Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Ionawr 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 234 KB
Mynegai ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 107 KB
Ymatebion - rhan 1 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymatebion - rhan 1 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gyflwyno newidiadau er mwyn caniatáu i fusnesau, sefydliadau addysgol ac ysbytai wneud mwy o welliannau i'w heiddo heb orfod gofyn am ganiatâd cynllunio.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gellir ymgymryd â rhai datblygiadau bach heb orfod gofyn am ganiatâd cynllunio. Gelwir y rhain yn Hawliau Datblygu a Ganiateir. Mae’r hawliau hyn yn cael eu caniatáu dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (GPDO).
Bydd y newidiadau arfaethedig yn:
- Caniatáu i fusnesau sefydliadau addysgol ac ysbytai wneud mwy o welliannau ac addasiadau i’w heiddo heb orfod gofyn am ganiatâd cynllunio;
- Gosod amodau ar gyfer hawliau datblygu a ganiateir er mwyn sicrhau’r effaith leiaf bosibl ar eraill a’r amgylchedd;
- Gosod rhagor o gyfyngiadau ar ddatblygu a ganiateir o fewn Safleoedd Treftadaeth y Byd.
