Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Mehefin 2024.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich sylwadau pellach ar rai newidiadau arfaethedig i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad technegol hwn yn cynnig gwneud nifer o newidiadau i'r cynllun er mwyn ei gwneud yn haws i fanteisio arno ac yn symlach i'w weinyddu:
- Cynnig 1: symleiddio'r broses gwneud cais
- Cynnig 2: lleihau cymhlethdod gweinyddol y cynllun
Nid oes unrhyw beth yn yr ymgynghoriad hwn yn gosod cyfyngiadau newydd ar gymhwystra presennol ar gyfer y cynllun.