Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Tachwedd 2015.

Cyfnod ymgynghori:
2 Medi 2015 i 26 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Pennod 10 Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 4 (TAN4) yn pennu polisïïau cynllunio ar gyfer datblygu safleoedd manwerthu a chanolfannau manwerthu.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn hybu canolfannau manwerthu presennol fel y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer manwerthu a swyddogaethau ategol eraill.

Nod yr adolygiad yw diweddaru Pennod 10 y Polisi Cynllunio a TAN4 fel ei fod yn cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod canolfannau sydd wedi’u sefydlu yn fwy bwyiog atyniadol a hyfwy.

Y prif feysydd o newid o fewn Polisi Cynllunio Cymru yw:  

  • Amcanion diwygiedig ar gyfer y polisi cynllunio manwerthu i gynnwys yr angen am hyblygrwydd wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad
  • Mwy o bwyslais ar yr angen i bolisïau manwerthu gael eu cynnwys o fewn strategaeth fanwerthu o fewn y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) sy’n cael eu hategu gan uwchgynlluniau a sefydlu cynlluniau i helpu i gyflawni’r strategaeth
  • Y gofyniad i’r CDLlau sefydlu hierarchiaeth o ganolfannau sydd wedi’u datblygu’n lleol
  • Canllawiau cliriach ar ddefnyddioldeb yn destun i’r prawf dilyniannol
  • Polisïau diwygiedig ar gyfer delio â defnydd newydd a chanolfannau sy’n newid; a chysondeb o ran terminoleg.  

Bu diwygiadau cynhwysfawr i TAN4 ac ar ei ffurf ddrafft mae bellach yn adlewyrchu ac yn cefnogi’r canllawiau a amlinellwyd yn y drafft a ddiweddarwyd o Bennod 10 y Polisi Cynllunio.  Mae TAN4 yn cynnig rhagor o gyngor technegol ar y meysydd pwnc canlynol:  

  • Amcanion ar gyfer manwerthu
  • Heirarchiaeth canolfannau
  • Strategaethau manwerthu uwchgynlluniau a chynlluniau lle
  • Profion anghenion manwerthu
  • Y prawf dilyniannol
  • Ffryntiadau manwerthu
  • Newid defnydd a rheoli datblygiadau
  • Gorchmynion Datblygu Lleol
  • Monitro dangosyddion

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 204 KB

PDF
204 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Pennod 10 Polisi Cynllunio Drafft Cymru: Datblygu Canolfan Fanwerthu (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 157 KB

PDF
157 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Nodyn Cyngor Technegol Drafft 4: Datblygu Canolfan Fanwerthu (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 235 KB

PDF
235 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 893 KB

PDF
893 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.