Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir i Ysgolion annibynnol

  1. Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 80 o ysgolion annibynnol cofrestredig yng Nghymru. Mae'r nifer hwn wedi'i rannu'n weddol gyfartal rhwng ysgolion prif ffrwd a'r rhai sy'n darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA). Mae'r ystod oedran yn amrywio hefyd, gyda rhai ysgolion yn derbyn plant a phobl ifanc hyd at 18 oed ac eraill yn darparu ar gyfer ystodau oedran penodol. Mae gwahaniaethau sylweddol o ran maint hefyd; mae'r ysgol leiaf wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at bedwar dysgwr ac mae'r ysgol fwyaf wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at 1,500 o ddysgwyr. Dengys y data diweddaraf fod ychydig dros 10,000 o ddisgyblion yn y sector annibynnol yng Nghymru. Mae'r ysgolion hyn yn cyflogi tua 850 o athrawon a 1,200 o staff cymorth.
  2. Mae rhai ysgolion preswyl yn cynnig darpariaeth breswyl, ac mae'r ysgolion preswyl prif ffrwd yn recriwtio dysgwyr rhyngwladol. Mae llawer o'r ysgolion sy'n darparu ar gyfer dysgwyr ADY/AAA yn rhan o ddarpariaeth breswyl, a chaiff y disgyblion sy'n mynychu'r ysgolion hyn eu cyllido gan eu hawdurdod lleol fel arfer.
  3. Yn nodweddiadol, mae ychydig dros hanner o'r dysgwyr ADY/AAA hyn yn derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol, ac maent yn symud i mewn ac allan o'r ddarpariaeth yn rheolaidd, a hynny'n aml ar fyr rybudd, am y gall eu gofynion gofal newid yn gyflym. Mae ymchwil gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn dangos bod plant ag anghenion cymhleth yn wynebu risg llawer uwch o gael eu cam-drin yn rhywiol.Mae plant anabl bron deirgwaith yn fwy tebygol o brofi trais rhywiol na phlant nad ydynt yn anabl. Gall anghenion rhai plant hefyd olygu nad ydynt bob amser yn gwybod neu'n deall pam mae ymddygiad camdriniol yn amhriodol a gallant ei chael yn anodd adnabod pryderon neu achosion o gam-drin rhywiol a rhoi gwybod i rywun amdanynt. Mae'r disgyblion hyn, felly, ymhlith y bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill yn gweithredu o fewn fframwaith sy'n sicrhau eu bod yn darparu'r gofal a'r trefniadau diogelu gorau posibl i'r disgyblion hyn.
  4. Canfu'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol bod “mesurau annigonol ar waith yn hanesyddol i amddiffyn plant rhag y risg o gael eu cam-drin yn rhywiol – heb unrhyw fesurau o gwbl weithiau”. Nododd yr Ymchwiliad fod ysgolion preswyl yn arbennig yn wynebu heriau unigryw a chymhleth mewn perthynas â diogelu plant. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol yn achos ysgolion preswyl sy'n darparu ar gyfer plant ag ADY, neu anghenion cymhleth am fod angen ystyried y lefelau uwch o anghenion iechyd a gofal sydd gan y plant hyn yn ychwanegol at eu haddysg a'u dysgu, sy'n golygu bod y staff yn dod i fwy o gyswllt ac yn treulio mwy o amser â nhw. Mae plant a phobl ifanc sy'n byw mewn ysgolion preswyl yn aml yn bell i ffwrdd o gartref ac yn dibynnu ar yr ysgol i sicrhau eu diogelwch a'u llesiant.
  5. Mae mesurau wedi bod ar waith mewn ysgolion annibynnol i amddiffyn plant ond mae angen cryfhau trefniadau llywodraethu a diogelu er mwyn ystyried argymhellion o adroddiad yr Ymchwiliad yn ogystal â phrofiadau dros y blynyddoedd diwethaf o ddelio â phryderon diogelu mewn ysgol annibynnol yn y gogledd.
  6. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru fod wedi'i chofrestru â Gweinidogion Cymru a dilyn fframwaith o reoliadau. Y prif reoliadau a gorchmynion yw:
  1. Mae diwygiadau i'r rheoliadau yn cynnwys y rhai a wnaed gan y canlynol:
  1. Er mwyn cofrestru ac aros ar y gofrestr, rhaid i'r ysgol gydymffurfio â'r rheoliadau a chyflawni'r safonau ar gyfer ysgolion annibynnol a nodir yn Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 (“y Safonau”).
  2. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i ragnodi safonau ar gyfer ysgolion annibynnol o dan adran 157 o Ddeddf Addysg 2002. Mae'r Safonau wedi'u rhannu'n saith rhan sy'n adlewyrchu'r saith mater y mae'n rhaid eu trin:
  • Ansawdd yr addysg a ddarperir
  • Datblygu disgyblion yn ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol
  • Llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion
  • Addasrwydd perchnogion a'r staff
  • Tir, adeiladau a llety byrddio ysgolion
  • Darparu gwybodaeth
  • Sut i ymdrin â chwynion

