Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro cyfrifoldebau’r grŵp a sut y mae’n gweithredu.

Diben

1. Diben Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw o Ofal Plant sy'n Derbyn Gofal ("Bwrdd y Rhaglen") yw goruchwylio a chynghori ar weithredu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i 'Ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal', sy'n cael ei symud yn ei flaen drwy'r darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ("y Ddeddf").

Cefndir a chyd-destun y rhaglen

2. Sefydlwyd bwrdd y rhaglen ym mis Medi 2021 ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu gychwynnol ym mis Gorffennaf 2021.

3. Yn dilyn ymgynghoriad yn 2022, cyflwynwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ym mis Mai 2024. Roedd hyn yn cynnwys darpariaethau i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, yn unol ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu. Cafodd y Bil ei basio gan Aelodau'r Senedd ym mis Chwefror 2025, a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2025, gan ddod yn Ddeddf.

4. Mae'r Ddeddf yn dod i rym fesul cam er mwyn lleihau unrhyw darfu ar fywydau plant a'u gofalwyr:

  • O 1 Ebrill 2026 ymlaen: Ni fydd unrhyw gartrefi plant, llety diogel, na gwasanaethau maethu 'er-elw' newydd yn cael caniatâd i gofrestru. Ni all darparwyr presennol cartrefi plant, llety diogel, a gwasanaethau maethu amrywio eu cofrestriad i ychwanegu unrhyw leoedd neu wasanaethau 'er-elw' newydd.
  • O 1 Ebrill 2027 ymlaen: Ni ellir ychwanegu gwelyau ychwanegol at ddarpariaeth cartrefi plant 'er-elw' presennol. Ni all darparwyr gwasanaeth maethu er-elw presennol gymeradwyo gofalwyr maeth newydd.
  • O 1 Ebrill 2030 (neu'n gynharach): Ni ellir rhoi plant yng ngofal darparwr gwasanaeth er-elw, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. (Er enghraifft, os nad oes lleoedd addas ar gael mewn gwasanaethau nid-er-elw). 

Cwmpas a strwythur y rhaglen

Cwmpas

5. Bydd ffocws cychwynnol y gwaith hwn ar y gwasanaethau a gwmpesir yn y Ddeddf, sef cartrefi plant, gwasanaethau maethu, a gwasanaethau llety diogel (a elwir gyda'i gilydd yn y Ddeddf fel 'gwasanaethau plant o dan gyfyngiad').

Strwythur

6. Mae Bwrdd y Rhaglen yn cael ei ategu gan ddwy ffrwd waith o dan gadeiryddiaeth aelodau'r bwrdd:

  • Ffrwd Waith 1: Nodi a chynghori Bwrdd y Rhaglen ar y camau i'w cymryd i ehangu a datblygu darpariaeth nid-er-elw newydd awdurdodau lleol neu ranbarthol ar gyfer lleoliadau gofal preswyl a maeth. 

    Cadeirydd: Craig Macleod.

  • Ffrwd Waith 2: Nodi a chynghori Bwrdd y Rhaglen ar y camau i'w cymryd i ehangu a datblygu darpariaeth nid-er-elw newydd ar gyfer lleoliadau gofal preswyl a lleoliadau maeth. 

    Cadeirydd: I'w gadarnhau.

7. Bydd Cadeiryddion y ffrydiau gwaith yn rhoi diweddariadau ar weithgareddau'r ffrydiau gwaith ym mhob cyfarfod o Fwrdd y Rhaglen, ynghyd ag unrhyw awgrymiadau gan aelodau'r ffrwd waith i ddiweddaru Cofrestr risgiau'r rhaglen a gedwir gan y bwrdd. Bydd y Cadeiryddion hefyd yn gyfrifol am raeadru unrhyw negeseuon neu weithredoedd allweddol i aelodau'r ffrwd waith.

Rôl cadeirydd bwrdd y rhaglen

8. Bydd bwrdd y rhaglen yn cael ei gadeirio gan Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney, a fydd yn cael ei gefnogi gan Dîm y rhaglen.

9. Bydd y Cadeirydd yn cael ei gefnogi gan Ddirprwy Gadeirydd, Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Galluogi Pobl, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio a'r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Ddeddf a'r rhaglen dileu elw.

10. Bydd y Cadeirydd yn tynnu sylw at feysydd gwaith ac yn cyfarwyddo mewn perthynas â nhw, gan gyflawni swyddogaeth herio ar gyfer aelodau'r bwrdd.

11. Mae'r Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Prif Weinidog am weithredu'r Rhaglen, ac mae'n gyfrifol am benderfyniadau a gyflwynir i Weinidogion.

Rôl aelodau bwrdd y rhaglen

12. Disgwylir i aelodau'r bwrdd gydweithio i roi cyngor ac arweiniad i'r Cadeirydd (a Thîm y Rhaglen). Bydd disgwyl i'r aelodau gyfathrebu â chydweithwyr perthnasol yn eu sefydliadau a meysydd eu Cyfarwyddwr Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru.

13. Bydd disgwyl i aelodau'r bwrdd roi cyngor sy'n hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau. Ni all aelodau'r bwrdd weithio ar wahân i'w gilydd; mae meithrin cysylltiadau adeiladol ar draws holl aelodaeth y bwrdd yn angenrheidiol er mwyn gweithredu'r rhaglen.

14. Disgwylir i'r aelodau ystyried papurau a ddosberthir gan yr ysgrifenyddiaeth cyn pob cyfarfod, ac ymateb os gofynnir iddynt wneud hynny o fewn yr amserlenni a bennwyd.

15. O ystyried natur a chynnwys trafodaethau'r bwrdd, bydd disgwyl i'r aelodau drin holl drafodaethau a phapurau'r bwrdd yn gyfrinachol. Er hynny, ar ôl pob cyfarfod o'r bwrdd bydd yr ysgrifenyddiaeth yn llunio crynodeb o'r materion allweddol a drafodwyd er mwyn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

16. Rhaid cyflwyno unrhyw geisiadau i rannu papurau'r bwrdd, neu i drafod gydag unigolion neu sefydliadau eraill, i'r Ysgrifenyddiaeth eu hystyried.

Rôl tîm y rhaglen

17. Mae Tîm y Rhaglen yn cynnwys aelodau o'r tîm Dileu Elw yng Nghyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru.

18. Bydd Tîm y Rhaglen yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth i Fwrdd y Rhaglen, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i Aelodau'r Bwrdd mewn modd amserol i'w alluogi i ddarparu cyngor. Bydd papurau ar gyfer Bwrdd y Rhaglen yn cael eu darparu i'r holl Aelodau a Mynychwyr o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn cyfarfodydd.

Rôl mynychwyr bwrdd y rhaglen

19. Gall y cadeirydd ac aelodau'r bwrdd awgrymu mynychwyr i gymryd rhan ar gyfer eitemau penodol. Gall rôl mynychwyr gynnwys darparu gwybodaeth, cyngor neu arweiniad ychwanegol yn ogystal â chyflawni swyddogaeth herio. Ni fydd ganddynt rôl yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n bosibl bod mynychwyr yn cynrychioli sefydliadau allanol a fydd â rôl yn y gwaith o weithredu'r rhaglen.

Rôl arsyllwyr bwrdd y rhaglen

20. Gall arsyllwyr ofyn am gael bod yn bresennol, neu gael eu gwahodd i gyfarfodydd bwrdd y rhaglen, ond rhaid gofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y cadeirydd.

Tasgau bwrdd y rhaglen

21. Mae Bwrdd y Rhaglen yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau yn y meysydd canlynol:

Goruchwylio a rhoi cyngor ar:

  • weinyddu, cynllunio, a data'r rhaglen
  • datblygu, gweithredu, a gwerthuso polisi
  • cyfathrebu

Mae tasgau penodol yn y meysydd hyn wedi'u nodi isod.

Gweinyddu, cynllunio, a data'r rhaglen

22. Cytuno ar y Cylch Gorchwyl hwn neu gynnig telerau ychwanegol neu newydd sy'n cyflawni'r diben

23. Adolygu'r Cylch Gorchwyl hwn bob chwe mis

24. Ym mhob un o gyfarfodydd bwrdd y rhaglen, ystyried a chynghori ar gamau gweithredu a chofrestr risgiau bwrdd y rhaglen, ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd, gan gytuno arnynt a'u hadolygu'n rheolaidd.

25. Goruchwylio a chynghori ar Gynllun Rhaglen Cenedlaethol Llywodraeth Cymru – Dileu Elw o Ofal Plant sy'n Derbyn Gofal ("Cynllun y Rhaglen Genedlaethol"). Mae hyn yn cynnwys adolygu'n barhaus i sicrhau bod cynlluniau yn realistig ac yn cael yr adnoddau priodol cyn belled â bod hynny'n ymarferol.

26. Ystyried y data cyfredol sy'n ymwneud â'r rhaglen, gan gynnwys adroddiadau gwybodaeth am y farchnad o Gonsortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant ochr yn ochr ag adroddiadau chwe mis Llywodraeth Cymru ar y trawsnewid i fodel nid-er-elw (sy'n cynnwys data gan StatsCymru, AGC, y Consortiwm Comisiynu, a Maethu Cymru). Cynghori ar gamau gweithredu posibl a meysydd lle y gallai fod angen data ychwanegol.

Datblygu, gweithredu, a gwerthuso polisi

27. Ystyried diweddariadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar feysydd datblygu polisi penodol sy'n gysylltiedig â darpariaethau dileu elw y Ddeddf, a darparu cyngor a heriau adeiladol fel y bo'n briodol. Wrth symud ymlaen, bydd y bwrdd hefyd yn ystyried sut y gellir gwerthuso'r rhaglen yn y cyfnod cyn ac ar ôl cerrig milltir gweithredu allweddol.

Cyfathrebu

28. Goruchwylio a chynghori ar gynllunio cyfathrebu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen ac unrhyw sefydliadau eraill fel y bo'n briodol.

Amlder cyfarfodydd bwrdd y rhaglen

29. Bydd bwrdd y rhaglen yn cyfarfod 3 gwaith y flwyddyn, gan osgoi cyfnod yr haf lle bo modd.

Absenoldeb

30. Os na all aelod o'r bwrdd fod yn bresennol mewn cyfarfod, dylid ystyried dirprwy, gan hysbysu tîm y rhaglen ymlaen llaw.

Aelodaeth bwrdd y rhaglen

Y Cadeirydd

Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dirprwy gadeirydd / uwch-swyddog cyfrifol

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Gyfarwyddiaeth Galluogi Pobl, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Craig Macleod (Cadeirydd Ffrwd Waith 1 hefyd).

Fôn Roberts.

Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan

Sharon Powell.

Rhiain Morrlle.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Naomi Alleyne.

Stewart Blythe.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Margaret Rooney.

Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC)

Sarah McCarty.

Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant

Karen Benjamin.

Helen Pugh.

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Adrian Clarke.

Cynghorydd CAMHS (Child and Adolescent Mental Health Services) i Lywodraeth Cymru a'r Prif Swyddog Meddygol

Dave Williams.

Asiantaethau maethu trydydd sector Cymru / fframwaith maethu cenedlaethol / Maethu Cymru / Cynrychiolaeth Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh)

Sarah Coldrick, AFKA Cymru.

Sam Frith-Jones, AFKA Cymru.

Laurie Ryall, Gweithredu dros Blant.

Sarah Thomas, Y Rhwydwaith Maethu.

Suzanne Griffiths, Maethu Cymru.

Cymdeithas Genedlaethol Darparwyr Maethu.

Harvey Gallagher

Darparwyr Cartrefi Gofal Annibynnol

Darryl Williams, Woodlands Limited.

Paul Thomas, Landsker.

Siobhan Carey, Grŵp Accomplish

Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas.

Voices from Care

Deborah Jones.

Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru

Sarah Durrant.

Unsain

Mark Turner.

Undeb y GMB

Tom Hoyles.

Heddlu De Cymru

DCS Davis.

Comisiynu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru

Maria Bell.

Cadeirydd Ffrwd Waith 2

I’w gadarnhau.

Cadeirydd Ffrwd Waith 1

Craig Macleod (Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru hefyd).

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Penny Hall, Pennaeth y Gangen Gwella Canlyniadau i Blant.

Tom Cleaver, Pennaeth Dileu Elw (Tîm y Rhaglen).

Neil Jones, Tîm y Rhaglen.

Jasmin Jordan, Tîm y Rhaglen.

Judith Cole, Cyllid Llywodraeth Leol a Pholisi Llywodraeth Leol.