Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau arolwg a oedd yn archwilio ymwybyddiaeth, agweddau a dewisiadau tuag at wahanol lwybrau i leihau allyriadau carbon a chyrraedd Sero-Net yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg yn pryderu am newid yn yr hinsawdd.
  • Roedd ymatebwyr o'r farn y byddai dyfodol Sero-Net yn well ar gyfer lles, iechyd a'r economi.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn bod angen newid ffordd o fyw er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Hoffai'r rhan fwyaf o ymatebwyr weld amrywiaeth o newidiadau cymdeithasol i helpu i leihau allyriadau carbon. Lleihau gwastraff oedd y newid mwyaf yr hoffai cyfranogwyr ei weld. Deietau gwyrddach oedd y newid yr oedd y lleiaf o ymatebwyr am ei weld.
  • Er bod y rhan fwyaf o ymatebwyr am weld newidiadau, mae llai o ymatebwyr ar gyfartaledd yn credu bod newidiadau'n debygol o ddigwydd dros y degawdau nesaf.

Cyswllt

Lucy Campbell

Rhif ffôn: 0300 025 4020

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.