Neidio i'r prif gynnwy

Bydd safleoedd Cadw ledled Cymru am ddim i bawb ar Ddydd Gŵyl Dewi, meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Twristiaeth a Diwylliant.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd safleoedd, gan gynnwys cestyll Caernarfon, Caerffili a Chydweli yn agor eu drysau i ymwelwyr yn ddi-dâl fel rhan o ddathliadau ein nawddsant, fu farw yn ôl y sôn ar 1 Mawrth 589.

Mae mynediad am ddim i'w safleoedd ar Ddydd Gŵyl Dewi yn rhan o ymdrechion parhaus Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, i ehangu a chyflwyno cynlluniau a mentrau newydd sydd wedi'u hanelu at greu diddordeb, annog cyfranogiad a sicrhau bod mwy o bobl yn dod i safleoedd treftadaeth Cymru.

Mae'r cynlluniau sydd wedi'u hanelu at ehangu mynediad i safleoedd treftadaeth Cadw yn cynnwys:
  • Ymweliadau di-dâl, addysgol - Gall ysgolion, addysgwyr cartref a grwpiau dysgu eraill sy'n gymwys wneud cais am ymweliadau wedi'u trefnu neu heb eu trefnu i nifer o safleoedd Cadw yn ddi-dâl.
  • Y cynllun maethu teuluoedd - Mewn partneriaeth gyda Gweithredu dros Blant, gall blant sy'n cael eu maethu a'r teuluoedd sy'n gofalu amdanynt ymweld â'r holl henebion sydd yng ngofal Cadw yn ddi-dâl, drwy gofrestru ar y cynllun Gweithredu dros Blant. Rydym hefyd yn derbyn deiliaid Maxcard.
  • Cynllun bancio amser - Mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Credyd Spice Time a Timebank Uk, mae'r cynllun hwn yn galluogi gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y rhaglenni hyn, ac sy'n gweithio i gefnogi eu cymunedau lleol, i 'wario' credydau sydd wedi'u hennill drwy dreulio amser yn ymweld â henebion sydd yng ngofal Cadw. 
  • Cynllun Gwobrwyo Cadw - Cynigir ymweliadau gyda chymorth i sefydliadau sy'n gweithio gyda teuluoedd ac unigolion sydd ag anghenion cymhleth, o dan eu harweiniad eu hunain. Mae hyn yn cynnwys grwpiau megis timau gwasanaethau teuluoedd Awdurdodau Lleol, ar gyfer unigolion, teuluoedd ac/neu grwpiau sy'n gweithio tuag at wella eu hamgylchiadau; elusennau Adsefydlu, megis MIND a'r rhai hynny sy'n cefnogi Dementia; Asiantaethau sy'n rhan o drefn adsefydlu yn dilyn dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau; ac Asiantaethau sy'n cefnogi mentrau Dychwelyd i'r Gwaith 
  • Pas Henebion Cadw - Bydd pas newydd yn cael ei gynnig sy'n cynnig yr hawl i ddeiliaid ymweld yn rheolaidd â safle o'u dewis. Mae'r pas yn rhan o gynllun i ehangu yr hyn a gynigir o fewn aelodaeth, mewn ymgais i ateb amrywiol ofynion gan ymwelwyr, a bydd cost yn gysylltiedig â hyn. Bydd yn bosibl gwneud cais am y pas drwy wefan Cadw, ble y bydd telerau ac amodau llawn hefyd ar gael. 
Bydd ymwelwyr anabl a'u gofalwyr, plant o dan 5, ymwelwyr i ddigwyddiadau Drysau Agored a grwpiau addysg gymunedol a grwpiau ieuenctid hefyd yn cael mynediad am ddim i safleoedd Cadw. Mae manylion llawn pob cynllun ar gael ar wefan Cadw.

Yn ogystal â chyflwyno cynlluniau i sicrhau bod mwy o bobl yn mynychu safleoedd treftadaeth, mae buddsoddiad wedi'i wneud hefyd i wella mynediad corfforol i nifer o safleoedd Cadw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pontydd wedi'u codi yng nghastell Caernarfon a Harlech, y ddau ohonynt yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd, sy'n cynnig dewis arall i'r grisiau sy'n arwain at y fynedfa ar y ddau safle, i wella mynediad i'r safleoedd. Yn ddiweddar, mae lifft newydd wedi'i osod yng Nghastell Cricieth, sy'n cynnig cyfle i ymwelwyr weld y ganolfan ddehongli a'r arddangosfeydd yn y ganolfan ymwelwyr newydd.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Roedd ein nawddsant yn enwog am annog pobl i wneud y pethau bychain. Mae agor ein safleoedd yn ddi-dâl ar Fawrth 1af yn arwydd o ddiolch i'r rhai hynny sydd wedi cyfrannu at y niferoedd ymwelwyr mwy nac erioed dros y blynyddoedd diwethaf, tra'n rhoi cipolwg i eraill o'r hyn sydd gan safleoedd gwych Cadw i'w cynnig.
"Mae sicrhau bod y safleoedd yn hawdd i fynd iddynt ac yn ddeniadol i gynifer o bobl â phosib wedi bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Cadw, ac mae nifer o safleoedd wedi cymryd camau mawr i gyflawni hyn.
"O Gastell Cricieth i Gastell Coch, rwyf wedi cael y pleser anhygoel o weld drosof fy hunan y gwelliannau, sy'n amrywio o ganolfannau ymwelwyr newydd a safleoedd ar gyfer golygfeydd, i adnewyddu, gwell mynediad ac arddangosfeydd modern - heb dynnu oddi ar atyniad yr adeiladau gwreiddiol. Rydym mor lwcus yng Nghymru i allu cynnig lleoliadau gwirioneddol unigryw, o safon fyd-eang ac rwy'n falch o weld rhaglenni a mentrau newydd yn cael eu cyflwyno i ategu hyn, gan annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau, deall a dysgu am hanes Cymru.
"Mae ein treftadaeth a'n diwylliant yn perthyn inni ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â phobl ledled Cymru i'w ddathlu, ar ddydd Gwyl Dewi a thu hwnt."
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cadw (dolen allanol).