Neidio i'r prif gynnwy

Neges olaf Dydd Gŵyl Dewi Mark Drakeford fel Prif Weinidog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd pobl ym mhob cwr o Gymru a dros y byd i gyd yn dathlu Cymru a Chymreictod.

Ar ein diwrnod cenedlaethol, rydyn ni am wneud y pethau bychain, fel Dewi Sant ei hunan, i helpu i wella bywydau pobl eraill. Gwlad y gân yw Cymru, ond mae gofalu am bobl eraill a bod yn gymwynasgar yn rhan yr un mor greiddiol o bwy ydyn ni fel Cymry.

Ac yn y cyfnod ansicr hwn, gallwn ni i gyd fod ychydig yn fwy caredig, a gwneud y pethau bychain. Rydyn ni’n falch o’n gwerthoedd. Mae Cymru’n wlad agored a goddefgar. Mae gennym ni gymunedau agos, sydd wedi’u hadeiladu ar seiliau cadarn o barchu cyfiawnder a thegwch cymdeithasol.

Ond mae Cymru hefyd yn gartref i fusnesau byd-eang. Yma, rydyn ni’n meithrin syniadau, ac yn annog pobl i greu a thorri tir newydd. Diolch i’r Gymraeg, a’n hanes a’n diwylliant cyfoethog, heb sôn am ein mynyddoedd mawreddog, ein harfordir trawiadol a’n dinasoedd bywiog, mae gan Gymru rywbeth unigryw i’w gynnig i weddill y byd.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, felly, gadewch inni sefyll yn hyderus ar y llwyfan rhyngwladol a dangos ein gwlad ar ei gorau.

Dyma fy neges Gŵyl Dewi olaf fel eich Prif Weinidog. Ond byddwn ni’n dal ati i weithio dros Gymru gryfach, decach a gwyrddach, gan adael neb ar ôl.

Mae Cymru’n wlad sy’n rhoi croeso i bawb.

Mae Cymru’n wlad lle y gall ein plant lwyddo a chyrraedd y nod, heb orfod meddwl am ymadael â hi.

Ble bynnag rydych chi’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, gwnewch rywbeth bychan i godi calon rhywun arall.

Ac felly, am y tro olaf fel y Prif Weinidog, ga' i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus ichi i gyd.