Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysmygwyr yn cael eu hannog i roi'r gorau i ysmygu ar gyfer y flwyddyn newydd cyn cyflwyno deddfau di-fwg newydd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O 1 Mawrth ymlaen, bydd gwaharddiad yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ar ysmygu ar dir ysbytai, ym meysydd chwarae plant ac ar dir ysgolion, yn ogystal â lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant yn yr awyr agored. Gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn torri'r gyfraith wynebu dirwy o £100.

Y gobaith yw y bydd atal ysmygu ar safleoedd ysbytai’n hyrwyddo amgylcheddau gofal iachach ac yn cefnogi ysmygwyr sy'n defnyddio gwasanaethau ysbytai i roi'r gorau iddi.

Mae'r cyfyngiadau newydd yn adeiladu ar y gwaharddiad ar ysmygu a gyflwynwyd yn 2007 a oedd yn gwneud mannau cyhoeddus caeedig dan do a gweithleoedd yn ddi-fwg. Er mwyn amddiffyn mwy o weithwyr rhag niwed mwg ail-law, bydd y gyfraith hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gweithio yng nghartrefi pobl eraill allu gweithio mewn amgylchedd di-fwg.

Mae ysmygu mewn ystafelloedd gwely mewn gwestai a thai llety, yn ogystal â llety gwyliau hunangynhwysol fel bythynnod, carafannau ac Airbnb, hefyd yn cael ei atal fesul cam a byddant yn ddi-fwg o 1 Mawrth 2022 ymlaen.

Y gobaith yw y bydd y cyfyngiadau llymach nid yn unig yn lleihau cyswllt pobl â mwg ail-law niweidiol, ond bydd hefyd yn lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dechrau ysmygu, yn ogystal â helpu'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi. 

Mae'r rhai sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu yn y flwyddyn newydd yn cael eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth cymorth am ddim y GIG yng Nghymru, Helpa Fi i Stopio, ar 0800 085 2219 www.helpmequit.wales am help a chefnogaeth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim. 

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:

"Dim ond deufis sydd i fynd bellach nes bydd y cyfyngiadau ysmygu llymach yn dod i rym yng Nghymru ac mae dechrau blwyddyn newydd yn amser perffaith i roi'r gorau i ysmygu. Mae llawer o ysmygwyr eisoes wedi cael eu cymell gan Covid-19 i roi'r gorau iddi ac rydym yn gwybod bod rhoi'r gorau i ysmygu gyda chefnogaeth yn sicrhau’r cyfle gorau i stopio am byth. Mae Helpa Fi i Stopio ar gael i helpu ar bob cam o’r siwrnai.

"Bydd lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dechrau ysmygu’n achub bywydau. Rydym yn gwybod y niwed y gall ysmygu ei wneud i iechyd ac felly rydym yn cyflwyno'r gofynion newydd hyn er budd cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd gwahardd ysmygu y tu allan i ysbytai a mannau lle mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser, fel meysydd chwarae cyhoeddus a thir ysgolion, yn dadnormaleiddio ysmygu ac yn lleihau'r siawns o blant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf.

"Rydym yn falch o fod y rhan gyntaf o'r DU i wahardd ysmygu yn yr ardaloedd hyn ac arwain y ffordd unwaith eto.