Neidio i'r prif gynnwy

Mae sicrhau mynediad rhydd at farchnad sengl Ewrop yn ‘hanfodol’ i ddyfodol economaidd Cymru wedi Brexit, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Prif Weinidog yn siarad ar ôl ei ymweliad pum niwrnod ag Unol Daleithiau America i hyrwyddo Cymru fel lle i fuddsoddi ynddo ac i gynnal busnes ynddo. Dywedodd bod cwmnïau yn yr Unol Daleithiau yn galw am sicrwydd ynglŷn ag amodau ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd mai prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw diogelu buddiannau Cymru wrth i’r DU adael yr UE – a hynny’n cynnwys sicrhau bod gan Gymru fynediad o hyd at farchnad sengl Ewrop.

Yn ystod yr oriau yn dilyn cyhoeddi canlyniad y refferendwm, amlinellodd y Prif Weinidog chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer Cymru:

  • Diogelu swyddi;
  • Rhan lawn i Lywodraeth Cymru mewn trafodaethau am ymadawiad y DU o’r UE;
  • Mynediad o hyd at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau;
  • Diogelu’r cyllid a neilltuwyd i gyllidebau o dan raglenni’r UE tan 2020;
  • Adolygiad hirdymor o’r Grant Bloc oddi wrth Lywodraeth y DU;
  • Perthynas newydd rhwng y Llywodraethau Datganoledig a Llywodraeth y DU ar ôl Brexit.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Yn ystod fy ymweliad â’r Unol Daleithiau yr wythnos ddiwethaf, fe gwrddais i â nifer o gwmnïau sydd â phresenoldeb yng Nghymru neu sydd â diddordeb mewn buddsoddi yma. Fy neges iddyn nhw oedd bod Cymru’n agored ar gyfer busnes a’i fod yn lle gwych i gynnal busnes ynddo, i weithio ynddo ac i ymweld ag ef.

“Roedd eu neges i mi yn glir - maen nhw’n edmygu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran sgiliau a seilwaith, ond mae’r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn rhwystr sylweddol i fuddsoddwyr erbyn hyn. Roedd pob un o’r busnesau hynny eisiau clywed y byddem yn parhau i gael mynediad rhydd a dilyfethair at y farchnad sengl, a dyna pam rwy’n dal ati i bwyso ar Lywodraeth y DU yn hynny o beth.

“Os na fydd Brexit yn cynnwys mynediad at y farchnad sengl, ry’n ni mewn perygl o achosi niwed economaidd diangen i'n gwlad a'n pobl Fy mlaenoriaeth i, felly, yw gwneud yn siŵr ein bod yn diogelu buddiannau Cymru wrth i Brydain drafod ei hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny’n cynnwys mynediad rhydd at economi fwyaf y byd. Rhaid i Gymru gael lle wrth y bwrdd trafod, fel y gallwn ni sicrhau’r canlyniad gorau posib i Gymru.”