Neidio i'r prif gynnwy

Ein cyf/Our ref – Prynu Gorfodol

13 Hydref 2020

Penaethiaid Cynllunio, 
Awdurdodau Cynllunio Lleol
(Local Authority Regeneration Leads, Arolygiaeth Gynllunio (PINS) Cymru / Compulsory Purchase Association (CPA))

Annwyl Gyfaill,

Mae’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai ar dir gwag, helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai yn ogystal â defnyddio eiddo masnachol gwag a mathau eraill o eiddo unwaith eto, a helpu i greu cyfleoedd newydd am swyddi mewn cymunedau lleol. 

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod pwerau prynu gorfodol yn adnodd pwysig i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill fel modd i gasglu ynghyd y tir sydd ei angen arnynt i helpu i sicrhau newid amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Os cânt eu defnyddio'n briodol, gallant gyfrannu at adfywio effeithiol ac effeithlon, ailfywiogi cymunedau, creu lleoedd a hyrwyddo busnesau, y gall pob un ohonynt arwain at welliannau o ran ansawdd bywyd.

Yn ystod y cyfnod yn union ar ôl Covid-19, bydd meysydd polisi penodol yn destun trafodaethau a chamau gweithredu, er mwyn sbarduno adferiad ym mhob colofn datblygu cynaliadwy. Mae Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair – Creu Lleoedd ac Adferiad Covid-19 (Gorffennaf 2020) yn nodi wyth mater allweddol sy'n dod â meysydd polisi unigol ynghyd er mwyn sicrhau y cymerir y camau gweithredu mwyaf effeithiol. O blith yr wyth mater allweddol sy’n gofyn am gymryd camau gweithredu polisi, nodwyd y tri mater canlynol fel materion lle y gellir defnyddio pwerau prynu gorfodol fel adnodd gweithredu polisi defnyddiol[1]:

  1. Cadw'n lleol: creu cymdogaethau;
  2. Adfywio canol ein trefi;
  3. Teithio llesol: ymarfer corff a dulliau teithio a ail-ddarganfyddir.

Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a chymunedau i adfer o effeithiau Covid-19 ac ymateb i’r prif broblemau o ran gweithredu ar bolisïau, caiff awdurdodau lleol eu hannog i ystyried yn broactif y defnydd o’u pwerau prynu gorfodol ble y bo’n briodol i sicrhau bod manteision gwirioneddol i breswylwyr a’r gymuned fusnes yn ddi-oed. 

I wella hyder a dealltwriaeth ymhlith rhanddeiliaid o’r broses prynu gorfodol yng Nghymru, bum yn ymgyngnori ar bolisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig ar ddefnyddio pwerau prynu gorfodol a chanllawiau wedi’u diweddaru

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys 'cais am dystiolaeth' yn gofyn am sylwadau ar y canlynol:

  • astudiaethau achos o'r defnydd llwyddiannus o bwerau prynu gorfodol er mwyn cyflwyno cynlluniau adfywio a arweinir gan dai; 
  • lle y gellid gwneud newidiadau o bosibl i'r system prynu gorfodol er mwyn gwella'r ffordd y caiff cynlluniau caffael gorfodol a arweinir gan dai eu cyflwyno.

Rwyf bellach wedi cael y cyfle i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanwl.  Er gwybodaeth, rwy’n atodi dolen at yr Adroddiad ar y Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad

Wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad rwy’n cyhoeddi y newidiadau canlynol i bolisïau:

Polisi Cynllunio Cymru

Diwygiadau i baragraff 3.53 o Bolisi Cynllunio Cymru o dan yr adran ‘Creu Lleoedd Strategol’. Mae’r newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol yn atgyfnerthu’r gefnogaeth dros ddefnyddio pwerau prynu gorfodol gan awdurdodau cynllunio lleol er mwyn hwyluso gwaith datblygu, ailddatblygu a gwella tir ac adeiladau lle y mae achos cryf er budd y cyhoedd.

