Neidio i'r prif gynnwy

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn llifogydd mawr yn yr ardal o gwmpas ein pencadlys ar 16 Chwefror 2020, rydym wedi ceisio cynnig y lefelau gorau o wasanaeth posib i'n cwsmeriaid, tra'n cefnogi ein pobl.

Yn gyffredinol, gan fod 98% o ffurflenni treth yn cael eu ffeilio ar-lein, nid yw hyn wedi cael unrhyw effaith fawr ar y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Ond rydym yn gwybod bod rhai cwsmeriaid wedi cael mân drafferthion yn enwedig wrth ddefnyddio ein desg gymorth ac y gallai hynny barhau.

Wrth symud ymlaen, mae'n bosibl y bydd ychydig o oedi wrth ymateb i gwsmeriaid ac mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir. Rydym yn gweithio'n galed i ddychwelyd at ein lefelau arferol o wasanaeth, ac mae’r ffaith ein bod yn gwbl seiliedig ar Gwmwl yn helpu hyn.  

Roeddem nawr hefyd am roi sicrwydd bod:

  • ein pobl i gyd yn gweithio mewn lleoliadau diogel eraill dros dro
  • yr holl ddata personol a gedwir ar bapur wedi'u cadw’n ddiogel
  • pob ffurflen dreth a gohebiaeth copi caled yn parhau i gael eu trin yn ddiogel
  • y rhan fwyaf o'n cofnodion yn cael eu cadw’n ddigidol ac na effeithiwyd arnynt felly

Rydym wedi bod yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd gyda'n cwsmeriaid drwy wahanol sianelau cyfathrebu gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn parhau i wneud hyn os byd mwy o newyddion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu o bryderon, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Rydym yn croesawu eich adborth. Gallwch e-bostio: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Ar ran y tîm yn Awdurdod Cyllid Cymru, hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eu hamynedd, yn ogystal â llawer o bartneriaid sy'n parhau i gynnig eu cymorth.