Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Chwefror 2026.

Cyfnod ymgynghori:
19 Tachwedd 2025 i 11 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym eisiau eich barn ar newidiadau arfaethedig i rai o'n hallbynnau ystadegol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Gwyddom fod llawer o'n hallbynnau ystadegol yn cael eu gwerthfawrogi a'u defnyddio'n eang. Ar yr un pryd, rydym yn wynebu gofynion cynyddol, pwysau ariannol a'r angen i foderneiddio sut rydym yn gweithio.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r heriau hynny. Rydyn ni'n symud i ffwrdd o feddalwedd y telir amdano, ac yn mabwysiadu offer ffynhonnell agored am ddim. Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu ffyrdd mwy effeithlon a chynaliadwy o weithio, gan gynnwys piblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy (Swyddogaeth Dadansoddi).

Er mwyn gwneud lle ar gyfer y trawsnewidiad hwn, mae angen i ni edrych yn ofalus ar yr hyn rydyn ni'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd a gwneud rhai penderfyniadau ynghylch ble rydyn ni'n canolbwyntio ein hymdrechion.

Rydym yn cynnig newidiadau i rai o'n hallbynnau ystadegol, gan gynnwys:

  • stopio neu ohirio rhai datganiadau
  • byrhau'r cynnwys
  • cyhoeddi allbynnau yn llai aml
  • newid fformat allbynnau

Rydym yn gwybod y gall newid fod yn anodd, a bod gan lawer o allbynnau werth hirsefydlog. Dyna pam rydyn ni eisiau clywed gennych, nid yn unig am a ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno, ond am sut y gallwn reoli'r newid hwn yn y ffordd orau gyda'n gilydd.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall effaith y cynigion hyn a siapio sut rydym yn blaenoriaethu ein gwaith yn y dyfodol.

Dogfennau ymgynghori

Newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru: asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 213 KB

PDF
213 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.