Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yn nodi’r gweithgareddau sy’n mynd rhagddynt yn yr ysgolion a oedd yn rhan o’r sampl: y galluogwyr; y rhwystrau; a’r cynlluniau yn yr ysgolion hynny i wneud newidiadau pellach.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae ystod o weithgareddau yn mynd rhagddynt mewn ysgolion, o weithgareddau ‘cyffyrddiad ysgafn’ fel rhannu gwybodaeth, i weithgareddau cynhwysfawr sy’n cynnwys ad-drefnu strwythurol. 
  • Mae tystiolaeth gref bod llawer o ad-drefnu gweithlu, ond nid yw ysgolion, o reidrwydd, yn gweld hyn rhywbeth sy’n rhagflaenu’r gwaith o gyflwyno cwricwlwm newydd, yn unol â’r argymhellion a geir yn Dyfodol Llwyddiannus. 
  • Roedd arweinyddiaeth yn ffactor ysgogi allweddol o ran newid ac addasu.
  • Gwelwyd dirprwyo cyfrifoldebau mewn perthynas â newid y cwricwlwm i aelodau o’r Uwch-dîm Rheoli neu staff addysgu eraill yn alluogydd o ran newid/addasu. 
  • Roedd y prif rwystrau yn ymwneud â pharhau i ddefnyddio’r system asesu bresennol (yn benodol at ddibenion atebolrwydd) a chymwysterau. Roedd hyn yn amlwg iawn mewn ysgolion uwchradd.
  • Mae peth ansicrwydd yn parhau ymhlith staff addysgu ynghylch eu rôl yn y cwricwlwm newydd ac mae hyn yn cael ei weld fel rhwystr i allu gwneud newidiadau’n hyderus.

Adroddiadau

Newidiadau ac addasiadau ysgol ar gyfer cyflenwi cwricwlwm ac asesu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rhian Davies

Rhif ffôn: 0300 025 6791

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.