Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ysgrifennu llythyr agored at holl staff ysgolion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y llythyr, a rennir ar-lein ac mewn fideo o'i sianel Twitter, dywedodd y Gweinidog:

Diolch ichi am bopeth yr ydych wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy'r cyfnod heriol hwn.

Mae miloedd ohonoch wedi bod yn gweithio mewn ysgolion hyb i gefnogi ein dysgwyr mwyaf bregus a phlant gweithwyr hanfodol – rydych wedi bod yn rhan hollbwysig o'n brwydr genedlaethol yn erbyn Covid-19.

Rydym wedi mynd i’r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd, ac wedi dangos bod y teulu addysg yng Nghymru bob amser yn camu i fyny i sicrhau bod pob un person ifanc yn cael cymorth gyda'i lesiant a chymorth i ddysgu a datblygu.

Fel y gwyddoch, mae ysgolion ledled Cymru yn agor i’r rhan fwyaf o ddisgyblion o 29 Mehefin. Erbyn y dyddiad hwnnw, byddwn wedi cael mis llawn o raglen ‘Profi, Olrhain a Diogelu’ Cymru.

Drwy sicrhau bod cyfnod o ailgydio, dal i Fyny a pharatoi’ ar ddiwedd y tymor hwn, a dechrau cyfuno dysgu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, rydym yn gwneud ein gorau glas i’n dysgwyr.

Rwy’n siŵr y byddwch eisoes wedi clywed gan eich pennaeth am eu cynlluniau diogel a strwythuredig ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Mae llawer o benaethiaid - ac athrawon, staff a rhieni - wedi bod mewn cysylltiad dros yr wythnosau diwethaf i rannu eu cynlluniau a'u syniadau.

Rwy’n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r arloesedd a ddangoswyd gan gynifer ohonoch.

Byddwch yn gwybod ein bod yn cynnig wythnos ychwanegol i'r tymor hwn. Mae'r rheswm dros hyn yn glir, sef i sicrhau bod gennym fwy o amser cyswllt gyda dysgwyr mewn ysgolion.

Gellir cyflawni cymaint yn y cyfnod pedair wythnos hwn. Hebddo byddai'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn wynebu bron i chwe mis i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth. Rydym yn gwybod beth yw goblygiadau hynny o ran colli dysgu – yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf difreintiedig.

Rwyf wedi dweud y bydd ein penderfyniadau bob amser yn cael eu harwain gan y cyngor gwyddonol ac iechyd cyhoeddus diweddaraf.

Mae'r cyngor hwn yn glir am fanteision defnyddio amser yn yr haf, ac yn arbennig y tywydd cynnes, i agor ysgolion i fwy o ddisgyblion ac athrawon.

I siarad yn blaen, rhaid inni fod yn barod am y posibilrwydd o ail don o'r clefyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rydym y gobeithio na fydd hynny'n digwydd, ond mae'n rhaid i ni baratoi.

Mae'r cyngor hwn wedi llywio'r penderfyniad i gynnig y sesiynau ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ hyn ar ddiwedd y tymor hwn.

Gallaf eich sicrhau y byddaf hefyd yn ymestyn hanner tymor yr hydref i bythefnos.

Bydd gwneud hyn yn dal i roi egwyl dros yr haf - yr hyn y mae gwyddonwyr wedi ei ddisgrifio fel egwyl naturiol rhwng tymhorau ysgol wrth i ni barhau i fonitro’r lleihad yn y cyfraddau trosglwyddo a datblygiadau yma ac ar draws y byd.

Yn ddiweddar, rydym wedi gweld llawer o dwyllwybodaeth. Ond rwyf eisiau bod yn glir â chi.

Rydym yn disgwyl y bydd uchafswm o draean y disgyblion yn yr ysgol ar unrhyw un adeg. Bydd llawer o ysgolion yn gweld llai o ddisgyblion na hynny.

Bydd cyfnodau gwahanol ar gyfer dechrau, egwyl a gorffen.

Mae gan awdurdodau lleol, fel cyflogwyr a darparwyr addysg statudol, gynlluniau ar waith eisoes ar gyfer cludiant diogel, amser cinio, a chynorthwyo penaethiaid gydag unrhyw faterion cyflogaeth.

Gwn y bydd llawer ohonoch ychydig yn ansicr ynghylch dychwelyd i'r ysgol. Rwy'n deall yn llwyr.

Mae hyn wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gyfnod o straen.

Bydd llawer ohonom yn adnabod pobl sydd wedi bod yn sâl, neu sydd wedi colli rhywun. Mi ydw i, heb os.

Mae wedi bod yn gyfnod o ofid a phoen i bobl ledled Cymru.

Fodd bynnag, rhaid imi wneud penderfyniadau er lles gorau addysg yng Nghymru.

Mae hynny'n golygu, yn y pen draw, cefnogi pob un plentyn yng Nghymru o bob cefndir.

Y cyfnod hwn o 29 Mehefin yw ein cyfle i wneud hynny.

Unwaith eto, diolch ichi am bopeth yr ydych wedi'i wneud ac y byddwch yn parhau i’w wneud.

Gyda'n gilydd, fe wnawn ni gadw addysg yn ddiogel.