Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn dymuno Nadolig Llawen i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

<!--comment-->

Wrth i lawer ohonon ni baratoi at ddathlu’r Nadolig yng nghwmni teulu a ffrindiau, mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn gyfle inni edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf ac ymlaen at y nesaf.

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn gofiadwy a dweud y lleiaf. Mae digwyddiadau’r deuddeg mis diwethaf wedi amlygu’r gwahaniaeth barn ymysg teuluoedd, ffrindiau ac eraill ynghylch y dyfodol yr hoffem ni ei weld i’n gwlad.

Felly, os oedd 2016 yn canolbwyntio ar raniadau, gadewch inni gamu ymlaen a llunio 2017 fel blwyddyn sy’n ein huno gyda’r bwriad cyffredin o helpu’n gilydd i fyw y bywydau ry’n ni eisiau eu byw, a pharhau i greu Cymru well i bawb.

Mae neges heddwch ac ewyllys da yn arbennig o arwyddocaol eleni, o ystyried y gyflafan yn Syria a'r miliynau o bobl sy'n wynebu dyfodol ansicr.  Rwy’n annog pawb i gofio’r rhai llai ffodus y Nadolig hwn, y rhai na fydd yn dathlu’r ŵyl yng nghwmni eu hanwyliaid.

Hoffwn hefyd ddiolch o waelod calon i'n staff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys, y gofalwyr a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed ac yn aberthu eu Nadolig eu hunain i helpu eraill. Ry’n ni wir yn gwerthfawrogi’ch ymroddiad a’ch ymrwymiad.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC
Prif Weinidog Cymru