Adroddiad ar waith ymchwil ansoddol a gynhaliwyd er mwyn ystyried barn y cyhoedd ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir mewn meddygfeydd yn ystod oriau arferol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd cyfuniad o grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl wyneb-yn-wyneb ym mis Ionawr/Chwefror 2019 mewn tri lleoliad: Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.
Canfyddiadau allweddol
- Y ffactorau mwyaf amlwg a oedd yn dylanwadu ar brofiadau cadarnhaol a negyddol y cyfranogwyr o fynediad oedd gallu cysylltu â'r feddygfa er mwyn gwneud apwyntiad a gallu gwneud apwyntiad ar adeg ac o fewn cyfnod o amser a oedd yn diwallu eu hanghenion.
- Ar gyfer cyfranogwyr Cymraeg eu hiaith yng Ngwynedd, roedd gallu cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol yn eu practis meddyg teulu yn eu dewis iaith yn bwysig.
- Roedd cyfranogwyr yn gyffredinol yn gadarnhaol am syniad y model gofal sylfaenol a’r dull brysbennu. Roedd y manteision canfyddedig yn cynnwys mynediad cyflymach at y gofal priodol a gostyngiad yn y pwysau ar feddygon teulu.
- Roedd cyfranogwyr o'r farn bod manteision posibl o ddefnyddio technoleg ar gyfer bwcio apwyntiad neu ofal rheolaidd ar gyfer anghenion nad ydynt yn rhai brys. Mynegwyd rhai amheuon am dechnoleg yn disodli apwyntiadau wyneb-yn-wyneb.
Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion.
