Neidio i'r prif gynnwy

Neges Prif Weinidog Cymru i bobol Cymry ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi.

Gobeithio cewch chi ddiwrnod da, ble bynnag yr ydych eleni.

Mae hwn yn gyfnod o bryder ac ansicrwydd i rai. Ond mae heddiw yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd a dathlu ein Cymreictod.

Cyfle i ni ddangos pwy ydym ni, a beth sy’n bwysig i ni.

Mae Cymru’n genedl sy’n falch o fod yn agored a blaengar.

Cenedl o gymunedau clos, sy’n credu’n gryf mewn cyfiawnder a thegwch i bawb.

Cenedl o Noddfa, sy’n rhoi croeso i bobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac eisiau lle saff i fyw.

Cenedl sy’n arwain y byd wrth ddod yn gynaliadwy, yn Gymru sero net, A chenedl i fusnesau, pobl greadigol ac arloeswyr lwyddo.

Mae gennym hanes hir, diwylliant lliwgar ac unigryw, a iaith i’w thrysori – Cymraeg.

Rydym yn wlad o chwaraeon ac o ganu. Ond llawer mwy na hynny hefyd.

Heddiw, mae’r Gymru fodern yn arloesol, yn gynhwysol – ond yn fwy pwysig na dim, mae Cymru yn garedig.

Ble bynnag yr ydych yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi – mwynhewch!