Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi heddiw y bydd targedau o ran amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau i leihau byddardod mewn oedolion yn cael eu gostwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y targed ar gyfer yr amser aros i gael llawdriniaeth i roi mewnblaniad yn y cochlea mewn oedolion yn cael ei ostwng i 26 wythnos mewn achosion arferol ac i 36 wythnos mewn achosion cymhleth. 

Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i gyflwyno’r targedau newydd ar gyfer y cyfnod rhwng atgyfeirio a thriniaeth mewn ffordd raddol dros y tair blynedd nesaf.

Mae hyn yn cwtogi’r targed presennol o 52 wythnos, a osodwyd gan y Pwyllgor, yn sylweddol. Bydd y targed newydd o 26 wythnos ar gyfer llawdriniaethau mewnblannu arferol yn cysoni’r targed i oedolion â’r targed presennol i blant.

Mae gwasanaethau arbenigol ar gyfer mewnblaniadau yn y cochlea wedi’u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac Ysbyty Glan Clwyd. Mae’r ddau wasanaeth yn cael eu cynllunio a’u comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Dyfais feddygol yw mewnblaniad yn y cochlea sy’n gallu gwneud gwaith y glust fewnol. Mae’r llawdriniaeth hon yn galluogi pobl sy’n hollol fyddar i glywed eto ac felly’n cael effaith sylweddol ar ansawdd eu bywydau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Rydym am sicrhau bod pobl sydd angen mewnblaniad yn y cochlea yn gallu cael y llawdriniaeth cyn gynted â phosibl er mwyn gwella neu adfer eu clyw.

“Mae byddardod yn gallu cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd llawer o bobl, gan effeithio ar gyflogaeth, gweithgareddau hamdden a’u perthynas ag eraill.

“Bydd adfer eu clyw cyn gynted â phosibl drwy roi mewnblaniad yn y cochlea yn helpu pobl fyddar neu drwm eu clyw i fyw bywydau arferol unwaith yn rhagor.”