrwyr ddefnyddio'r brêc parcio a diffodd yr injan pan fydd eu cerbyd yn llonydd ar ffordd gyhoeddus.

Sut y gallwch chi helpu

Pan fydd eich cerbyd wedi'i barcio am fwy nag ychydig funudau, cofiwch ddiffodd eich injan. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gallai fod achlysuron pan fydd angen i'ch injan segura:

  • Os yw'n ymddangos bod gan eich injan nam ac mae angen ei redeg at ddibenion diagnostig neu gynnal a chadw
  • Os yw'ch cerbyd yn llonydd oherwydd traffig.

Enghreifftiau o pan nad yw'n dderbyniol gadael eich injan i redeg:

  • Os ydych yn aros i godi neu ollwng teithwyr
  • Os ydych yn gwefru ffôn neu'n gwrando ar gerddoriaeth
  • Gweithredu systemau gwresogi / oeri am gysur

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol bod segura llonydd yn drosedd. Rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn annog gyrwyr i ddiffodd yr injan i arbed arian a chadw ein haer yn lân. 

Rydym hefyd yn newid y ddirwy cosb benodedig bresennol o £20 gydag ystod cosb uwch o £75-£150 o 30 Medi 2026. Bydd hyn yn adlewyrchu canlyniadau difrifol llygredd aer.

Rhesymau dros osgoi segura

  • Mae'n creu llygredd aer a sŵn sy'n niweidiol i iechyd y cyhoedd. Bob munud mae injan car yn cael ei adael yn segur, mae'n cynhyrchu digon o allyriadau egsôst i lenwi hyd at 150 o falwnau â llygryddion niweidiol, gan gynnwys cyanid [1].
  • Mae segura llonydd yn cyfrannu at ystod o broblemau gan gynnwys clefydau'r galon a'r ysgyfaint. Gall cysylltiad byrdymor â lefelau uchel o lygredd aer achosi effeithiau iechyd ar unwaith, ac mae cysylltiad hirdymor yn gysylltiedig â disgwyliad oes byrrach [2]. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn amcangyfrif y gallai llygredd aer fod yn gysylltiedig â thua 30,000 o farwolaethau yn 2025 yn y DU.
  • Mae plant, pobl ifanc a phobl â chyflyrau iechyd yn arbennig o agored i niwed. Mae ymchwil wedi dangos bod crynodiadau llygryddion yn aml yn uwch gerllaw lefel y ddaear [3]. Felly, gall babanod mewn cadeiriau gwthio, plant ifanc, pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd, a grwpiau eraill sy'n agored i niwed ddod i fwy o gysylltiad â llygredd mewn ardaloedd lle mae injans yn cael eu gadael yn segura [4].
  • Mae segura llonydd yn gwastraffu tanwydd a gall effeithio ar bobl y tu mewn i'r car, yn ogystal â'r tu allan. Gall ansawdd yr aer y tu mewn i gerbyd fod yr un mor wael â'r tu allan, neu'n waeth, yn enwedig pan fydd y cerbyd yn segura'n llonydd gerllaw cerbydau eraill sy'n gwneud yr un peth [5]. Gall segura am awr wastraffu hanner galwyn (dau litr a chwarter) o danwydd neu fwy [6].

How you can help

When your vehicle is parked for more than two minutes, please remember to switch off your engine. We recognise that there may be occasions when you may need to idle your engine:

  • If your engine appears to have a fault and needs to be running for diagnostic or maintenance purposes
  • If your vehicle is stationary because of traffic.

Examples of when it is not acceptable to leave your engine running:

  • If you’re waiting to pick up or drop off passengers
  • If you’re charging a phone or listening to music
  • Using heating or cooling systems for comfort.

What we’re doing

Many people are not aware that stationary idling is an offence. We are raising awareness and encouraging drivers to switch off to save money and keep our air clean. 

We are also replacing the current £20 fixed penalty fine with a higher penalty range of £75-£150 from 30 September 2026. This will reflect the serious consequences of air pollution.

References