Sut y gallwch gael mynediad i apwyntiadau arferol ac argyfwng gyda deintydd GIG Cymru.
Os ydych eisoes yn glaf mewn practis deintyddol GIG, ffoniwch nhw'n uniongyrchol am unrhyw apwyntiadau deintyddol arferol neu argyfwng.
Os nad oes gennych ddeintydd GIG Cymru ar hyn o bryd ac mae arnoch angen:
- triniaeth ddeintyddol ar frys: ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth
- triniaeth ddeintyddol arferol: gallwch wneud cais am le ar-lein drwy'r porth mynediad deintyddol
Os ydych yn gymwys a'ch bod yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw lle addas ar gael.
Mae'r porth mynediad deintyddol yn galluogi pobl nad oes ganddynt ddeintydd GIG i gofrestru eu diddordeb ar gyfer gofal deintyddol arferol. Bydd byrddau iechyd yn dyrannu lleoedd mewn practisau deintyddol ledled Cymru i bobl ar y gofrestr pan fyddant ar gael. Mae'r gwasanaeth newydd wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
Os ydych wedi derbyn triniaeth gan bractis deintyddol y gwasanaeth iechyd yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ffoniwch nhw'n uniongyrchol ar gyfer unrhyw apwyntiadau deintyddol arferol neu frys. Os na allwch ddychwelyd i'r practis hwnnw, parhewch i gofrestru ar y porth mynediad deintyddol.
I fod yn gymwys i wneud cais drwy'r porth mynediad deintyddol i chi'ch hun, mae'n rhaid i chi:
- bod yn 16 oed neu'n hŷn
- byw mewn cyfeiriad yng Nghymru am fwy na 6 mis o'r flwyddyn neu fynychu practis meddyg teulu yng Nghymru
Gallwch hefyd ddefnyddio'r porth mynediad deintyddol i gofrestru ar ran eraill, fel aelod o'r teulu. Mae hyn yn cynnwys:
- rhywun o dan 16 oed
- ffrind
- cymydog
- rhywun rydych chi'n gofalu amdano
- rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo
Bydd y gwasanaeth cenedlaethol newydd hwn yn rhoi darlun clir i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a sefydliadau partner o raddfa'r galw am wasanaethau deintyddol y GIG er mwyn gwella canlyniadau cleifion.
