Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Mehefin 2023.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i glywed eich barn am newidiadau arfaethedig i'r cyfreithiau sy'n rheoleiddio'r sylweddau peryglus a elwir yn Biffenylau Polyclorinedig (PCBs) yng Nghymru a Lloegr.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn awyddus i glywed eich barn am newidiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus eraill) (Cymru a Lloegr) 2000 (OS 2000/1043), fel y'u diwygiwyd ("y Rheoliadau PCBs"). Rydym yn ymgynghori ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar DEFRA.GOV.UK