Neidio i'r prif gynnwy

Neges Nadolig 2025 gan Eluned Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nadolig llawen!

Ar yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn, dwi am ddymuno Nadolig heddychlon a llawen i chi i gyd.

Ble bynnag ydych chi,a sut bynnag rydych chi'n treulio’r gwyliau, gobeithio y cewch gyfle am seibiant, i fyfyrio a mwynhau amser gwerthfawr gyda'r bobl chi’n eu caru.

Mae'r Nadolig yn gyfle i ni ddod at ein gilydd gyda theulu, ffrindiau a chymdogion, i rannu chwerthin, bwyd da, a'r cysur syml o fod yng nghwmni ein gilydd.

Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu mwynhau'r cyfnod hwn a dod o hyd i amser i orffwys a bod gyda'ch anwyliaid.

I'r rhai a fydd yn gweithio dros gyfnod yr ŵyl, rwyf am ddweud diolch o galon.

O'n gwasanaethau brys a staff yr NHS, i'n timau gofal cymdeithasol, gweithwyr y trenau a’r bysus a phawb sy'n cadw gwasanaethau hanfodol i redeg. Diolch am bopeth chi'n ei wneud i'n cadw'n ddiogel a chadw Cymru i symud ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

Ry’n ni wir yn gwerthfawrogir eich ymroddiad a'ch Gwasanaeth.

Ag i'r miloedd o wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser mor hael - yn cefnogi banciau bwyd, gofalu am gymdogion, trefnu digwyddiadau cymunedol, neu gynnig caredigrwydd lle mae ei angen fwyaf – ry'ch chi'n ymgorffori gwir ysbryd y Nadolig.

Chi yw’r bobl sy’n cryfhau ein cymunedau ac yn ein hatgoffa beth mae Cymru'n ei wneud orau - sef gofalu am ein gilydd.

Rydym hefyd yn gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn amser unig neu anodd i rai. Bydd llawer ohonom yn teimlo hiraeth am anwyliaid.

Os gallwch chi wneud un peth y tymor Nadoligaidd hwn, beth am gysylltu gyda rhywun – gall galwad ffôn, ymweliad, neu ychydig o eiriau caredig wneud y byd o wahaniaeth i rywun a allai fod yn cael amser anodd.

Nadolig llawen i chi gyd.