Neidio i'r prif gynnwy

Cychlythyr iechyd Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebril 2023

Statws: Gweithredu

Categori: Ansawdd a diogelwch

Teitl: Canllawiau ar gyfer ymchwilio i nam datblygiadol neu anabledd deallusol cynnar cymedrol neu ddifrifol (EDI/ID)

Dyddiad dod i ben / Dyddiad yr adolygiad: 01 Mai 2025

I’w weithredu gan: Bob Bwrdd Iechyd

Angen gweithredu erbyn: Ebril 2023

Anfonwr: Dr Heather Payne – Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Iechyd Menywod a Phlant

Enw(au) cyswllt GIGC Llywodraeth Cymru:
Nyrsio ac Ansawdd
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ.

E-bost: AnsawddANyrsio@llyw.cymru

Cynnwys

  1. Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu canllawiau clinigol ar gyfer ymchwilio i nam datblygiadol neu anabledd deallusol cynnar cymedrol neu ddifrifol (EDI/ID) mewn plant. Fe’u darperir ar gyfer pediatregwyr sy’n asesu plant a phobl ifanc sydd wedi eu hatgyfeirio oherwydd pryderon am ddatblygiad cynnar, er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol. Mae’r canllawiau’n sefydlu llinell sylfaen ar gyfer arferion ar draws Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod mynediad teg at ddiagnosis amserol, lle bynnag y bo plentyn yn byw.
  2. Rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer Iechyd Cymunedol Plant, sy’n cael ei arwain yn y gwaith hwn gan Dr Bethan McMinn a’i gefnogi gan Grŵp Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin, sydd wedi cynhyrchu’r ddogfen ganllaw yn seiliedig ar y gronfa dystiolaeth sydd wedi ei chyhoeddi a chonsensws proffesiynol. Mae’r ddogfen hon yn disodli unrhyw ganllawiau blaenorol ar gyfer ymchwilio i nam datblygiadol neu anabledd deallusol cynnar (EDI/ID).
  3. Nod y canllawiau yw amlinellu dull gweithredu cyson i’w ddefnyddio ar draws Cymru gyfan, er mwyn adnabod plant a phobl ifanc y mae ganddynt EDI/ID cymedrol neu ddifrifol, drwy ddarparu asesiadau ac ymchwiliadau clinigol.
  4. Mae’r canllawiau’n darparu dull gweithredu sydd wedi ei safoni ar gyfer profion diagnostig (gan gynnwys rhai genomic), er mwyn lleihau’r daith ddiagnostig a hwyluso’r gwaith o ddarparu cynnyrch diagnostig. Bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau effeithlonrwydd a thegwch o ran mynediad, er mwyn nodi unrhyw achosion y gellid eu trin a hefyd nodi unrhyw nodweddion clinigol neu ‘fflagiau coch’ a fyddai’n dangos bod angen mwy o brofion arbenigol neu brofion a dargedir.
  5. Yn Nhabl 1, mae’r canllawiau’n nodi’r ymchwiliadau llinell gyntaf a argymhellir ar gyfer plant sydd ag EDI/ID arunig cymedrol neu ddifrifol. Mae cynnwys technegau profi genetig mwy diweddar wedi cynyddu’r cynnyrch diagnostig, ond rhaid nodi bod angen cydsyniad penodol ar gyfer y profion hyn. Mae taflenni gwybodaeth dwyieithog i rieni wedi eu cynnwys gyda’r canllawiau.
  6. Gallai fod angen ymchwiliadau ail linell os bydd ansicrwydd yn parhau. Mae’r rhain yn cael eu hargymell yn ôl disgresiwn clinigol, a allai argymell ailadrodd asesiad neu ddull gweithredu’n seiliedig ar ‘gwylio ac aros’. Gellid ceisio cyngor arbenigol ychwanegol o faes geneteg feddygol.
  7. Mae atodiadau’r canllawiau’n cynnwys siart lif gryno, tabl ar gyfer nodweddion clinigol sy’n ychwanegol at EDI/ID a allai sbarduno cynnal profion a dargedir, a thabl i grynhoi’r canlyniadau.
  8. Dylai’r canllawiau gael eu gweithredu cyn gynted â phosibl er mwyn darparu gwasanaethau o’r ansawdd gorau i blant sydd ag EDI/ID. Dylai rhwydweithiau clinigol archwilio amseroldeb diagnostig a boddhad cleifion. 

Dolen i'r 'Guideline for the investigation of moderate or severe early developmental Impairment and intellectual disability' (Saesneg yn unig).