Rydym am eich barn ar newidiadau arfaethedig i ganllawiau ar baratoi strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDSAV).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd â dyletswydd o dan Adran 5 o Ddeddf VAWDASV 2015 i baratoi strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â VAWDASV.
Nod ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru yw:
- cyhoeddi'r Canllawiau o dan Adran 15 o Ddeddf VAWDASV 2015, a fydd yn rhoi sail statudol i'r canllawiau, pa gyrff o dan adran 17 o'r Ddeddf sydd â dyletswydd i'w dilyn
- darparu strwythur clir ar gyfer paratoi strategaethau lleol
- egluro'r atebolrwydd am weithredu’r strategaethau lleol
- egluro rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n ymwneud â pharatoi a weithredu’r strategaeth
- cryfhau'r trefniadau partneriaeth a chydweithredu rhwng sefydliadau
- darparu arweiniad ar bwysigrwydd rhannu data wrth baratoi strategaethau
- darparu templedi ar gyfer Asesiadau o Anghenion a'r strategaethau lleol i gefnogi cysondeb ac eglurder ledled Cymru
Bydd ymgynghori a/neu ymgysylltu pellach yn digwydd os yw'n briodol.
Dogfennau ymgynghori
Gwybodaeth ychwanegol
Nodyn: Anonymeiddio ymatebion
Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.
Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
Newidiadau i’r ymgynghoriad
Mae rhai cywiriadau bach wedi'u gwneud i'r ddogfen ymgynghori i fynd i'r afael â rhai gwallau. Nid yw'r rhain yn effeithio ar gynnwys yr ymgynghoriad.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Ebrill 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelwch i:
VAWDASV
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
