Neidio i'r prif gynnwy

1.Prif ganfyddiadau

Nid oes gan ychydig dros 17,000 neu 13.5% o gleifion a warchodir fynediad i fannau awyr agored preifat, o’i gymharu â 105,000 (82.6%) sydd â mynediad i fannau o’r fath. Ar gyfer 5,000 o gleifion a warchodir (3.9%) nid yw'n glir a oes ganddynt fynediad i fan awyr agored preifat gan ni ellid cysylltu eu data.

Mae gan ganran uwch o aelwydydd sy’n cynnwys cleifion a warchodir (‘aelwydydd a warchodir’) fynediad i fan awyr agored preifat (85.8%) na chyfartaledd Cymru (80.3%). Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Roedd y gyfradd baru ar gyfer y rhestr cleifion a warchodir i ddata mannau gwyrdd yr Arolwg Ordnans (OS) yn 96.1%. Nid oedd y 3.9% a oedd yn weddill o gofnodion cleifion a warchodir yn cyfateb i ddata'r Arolwg Ordnans.

Image
Mae gan ganran uwch o aelwydydd sy’n cynnwys cleifion a warchodir (‘aelwydydd a warchodir’) fynediad i fan awyr agored preifat (85.8%) na chyfartaledd Cymru (80.3%).

Aelwydydd sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yng Nghymru, mis Mehefin 2020 (MS Excel)

2. Unigolion a warchodir yn ôl awdurdod lleol

Mae canran yr unigolion â mynediad i fan awyr agored preifat yn amrywio yn ôl awdurdod lleol, gyda’r ganran uchaf yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (87.8% a 87.7%) a’r ganran isaf yng Nghonwy a Chaerdydd (76.4% a 77.1%).

Nid oeddem yn gallu cysylltu canran fechan o gleifion a warchodir â data mynediad i fannau awyr agored breifat. Fe'u dangosir yn siart 2 isod mewn categori ar wahân.

Image
Mae canran yr unigolion â mynediad i fan awyr agored preifat yn amrywio yn ôl awdurdod lleol, gyda’r ganran uchaf yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (87.8% a 87.7%) a’r ganran isaf yng Nghonwy a Chaerdydd (76.4% a 77.1%).

Cleifion a warchodir sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn ôl awdurdod lleol, mis Mehefin 2020 (MS Excel)

3. Mynediad aelwydydd i fannau awyr agored preifat yn ôl awdurdod lleol

Mae canran yr aelwydydd sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn amrywio yn ôl awdurdod lleol. Ym mhob awdurdod lleol, mae canran yr aelwydydd sy’n cymryd camau gwarchod sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn uwch nag ar gyfer pob cartref.

Mae aelwydydd a warchodir yn wahanol i unigolion a warchodir oherwydd efallai bod mwy nag un claf sy’n cymryd camau gwarchod yn byw yn yr aelwyd. Nid yw'r ffigurau isod yn cynnwys cleifion a warchodir â mynediad anhysbys at fannau awyr agored preifat gan nad oedd yn bosibl canfod a oeddent yn byw gyda chlaf arall a oedd yn cymryd camau gwarchod.

Image
Mae canran yr aelwydydd sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn amrywio yn ôl awdurdod lleol. Ym mhob awdurdod lleol, mae canran yr aelwydydd sy’n cymryd camau gwarchod sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn uwch nag ar gyfer pob cartref.

Aelwydydd a warchodir â mynediad i fannau awyr agored preifat yng Nghymru, mis Mehefin 2020 (MS Excel)

Image
Mae canran yr aelwydydd sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn amrywio yn ôl awdurdod lleol. Ym mhob awdurdod lleol, mae canran yr aelwydydd sy’n cymryd camau gwarchod sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yn uwch nag ar gyfer pob cartref.

Pob aelwyd sydd â mynediad i fannau awyr agored preifat yng Nghymru, mis Mehefin 2020 (MS Excel)

4. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol (ADRU) yn Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau amrywiol o gysylltiadau data, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â’r pandemig COVID-19. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, roedd data mannau gwyrdd Arolwg Ordnans ar fynediad i fannau awyr agored preifat yn gysylltiedig â'r Rhestr Cleifion a Warchodir yng Nghymru er mwyn amcangyfrif canran yr aelwydydd a warchodir ac unigolion nad oes ganddynt fynediad at fannau agored preifat.

Mae data Arolwg Ordnans ar fannau gwyrdd yn cynnwys gwybodaeth am bresenoldeb neu absenoldeb mannau awyr agored preifat ar gyfer cyfeiriadau preswyl. Defnyddiwyd data gwaelodlin ardal dopograffig o 14/08/2019 i bennu ardaloedd a oedd yn cynnwys o leiaf un adeilad ac un nodwedd gardd breswyl, ac roedd wedi’i gysylltu â chofnodion cyfeiriadau i gynhyrchu'r data hwn.

Mae'r Rhestr Cleifion a Warchodir wedi’i llunio gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data gan y gwasanaeth iechyd. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gleifion byw a nodwyd fel rhai ‘risg uchel’ yn ystod pandemig coronafeirws ac a gynghorwyd yn y lle cyntaf i gysgodi am 12 wythnos. Roedd y dadansoddiad hwn yn defnyddio'r Rhestr Cleifion a Warchodir ar gyfer Cymru ar 15/06/2020. Y perchnogion data yw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), ac ychwanegwyd data Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) yn seiliedig ar wybodaeth am gyfeiriadau gan Ganolfan Wybodaeth Casnewydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ffynonellau a'r fethodoleg gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Gwnaethom gysylltu’r Rhestr Cleifion a Warchodir a setiau data mannau gwyrdd yr Arolwg Ordnans gan ddefnyddio SQL i uno'r setiau data ar y Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN). Gwnaethom ddadansoddi’r canlyniadau yn ôl awdurdod lleol, math o breswylfa ac argaeledd lle awyr agored preifat. Cofrestrwyd nifer fach o gleifion a warchodir mewn preswylfeydd y tu allan i Gymru a chawsant eu tynnu o'r canlyniadau a dadansoddiadau pellach. Dilëwyd ffigurau dyblyg y GIG hefyd.

At ddibenion y dadansoddiad hwn, lle'r oedd data'r Arolwg Ordnans yn dangos mai fflat oedd yr eiddo, tybiwyd gennym mai 'na' oedd yr ateb o ran mannau preifat yn yr awyr agored, gan fod pennu safleoedd yn fflatiau yn awtomatig yn fwy tebygol o arwain at gamgymeriadau nag ydyw ar gyfer tai. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berffaith gan y bydd gan lawer o fflatiau falconïau (er bod y rhain yn debygol o gynnig cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer ymarfer corff) a bydd gan rai fynediad at ardd breifat.

Lle'r oedd UPRN ar y Rhestr Cleifion a Warchodir ar goll neu ddim yn cyfateb i UPRN ar set ddata mannau gwyrdd, nid oedd yn bosibl cynnwys y cofnodion yn y dadansoddiad lefel aelwydydd, gan nad oedd yn bosibl asesu pa gleifion a allai fod yn byw dan yr un to.

Nid yw'n glir eto sut y gallai cartrefi gofal, carchardai a sefydliadau eraill fod yn effeithio ar y canlyniadau hyn.

Cynhaliwyd yr ymchwil hon fel rhan o raglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. Mae rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn cyd-fynd â’r themâu blaenoriaeth fel y’u nodir yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru’n dod ag arbenigwyr gwyddor data o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) Prifysgol Caerdydd a thimau arbenigol Llywodraeth Cymru ynghyd i ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi Ffyniant i Bawb gan ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru’n rhan o Ymchwil Data Gweinyddol Prydain sydd wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) (grant ES/S007393/1).

5. Manylion cyswllt

Kathryn Helliwell
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ADRUWales@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
ADR Wales

 

SFR 103/2020