Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, mae’n gyfle da i edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r deuddeg mis diwethaf ac edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, mae’n gyfle da i edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r deuddeg mis diwethaf ac edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.

“Mae 2018 yn cynnig cyfleoedd newydd a chyfle i adeiladu ar y cynnydd a welwyd eleni, a dros y ddau ddegawd diwethaf o ddatganoli.

“Mae’n wir dweud bod heriau ac ansicrwydd o’n blaen, ond mae sawl rheswm dros fod yn obeithiol hefyd. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda’r Gweinidogion i symud ymlaen gyda’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru – canolbwyntio ar dyfu’r economi, creu swyddi, cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a gwella bywydau bob dydd pobl Cymru.

“Dwi am i 2018 fod yn flwyddyn sy’n dod â ni ynghyd – blwyddyn lle byddwn ni’n dathlu popeth sydd gennym yn gyffredin, a gweithio gyda’n gilydd i adeiladu’r Gymru deg, agored a ffyniannus rydyn ni i gyd am ei gweld.

“Hoffwn i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda, llawn iechyd a hapusrwydd i chi a’ch teuluoedd.”