Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr Iechyd Cymru

Dyddiad Cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2023

Statws: Gweithredu

Categori:Y gweithlu

Teitl: Ymarfer 'mopio i fyny' Rhaglen Frechu rhag y Ffliw 2023 i 2024

Dyddiad Dod i ben / dyddiad yr adolygiad: Amherthnasol

I’w weithredu gan:

Prif Weithredwyr Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Arweinwyr Imiwneiddio Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Cydgysylltwyr Imiwneiddio Byrddau Iechyd

Arweinwyr Ffliw Ymddiriedolaethau

Cyfarwyddwyr Meddygol Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Cyfarwyddwyr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd

Prif Fferyllwyr Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd

Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyfarwyddwr Cynllunio Rhaglen Frechu Cymru Gweithrediaeth GIG Cymru

Cyngor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Ymarferwyr Cyffredinol

Rhaglen Frechu Cymru Gweithrediaeth GIG Cymru

Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Fferyllwyr Cymunedol

Anfonwr: Prif Swyddog Meddygol Cymru

Enw(au) Cyswllt GIGC Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Diogelu Iechyd, Adran Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Hysbysrwydd

Annwyl Gydweithwyr,

Brechu rhag y ffliw yw un o'r ymyriadau iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol i amddiffyn pobl rhag heintiau a lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros gyfnod prysur y gaeaf.

Rwyf felly yn bryderus bod y nifer sy'n manteisio ar frechlyn y rhaglen bresennol yn is na tharged Llywodraeth Cymru o 75% ar draws pob grŵp oedolyn cymwys. Oni bai ein bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, mae posibilrwydd y gall hyn arwain at ganlyniadau sylweddol i iechyd pobl sy'n wynebu risg uwch oherwydd COVID-19 a'r ffliw, a hefyd yn ddiweddarach i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod yr hyn rydym yn ei ddisgwyl i fod yn aeaf heriol. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu.

O ganlyniad, yn yr un modd â'r llynedd, rwy'n gofyn i fyrddau iechyd gynorthwyo gwasanaethau Gofal Sylfaenol gyda'r gwaith 'mopio i fyny' wedi'i dargedu o ran y ffliw o fis Ionawr 2024 ymlaen. Nod y cam gweithredu hwn yw sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn manteisio ar y brechlyn ym mhob grŵp oedolyn, yn enwedig y rhai hynny mewn grŵp risg clinigol. Rwy'n gobeithio y bydd cymorth ychwanegol gan y bwrdd iechyd, ochr yn ochr â brechiadau cynlluniedig parhaus rhag y ffliw mewn meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol, yn helpu i roi hwb i'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn gan hefyd leihau'r pwysau ar wasanaethau Gofal Sylfaenol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Gan weithio ar y cyd â thimau Gofal Sylfaenol (Gwasanaeth Meddygol Cyffredinol a Fferyllfeydd Cymunedol), hoffwn i fyrddau iechyd lunio cynlluniau ynglŷn â sut y bydd yr ymarfer ‘mopio i fyny’ ar gyfer brechu rhag y ffliw yn cael ei roi ar waith, ochr yn ochr â darparu brechiadau COVID-19 sydd eisoes yn symud i fodel galw i mewn. Ar ôl cwblhau'r cynlluniau hyn, dylid eu rhannu â Rhaglen Frechu Cymru. Yn ogystal, bydd angen i fyrddau iechyd ledaenu neges glir i'w poblogaethau lleol ynglŷn â sut, pryd a ble y gall unigolion gael eu brechu rhag y ffliw a COVID-19 yn eu hardaloedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwblhau deunyddiau marchnata cenedlaethol i gynorthwyo cynlluniau cyfathrebu ac ennyn diddordeb yn lleol.

Yn benodol, hoffwn i fyrddau iechyd ymwneud yn uniongyrchol â'r 25% o feddygfeydd sydd â'r nifer isaf o bobl yn manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw yn eu hardaloedd ar hyn o bryd. Bwriad hyn yw eu cynorthwyo ym mhob ffordd i gynnig brechlynnau i'w carfannau o gleifion cymwys.

Cyflenwad

Gan nad oes cyflenwad ychwanegol o frechlynnau'r ffliw ar gyfer oedolion wedi'i gaffael gan Lywodraeth Cymru eleni, dylai byrddau iechyd wneud y trefniadau angenrheidiol i ddefnyddio stoc dros ben a gedwir yng Ngofal Sylfaenol (Gwasanaeth Meddygol Cyffredinol a Fferyllfeydd Cymunedol) ac yn eu sefydliadau eu hunain er mwyn cefnogi'r ymarfer 'mopio i fyny' hwn. Dylid archebu cyflenwad ar gyfer y rhaglen brechu plant rhag y ffliw (LAIV) drwy'r weithdrefn arferol gan ddefnyddio Immform.

Llif data brechu rhwng byrddau iechyd ac ymarferwyr cyffredinol

Yn yr un modd â'r llynedd, rwyf yn gwybod na fydd modd adfer yn amserol y brechiadau a gofnodwyd yn System Imiwneiddio Cymru (WIS) i systemau ymarferwyr cyffredinol ar gyfer yr ymarfer 'mopio i fyny' hwn. Yn hytrach, bydd crynodeb wythnosol o frechiadau a roddwyd yn cael ei ddarparu gan fyrddau iechyd i ymarferwyr cyffredinol cofrestredig unigolion sydd wedi'u brechu. Rwyf yn cydnabod y bydd hyn yn gofyn am waith gweinyddol i feddygfeydd.

Mae'r gwaith hwnnw, wrth gwrs, yn debyg iawn i'r hyn sydd yn ofynnol eisoes wrth gofnodi brechiadau'r ffliw a roddir mewn Fferyllfeydd Cymunedol. Er hynny, bydd cofnod clinigol fod y brechiad wedi'i roi ar WIS a CYPRIS. Gofynnir i Fyrddau Iechyd a meddygfeydd weithio mewn partneriaeth i reoli'r gwaith gweinyddol ychwanegol hwn. O ran meddygfeydd unigol, ni ddisgwylir i'r gwaith fod yn sylweddol.

Byddai'r systemau canlynol yn cael eu defnyddio ar gyfer cofnodi'r brechiad yn y lle cyntaf:

  • unrhyw un 16 oed ac yn hŷn ar WIS
  • unrhyw un 4 i 15 oed ar CYPRIS
  • unrhyw un 2 a 3 oed ar CYPRIS

Gan fod nifer o systemau data yn cael eu defnyddio i gofnodi brechiadau'r ffliw, dylid gwneud pob ymdrech cyn rhoi brechlyn i wirio hanes brechu blaenorol unigolyn er mwyn lleihau'r risg iddo gael ei frechu ddwywaith.

Rwy'n diolch ichi unwaith eto am eich cymorth parhaus i gyflawni Rhaglen Frechu'r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol, sy'n parhau i helpu i amddiffyn ein pobl rhag clefydau ataliadwy drwy frechu a allai fod yn ddifrifol.

Yn gywir

Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru