Mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad cyflymach at gymorth iechyd meddwl, wrth i amseroedd aros ostwng ledled Cymru.
Aseswyd y mwyafrif helaeth (96.2%) o bobl ifanc a atgyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod, gwelliant sylweddol a pharhaus o ran amseroedd aros.
Mae'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd yn nodi'r uchelgais ar gyfer cymorth iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r uchelgais hon yn cynnwys darparu cymorth mynediad agored at wasanaethau iechyd meddwl a thrawsnewid sut mae pobl ifanc yn cael mynediad at gymorth.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi cyflwyno dewisiadau amgen i bobl ifanc yn lle cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae'r cynlluniau peilot hyn yn profi gwahanol fodelau gofal i ddarparu mannau diogel sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc pan fydd angen cymorth arnyn nhw.
Mae'r gwasanaeth 111 pwyso 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys bellach wedi cael dros 230,000 o alwadau. Mae mwy na 6% o'r galwyr o dan 18 oed, a thros 20% o dan 24 oed.
Nod manyleb newydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un ansawdd o gymorth lle bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru. Mae pob bwrdd iechyd bellach yn gweithio tuag at y safon hon i leihau amrywiadau mewn gofal.
Mae'r fframwaith NYTH yn parhau i ddod â gwasanaethau at ei gilydd i ddarparu mwy o gymorth cydgysylltiedig, gofalgar i blant a theuluoedd.
Mae dros 200 o sefydliadau bellach yn ymgysylltu â chymuned ymarfer NYTH, a thrwy hyfforddiant wedi'i gydgynhyrchu, mae dros 500 o weithwyr proffesiynol wedi dysgu am hawliau plant ac egwyddorion NYTH. Mae'r rhain yn cynnwys dull system gyfan ar gyfer cymorth iechyd meddwl.
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
Mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant yn foment bwysig i fyfyrio ar y cynnydd rydyn ni'n ei wneud i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.
Rydyn ni eisiau i bob plentyn gael cymorth iechyd meddwl pan fydd arnyn nhw ei angen fwyaf. Mae'r gwelliannau rydyn ni'n eu gweld o ran amseroedd aros, ochr yn ochr â llwyddiant cynyddol ein fframwaith NYTH a'n strategaeth 10 mlynedd uchelgeisiol, yn dangos bod ein dull system gyfan yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Drwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, rydyn ni'n gweithio i greu Cymru lle gall pob plentyn a pherson ifanc ffynnu.
