Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad

Ymgysylltu â defnyddwyr

Byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth â defnyddwyr am MALlC 2025 drwy ein gwefan a negeseuon e-bost at danysgrifwyr. Cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru os hoffech danysgrifio.

Gwybodaeth am ansawdd

Dibynadwyedd 

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr ac ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol ac yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Mae ein hadroddiad cryno ar gynigion yn amlinellu’r rhesymeg dros y dewis o ddangosyddion er mwyn adlewyrchu agweddau gwahanol ar amddifadedd. 

Ansawdd

Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys dilysu gofalus ac annibynnol o bob elfen o'r broses lunio a drafftio gan ein hystadegwyr. 

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Cywirdeb 

Mae MALlC 2025 yn dilyn yr iteriadau blaenorol o’r mynegai ac wedi cael ei lunio i sicrhau dibynadwyedd canlyniadau. Mae ein hadroddiad ar gynigion yn cynnwys rhestr o feini prawf dangosyddion. Mae MALlC 2025 yn dwyn ynghyd 54 o ddangosyddion o amrywiaeth eang o ffynonellau data (mae rhai yn ystadegau swyddogol neu achrededig, ac mae eraill yn seiliedig ar setiau data gweinyddol) sy’n sicrhau cadernid y canlyniadau cyffredinol. 

Mae ardaloedd sy’n ddifreintiedig iawn yn ôl MALlC yn debygol o fod yn ddifreintiedig iawn mewn sawl un o’r meysydd. Oherwydd yr amrywiaeth o fewnbynnau data, mae’n annhebygol iawn y caiff ardal ei nodi’n un ddifreintiedig iawn oherwydd tuedd mewn unrhyw un o’r dangosyddion sylfaenol.

O ran cywirdeb y gwaith o brosesu’r data, roedd cynllun sicrhau ansawdd ar gyfer MALlC 2025 a oedd yn nodi sawl cam o wiriadau data, megis:

  • atgynhyrchu canlyniadau ar gyfer unrhyw ddangosyddion newydd neu wedi’u newid gan ddefnyddio adnoddau dadansoddi gwahanol
  • sicrwydd arbenigol o ddata gyda'r grwpiau maes o arbenigwyr pwnc a chynrychiolwyr awdurdodau lleol 

Amseroldeb

Gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf a oedd ar gael ar gyfer pob dangosydd ar adeg prosesu data (hyd at ddiwedd mis Hydref 2025). 

Mae rhai o'n dangosyddion yn defnyddio Amcangyfrifon Poblogaeth Ardal Fach (SAPE) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn yr enwaduron. Gwnaethom ddefnyddio'r data SAPE a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 (amcangyfrifon hyd at ganol 2022) a oedd ar gael ar gyfer cyfnod prosesu data MALlC 2025 ym mis Hydref 2025. Ers hynny, mae'r SYG wedi cyhoeddi diweddariadau a diwygiadau i rywfaint o'r data hyn ar 7 Tachwedd 2025. Gwnaethom edrych ar hyn ac asesu effaith newidiadau ar lefel ardal fach i fod yn fach. 

Mae’r rhestr o ddangosyddion isod a’n hadroddiad technegol yn disgrifio’r cyfnod cyfeirio ar gyfer pob dangosydd. 

Cymharedd

Mae ein canllawiau yn rhoi rhagor o wybodaeth am fynegeion amddifadedd ar gyfer tair gwlad arall y DU, a pham na ddylid cymharu canlyniadau rhwng gwledydd.

Gwerth 

Drwy gyhoeddi'r data hwn, ein nod yw rhoi tystiolaeth i weinidogion, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid allanol ynghylch tlodi, a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach.

Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei baratoi fel adroddiad ar-lein er mwyn gwella hygyrchedd, ymatebolrwydd, a phrofiad defnyddwyr. 

Mae’r rhan fwyaf o’r data sy’n sail i’r adroddiad, gan gynnwys dadansoddiadau manylach, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

Rydym wedi cyhoeddi’r canlyniadau mewn nifer o fformatau er mwyn helpu gwahanol bobl i gael gafael ar ganlyniadau MALlC a’u dehongli. Cyfeirir at y rhain yn ein hamserlen o allbynnau.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru 

(a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant 

(b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. 

O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol 

(a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd 

(b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. 

Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae MALlC yn cynnwys un dangosydd (pwysau geni isel) sydd yn un o’r dangosyddion cenedlaethol:

(1) Canran y genedigaethau sengl byw gyda phwysau geni o dan 2,500g

Mae sawl dangosydd MALlC arall yn cyd-fynd yn weddol agos â dangosydd cenedlaethol, gan gynnwys:

(4) Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer

(8) Canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

(18) Canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o'i gymharu â chanolrif y DU: wedi'i fesur ar gyfer plant, oedran gweithio a'r rhai o oedran pensiwn

(32) Nifer yr unedau eiddo (cartrefi a busnesau) sydd mewn perygl uchel a chanolig o lifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr

(33) Canran yr anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol

Ceir gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Ceir gwybodaeth bellach i helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rhestr o ddangosyddion wedi’i chynnwys ym MALlC 2025

Bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael yn yr adroddiad technegol.

Incwm

  • Canran y bobl mewn amddifadedd incwm.

Cyflogaeth

  • Canran y bobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth.

Iechyd

  • Pwysau geni isel, canran.
  • Plant rhwng 4 a 5 oed sy'n byw gyda gordewdra, canran.
  • Nifer yr achosion o ganser, cyfradd fesul 100,000.
  • Cyflyrau iechyd meddwl wedi’u cofnodi gan feddyg teulu, cyfradd fesul 100.
  • Cyflyrau cronig wedi’u cofnodi gan feddyg teulu, cyfradd fesul 100.
  • Salwch cyfyngus hirdymor, cyfradd fesul 100.
  • Marwolaethau cynamserol, cyfradd fesul 100,000.

Addysg 

  • Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer pynciau craidd.
  • Cyfradd absenoldeb parhaus (fesul 100) cynradd.
  • Cyfradd absenoldeb parhaus (fesul 100) uwchradd.
  • Canran y rhai sy'n gadael Cyfnod Allweddol 4 sy'n mynd i mewn i addysg uwch.
  • Canran yr oedolion rhwng 25 a 64 oed heb gymwysterau neu gymwysterau isel.

Mynediad at wasanaethau

  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i siop fwyd.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i feddygfa feddyg teulu.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i gyfleuster chwaraeon.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i ysgol uwchradd.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i fferyllfa.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i swyddfa bost.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i ysgol gynradd.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i lyfrgell gyhoeddus.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i wasanaethau gofal plant.
  • Amser teithio cyfartalog mewn trafnidiaeth breifat i orsaf betrol.
  • Mynediad at wasanaethau digidol (canran nad oes argaeledd band eang ar 30Mb/s).

Tai

  • Canran yr aelwydydd gorlawn (mesur ystafell wely).
  • Tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael (mewn cyflwr gwael neu’n cynnwys peryglon difrifol).
  • Anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat (sgôr).
  • Effeithlonrwydd ynni anheddau (sgôr gyfartalog).

Diogelwch cymunedol

  • Bwrgleriaeth a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100 eiddo).
  • Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100).
  • Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu  (cyfradd fesul 100).
  • Trais heb anaf a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100).
  • Trais gydag anaf a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100).
  • Stelcio ac aflonyddu a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100).
  • Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100).
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100).
  • Achosion o dân (cyfradd fesul 100).

Amgylchedd ffisegol

  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer Nitrogen deuocsid (NO2).
  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer gronynnau llai na 10 micrometr (PM10).
  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer gronynnau llai na 2.5 micrometr (PM2.5).
  • Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch (canran yr aelwydydd o fewn 300m).
  • Sgôr mannau gwyrdd amgylchol (Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio cymedrig cartrefi neu NDVI).
  • Sgôr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd.
  • Canran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn.