Gwiriwch eich bod wedi cael eich holl frechiadau.
Cynnwys
Trosolwg
Yn y coleg neu'r brifysgol byddwch yn cwrdd, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd. Gall hyn fod yn amgylchedd delfrydol i heintiau feirws ledaenu.
Mae brechu yn eich amddiffyn rhag clefydau difrifol, a allai fod yn angheuol hyd yn oed.
Bydd cael eich brechu'n llawn hefyd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirysau hyn. Bydd hyn yn helpu i'ch amddiffyn chi, eich teulu, eich cyfoedion, a phobl agored i niwed.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi eich amddiffyn rhag:
Gwiriwch eich bod cael eich holl frechiadau
Brechiadau y dylech fod wedi eu cael:
- 2 ddos o'r brechlyn MMR
Mae’r rhain yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.Fel arfer mae plant yn cael eu brechu cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd.
- 1 dos o’r brechlyn MenACWY
Mae'r brechlyn hwn yn amddiffyn rhag pedwar straen gwahanol o lid yr ymennydd (A, C,Y a Men W). Fel arfer cynigir y brechlyn hwn ym mlwyddyn 9.
- 2 ddos o'r brechlyn HPV
Mae hyn yn amddiffyn yn erbyn Papiloma Dynol. Mae hwn yn haint a drosglwyddir yn rhywiol cyffredin iawn. Mae'r brechlyn HPV yn helpu i amddiffyn rhag canserau a defaid gwenerol sy'n cael eu hachosi gan HPV.
Fel arfer cewch gynnig y dos cyntaf ym mlwyddyn 8 ac ail ddos 6 i 24 mis ar ôl y cyntaf.
- 2 ddos o’r brechlyn COVID-19 a'r brechlyn/brechlynnau atgyfnerthu a argymhellir
Mae hyn yn eich amddiffyn rhag salwch difrifol yn ystod haint COVID-19. Mae hefyd yn lleihau'r risg o gymhlethdodau o salwch COVID hir yn sylweddol.
Cynigir 2 ddos cyntaf 12 wythnos ar wahân.
Os ydych yn 16 oed neu'n hŷn, rydych hefyd yn gymwys i gael dos atgyfnerthu (3ydd dos). Mae'r rhain yn frechlynnau sydd am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac nid yw'n rhy hwyr i gael eich brechu os nad ydych wedi'u cael.
Bydd eich meddygfa bresennol yn gallu dweud wrthych a yw'ch brechiadau'n gyfredol a sut i'w cael. Mae'n gwneud synnwyr i wneud hyn yn gynnar er mwyn gallu canolbwyntio ar ddysgu a mwynhau eich hun wedyn.
Ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau.