Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford yn galw ar aelodau'r cyhoedd a phob un sy'n ymwneud â llywodraeth leol i fynegi barn ar y cynlluniau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau llywodraeth leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno mewn Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru, byddai cynghorau yn gweithio gyda'i gilydd, ar sail ranbarthol a gorfodol, i ddarparu amrywiaeth o wahanol wasanaethau fel datblygu economaidd – gan gynnwys rhai swyddogaethau cynllunio a thrafnidiaeth. 

Byddai cynghorau hefyd yn penderfynu sut i weithio gyda'i gilydd ar wasanaethau eraill fel gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol, amddiffyn y cyhoedd, camddefnyddio sylweddau a hybu'r Gymraeg. 

Yn ogystal â'r cynigion hyn, maen nhw hefyd yn gofyn am farn ar leihau'r oedran pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i 16 oed a galluogi awdurdodau lleol i fabwysiadu system etholiadau 'cyntaf i'r felin' neu 'un bleidlais drosglwyddadwy'.

Mae'r Papur Gwyn hefyd yn amlinellu sut byddai Llywodraeth Cymru yn cryfhau rôl cynghorau cymuned ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Dydy'r cynigion hyn ddim yn gofyn am newid dim ond er mwyn newid.  

“Mae ein cynghorau ni'n gweithio mewn cyfnod o gyni cyllidol eithriadol ac mae rhai gwasanaethau dan gryn dipyn o bwysau. Rhaid inni ddiwygio llywodraeth leol os ydyn ni am gryfhau'r gwasanaethau hyn a'u gwneud yn fwy cadarn i ddygymod â'r galw yn y dyfodol.

“Rydyn ni hefyd am i bobl gymryd mwy o ddiddordeb a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Dyna pam mae hi mor bwysig bod y cyhoedd a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau'r cyngor, ar bob lefel, yn cael dweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwn. Mae eich barn chi'n cyfrif a bydd yn dylanwadu ar y ffordd y byddwn ni'n datblygu'r cynigion hyn.” 

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar ddiwygio llywodraeth leol yn dod i ben ar 11 Ebrill.