Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw 2023 i 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ffliw yn feirws sy’n gallu achosi salwch difrifol a marwolaeth. Mae achosion ohono’n digwydd yn ystod bron pob gaeaf, ac mae’n feirws sy’n newid yn gyson. Bob blwyddyn, mae brechlyn y ffliw yn cael ei newid i gyfateb i’r feirysau sy’n cylchredeg.

Mae’r bwysig bod y rheini sy’n gymwys yn derbyn y cynnig i gael eu brechu rhag y ffliw, er mwyn:

  • helpu i ddiogelu unigolion
  • diogelu ein cymunedau
  • helpu ein gwasanaethau iechyd a gofal 

Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw 2022 i 2023

Yr hydref a’r gaeaf hwn, rydyn ni’n cynnig brechiad rhag y ffliw i’r bobl ganlynol:

  • plant sy’n ddwy a thair oed ar 31 Awst 2023
  • plant ysgolion cynradd o'r dosbarth derbyn hyd at, a gan gynnwys, blwyddyn 6  
  • plant ysgolion uwchradd o flwyddyn 7 hyd at, a gan gynnwys, blwyddyn 11 
  • unigolion rhwng chwe mis oed a 64 oed sydd mewn grwpiau risg clinigol
  • pobl 65 oed a hŷn (oedran ar 31 Mawrth 2024)
  • pob oedolyn sy'n preswylio yng ngharchardai Cymru
  • menywod beichiog 
  • gofalwyr 
  • pobl ag anabledd dysgu
  • staff mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid 
  • staff sy'n darparu gofal cartref
  • staff sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen y GIG/gofal sylfaenol 
  • gweithwyr gofal iechyd (gan gynnwys myfyrwyr gofal iechyd) sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion

Yn ogystal, bydd pobl sy’n ddigartref yn grŵp cymwys yn 2023-24. 

Roedd Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2022/031) a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2022 yn nodi bod angen gwneud asesiad pellach i benderfynu a ddylid cynnwys pobl 50 i 64 oed, sy’n iach fel arall, yn y rhaglen ar gyfer 2023-24. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na fydd y grŵp hwn yn rhan o'r garfan gymwys ar gyfer 2023-24, ac y bydd y rhaglen yn dychwelyd i’r drefn cyn pandemig COVID-19 o ran pwy sy’n gymwys o ran oedran.

Fodd bynnag, bydd pobl rhwng 50 a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol yn gymwys i gael brechiad ffliw fel y cynghorir gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio.

Os ydych chi'n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog, neu'n 65 oed neu'n hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol. Os ydych chi'n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, gofynnwch i'ch cyflogwr ble gallwch chi gael eich brechiad.

Dylai staff cartrefi gofal a gofalwyr cartref siarad â'u fferyllfa gymunedol ynglŷn â chael eu brechiad ffliw.

Bydd eich meddygfa neu nyrs yr ysgol yn cysylltu â phlant sy’n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi colli ei gyfle i gael y brechiad, cysylltwch â nyrs yr ysgol neu eich meddygfa.

Bydd rhai grwpiau agored i niwed yn cael cynnig brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 yn ystod yr un apwyntiad. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn ni’n sicrhau eich bod yn gwybod lle a sut i gael y ddau frechlyn hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.