Sut i aildrefnu neu ganslo’ch apwyntiad brechu ar-lein os na allwch fynd ar y dyddiad neu’r amser a gynigiwyd ichi.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth aildrefnu apwyntiad brechu ar-lein i:
- newid eich apwyntiad brechu COVID-19 i ddyddiad hwyrach
- canslo’ch apwyntiad brechu COVID-19
- dewis i beidio â chael gwahoddiadau i apwyntiad brechu COVID-19 yn y dyfodol
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth aildrefnu apwyntiad brechu COVID-19 os yw pob un o’r canlynol yn wir:
- rydych yn 12 mlwydd oed neu’n hŷn
- rydych wedi’ch cofrestru â meddygfa yng Nghymru
- mae gennych apwyntiad brechu COVID-19 yn hwyrach na dyddiad heddiw
- rydych wedi cael llythyr neu neges destun gan eich bwrdd iechyd yn eich gwahodd i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn
- nid ydych wedi cael prawf COVID-19 positif yn y 28 diwrnod diwethaf (mae angen ichi aros o leiaf 28 diwrnod ar ôl haint cyn cael eich brechu)
Aildrefnu neu ganslo’ch apwyntiad brechu COVID-19 (ar nhs.uk)
Bydd angen ichi gofrestru â NHS Login i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os oes gennych Bàs COVID y GIG, byddwch eisoes wedi’ch cofrestru â’r system. I gofrestru, bydd angen ichi lanlwytho llun o un o’r canlynol:
- pasbort
- trwydded yrru lawn yn y DU
- trwydded yrru Ewropeaidd lawn
Hefyd, efallai y bydd gofyn ichi recordio fideo byr o’ch hun.
Bydd aildrefnu neu ganslo’ch apwyntiad yn galluogi’r GIG i gynnig eich slot i rywun arall.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu â’ch bwrdd iechyd i newid eich apwyntiad neu gallwch ddefnyddio gwasanaeth testun y GIG. Mae’r wybodaeth hon i’w gweld yn y llythyr a oedd yn eich gwahodd i gael eich brechu.