Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cael ei enwi yng Ngorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 fel corff sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007

Pennaeth Dadansoddi Data yr ACC sy’n rhoi mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau ACC.   

1. Pwy sydd â mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau ar eu ffurf derfynol

Mae mynediad cyn-rhyddhau yn rhoi mynediad at ystadegau ar eu ffurf derfynol cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae’r rheolau sy’n rheoli pwy gaiff fynediad cyn-rhyddhau a pham wedi’u nodi yng Ngorchymyn Mynediad Cyn-rhyddhau at Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2009.

Mae pob derbynnydd a enwir ar y rhestr mynediad cyn-rhyddhau wedi llofnodi datganiad yn cadarnhau:

  • bod angen mynediad arnynt ar gyfer eu swyddogaethau swyddogol
  • byddant yn cydymffurfio â’r amodau ar gyfer mynediad cyn-rhyddhau

Caiff mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau'r Awdurdod ei ddarparu 24 awr cyn i’r ystadegau gael eu cyhoeddi.

2. Pwy sydd â mynediad cyn-rhyddhau ar gyfer dibenion cynhyrchu

Rhoddir mynediad cyn-rhyddhau hefyd i nifer fach o bobl sy'n ymwneud â chynhyrchu’r cyhoeddiad ystadegol. Mae hyn yn cynnwys:

  • ystadegwyr Awdurdod Cyllid Cymru
  • cyfieithwyr
  • ysgrifenyddion (sydd â mynediad at flwch post derbynnydd a restrir isod)
  • timau cyhoeddi ar y we

Bydd datganiadau tebyg yn cael eu llofnodi gan y rhai sy’n cael mynediad at ddibenion gweithredol ond nid ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr isod. 

3. Rhestr o’r swyddi sydd â mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau ACC

Rydym yn cyhoeddi ac yn diweddaru'r rhestr ganlynol o swyddi sydd â mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau ACC. Mae hyn yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae'r rhestr mynediad cyn-rhyddhau ar gyfer datganiadau ystadegol cynharach ar gael ar gais.

Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (chwarterol a blynyddol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Chwefror 2022

  • Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Pennaeth Cyfathrebu, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Cynghorydd polisi Treth Gwarediadau Tirlenwi, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru 
  • Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru  
  • Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru 
  • Pennaeth Dadansoddi Ariannol, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru 
  • Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru 
  • Arweinydd Polisi Treth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru 
  • Pennaeth Strategaeth Wastraff, Llywodraeth Cymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir (blynyddol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Gorffennaf 2023 

  • Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru 
  • Pennaeth Cyfathrebu, Awdurdod Cyllid Cymru 
  • Cynghorydd polisi Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru 
  • Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru  
  • Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru      
  • Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru  
  • Pennaeth Dadansoddi Ariannol, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru  
  • Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru  
  • Arweinydd Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru  
  • Prif Swyddog Gweithredu / Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Awdurdod Cyllid Cymru 
  • Cyfarwyddwr Strategaeth / Galluogrwydd, Awdurdod Cyllid Cymru 
  • Pennaeth Staff, Awdurdod Cyllid Cymru 
  • Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru 
  • Pennaeth Ystadegau Economi, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru 
  • Pennaeth Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd, Llywodraeth Cymru 
  • Swyddog Ymchwil Uwch (Tai), Llwyodraeth Cymru 
  • Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru 

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir (chwarterol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Hydref 2021

  • Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Pennaeth Cyfathrebu, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Cynghorydd polisi Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
  • Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
  • Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Pennaeth Dadansoddi Ariannol, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru
  • Arweinydd Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru

Ni fu unrhyw ychwanegiadau ers y diweddariad diwethaf.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir (misol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Hydref 2021

  • Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru

Ni fu unrhyw ychwanegiadau ers y diweddariad diwethaf.