Cylchlythyr wedi’i ddiweddaru

Cyhoeddi Cylchlythyr 003/2019: Prynu Gorfodol yng Nghymru a ‘Rheolau Crichel Down’ (Fersiwn Cymru, 2020)’ sy’n canslo Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) 14/2004: Cylchlythyr Diwygiedig ar Orchmynion Prynu Gorfodol. Mae hyn yn sicrhau bod canllawiau cywir a chyfredol ar gael gan Lywodraeth Cymru ynghylch deddfwriaeth ac arferion ym maes prynu gorfodol. Gallwch weld Cylchlythyr 003/2019 yma: Polisi a chanllawiau cynllunio: prynu gorfodol.

Mae’r Adroddiad ar y Crynodeb o Ymatebion i’r Ymgynghoriad yn rhoi manylion yr awgrymiadau sy’n cael eu cynnig drwy’r ‘alwad am dystiolaeth’ ar gyfer rhagor o ddiwygiadau ar y broses prynu gorfodol.  Roedd yr ‘alwad am dystiolaeth’ yn tynnu sylw at y ffaith bod capasiti am ragor o newidiadau i’r broses prynu gorfodol gan ei bod ar hyn o bryd yn gymhleth mewn rhannau, a gallai fod yn rhwystr i ddefnyddio pwerau prynu gorfodol. 

Rwyf wedi ymrwymo i ddileu y rhwystrau i’r defnydd o bwerau prynu gorfodol a gwella y broses prynu gorfodol i’w gwneud yn decach, yn fwy effeithiol ac yn haws i’w deall.  Mae hyn yn hollbwysig i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau i adfer o effeithiau Covid-19 ac ymateb i’r prif faterion a nodir er mwyn gweithredu ar bolisïau.   

Oherwydd hynny, rwy’n cyhoedd ymgynghoriad pellach ar gynigion i symleiddio a moderneiddio y broses prynu gorfodol yng Nghymru: 

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i bwerau a gweithdrefnau gorfodol

Mae’r ymgynghoriad yn holi barn ar ddiwygiadau i:

  1. foderneiddio pwerau a gweithdrefnau prynu gorfodol statudol sydd wedi’u cefnogi gan ddeddfwriaeth sylfaenol, a  
  2. defnyddio gwelliannau i’r broses dechnegol i symleiddio gweithdrefnau yr ymchwiliadau cyhoeddus i brynu gorfodol a sylwadau ysgrifenedig.   

Cynhelir yr ymgynghoriad tan 19 Ionawr 2021

Hoffwn gadarnhau bod y newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a’r canllawiau yn dod i rym heddiw (gweler dyddiad y llythyr).  NAFWC 14/2004: Mae’r Cylchlythyr Diwygiedig ar Orchmynion Prynu Gorfodol wedi ei ganslo ar unwaith.  Bydd y newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru yn cael eu cynnwys felly yn y rhifyn nesaf sydd i’w gyhoeddi yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf. 

Yn gywir,

Julie James AS/MS

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Minister for Housing and Local Government

Atodiad 1:  Polisi Cynllunio Cymru – revisions to policy on use of compulsory purchase powers

Testun newydd / diwygiedig. 

Defnyddio Pwerau Prynu Gorfodol

3.53    Anogir awdurdodau cynllunio i gymryd camau priodol er mwyn datgloi potensial datblygu safleoedd. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i awdurdodau cynllunio brynu tir er mwyn hwyluso datblygiad, ailddatblygiad neu welliannau. Os yn bosibl, dylid gwneud hyn â chytundeb y tirfeddiannwr.  Lle na ellir dod i gytundebau o’r fath, dylai awdurdodau cynllunio ystyried defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddynt. Dylai hyn gynnwys, lle bo angen, defnyddio pwerau prynu gorfodol er mwyn cyflwyno tir a/neu adeiladau i ddiwallu anghenion datblygu yn eu hardal a/neu i sicrhau canlyniadau datblygu gwell lle y gellir dangos achos cryf er budd y cyhoedd sy’n gwrthbwyso colli buddiannau preifat.

[1] Mae Rhan 2 o gylchlythyr Llywodraeth Cymru Cylchlythyr 003/2019: Prynu Gorfodol yng Nghymru a Rheolau Crichel Down (Fersiwn Cymru, 2019)' yn darparu canllawiau ar ddefnyddio pwerau prynu gorfodol i ymdrin â'r materion allweddol hyn ar gyfer cymryd camau gweithredu polisi.