Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag COVID-19 a brechiadau atgyfnerthu hydref 2022.
Cynnwys
Y rhaglen brechu rhag COVID-19, hydref 2022
Bydd brechu yn:
- eich diogelu chi rhag salwch difrifol yn ystod haint COVID-19
- lleihau’r risg o gymhlethdodau o salwch COVID hir yn sylweddol
- helpu i ddiogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal
- cryfhau imiwnedd yn y rheini a fyddai yn y perygl mwyaf pe baen nhw’n dal COVID-19
Yr hydref hwn, rydyn ni’n cynnig brechiad atgyfnerthu yn erbyn COVID-19 i’r bobl ganlynol:
- preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a’r staff sy’n gweithio yn y cartrefi hynny
- gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- pob oedolyn 50 oed ac yn hŷn
- unigolion 5 i 49 oed sydd mewn grŵp risg clinigol (fel y’i diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk))
- unigolion 5 i 49 oed sy’n dod i gysylltiad ag unigolion imiwnoataliedig sy’n byw ar yr un aelwyd â nhw (fel y’u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd(gov.uk))
- unigolion 16-49 oed sy’n ofalwyr.
Mae’r byrddau iechyd yn gwahodd pob unigolyn cymwys. Gallwch newid neu aildrefnu eich apwyntiad brechu ar-lein. Peidiwch â chysylltu â’ch bwrdd iechyd oni bai bod angen ichi aildrefnu ond eich bod yn methu â gwneud hynny ar-lein. Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiadau brechu COVID-19.
Gallwch ddod o hyd i ddiffiniadau a chanllawiau cymhwystra o gamau blaenorol yn y rhaglen brechu.
Bydd rhai grwpiau agored i niwed yn cael cynnig brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 yn ystod yr un apwyntiad. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn ni’n sicrhau eich bod yn gwybod ble a sut i gael y ddau frechlyn hyn.
Brechiadau COVID-19 i blant 12 oed a hŷn
Os nad ydych wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, nid yw’n rhy hwyr i drefnu cael eich brechiad nawr. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol i drefnu apwyntiad neu ei ddilyn ar ei gyfryngau cymdeithasol.
Brechiadau COVID-19 i blant
Mae plant 5 i 11 oed yn gymwys i gael brechiad COVID-19 os ydynt:
- troi'n 5 ar neu cyn y 31 Awst neu
- yn cael eu hystyried yn y categori risg (fel y’i diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk))
Mae plant cymwys yn cael dos llai o'r brechlyn COVID-19.
Mae angen fod o leiaf 12 wythnos rhwng y ddau ddos o’r brechlyn plant.