Trosolwg o'r newidiadau rheoliadol arfaethedig

  1. Mae'r rheoliadau cyfredol a'r Safonau a ragnodir ganddynt wedi bod ar waith ers 2003 ac, er eu bod wedi cael eu diwygio o bryd i'w gilydd yn ystod y cyfnod hwn, nid ydynt yn adlewyrchu polisi na sefyllfa ddeddfwriaethol gyfredol Llywodraeth Cymru mwyach. Mae angen eu diwygio er mwyn adlewyrchu deddfwriaeth gysylltiedig a gyflwynwyd ers 2003, fel Deddf Cydraddoldebau 2010, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018 a chanllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio diogelu a chefnogi llesiant dysgwyr.
  2.  Yn ogystal â chryfhau'r trefniadau diogelu mewn ysgolion annibynnol, mae'r diwygiadau arfaethedig i'r rheoliadau yn cynnwys newidiadau i wneud y canlynol:
  • cryfhau trefniadau rheoli a llywodraethu ysgolion annibynnol a chadarnhau pwy sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff y Safonau eu cyflawni bob amser
  • diwygio'r amgylchiadau a allai sbarduno ymyriadau gan Lywodraeth Cymru yn sgil codi'r safonau y mae disgwyl iddynt gael eu cyflawni
  • addasu'r Safonau ynghylch ansawdd yr addysg a ddarperir
  1. Nod cyffredinol y diwygiadau arfaethedig i'r rheoliadau a chyfarwyddyd cofrestru a gweithredu ysgolion annibynnol, a eglurir yn fanylach yn y ddogfen ymgynghori, yw:
  • Helpu perchnogion ysgolion annibynnol a'r rhai sy'n gyfrifol am eu rheoli i ddeall beth sy'n ofynnol o dan y rheoliadau a'r Safonau a ragnodir ganddynt
  • sicrhau y gall dysgwyr gyflawni eu potensial a'u bod yn meithrin y sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt
  • sicrhau y caiff dysgwyr eu haddysgu mewn amgylchedd diogel sy'n cefnogi eu llesiant
  • adlewyrchu deddfwriaeth a pholisïau cyfredol Llywodraeth Cymru
  1. Mae'r Rheoliadau diwygiedig drafft a'r ddogfen ganllaw wedi cael eu paratoi yn dilyn y Cais am Dystiolaeth a fu ar waith rhwng 9 Rhagfyr 2021 a 4 Chwefror 2022. Fe'u datblygwyd hefyd â mewnbwn gan ysgolion annibynnol, rhieni disgyblion a darpar ddisgyblion, arolygiaethau Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.
  2. Rydym hefyd yn cynnig cyflwyno set newydd o reoliadau, sef Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023, gan ddefnyddio'r pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 i wneud rheoliadau sy'n rhagnodi ar ba sail y gellir rhoi cyfarwyddyd yn gwahardd person rhag cymryd rhan yn y broses o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru. Rydym o'r farn bod hwn yn gyfraniad pwysig at y mesurau y dylid eu cymryd i ddiogelu dysgwyr.
  3. Ni ragwelir y bydd y Rheoliadau newydd yn creu costau ychwanegol sylweddol i ysgolion annibynnol. Fodd bynnag, bydd yr ysgolion hynny sydd â mwy o waith i'w wneud i gydymffurfio â'r Rheoliadau diwygiedig yn wynebu mwy o gostau na'r rhai sydd eisoes mewn sefyllfa well i gydymffurfio â'r gofynion diwygiedig. Fel rhan o'r ymgynghoriad, mae ysgolion annibynnol a rhanddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb yn cael cyfle i ddarparu gwybodaeth am unrhyw gostau ychwanegol disgwyliedig o ganlyniad i'r diwygiadau arfaethedig hyn a gaiff ei bwydo i mewn i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a fydd yn cyd-fynd â'r Rheoliadau terfynol.

Buddiannau hirdymor

  1. Prif fudd hirdymor y Rheoliadau hyn yw y byddant yn helpu i wella ansawdd addysg a llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru yn ogystal â gwella trefniadau llywodraethu ysgolion annibynnol. Dylai trefniadau cryfach i lywodraethu ysgolion annibynnol helpu'r ysgol annibynnol i weithredu'n fwy effeithiol a bod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
  2. Yn y tymor hwy, bydd plant yn profi cydberthnasau parchus yn eu hysgol ac yn tyfu i fyny yn iachach ac yn fwy diogel.

Atal

  1. Un o brif nodau'r Rheoliadau yw cryfhau mesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector ysgolion annibynnol. Rydym am sicrhau y gallwn atal problemau diogelu rhag digwydd ac ymyrryd yn gynnar i'w hatal rhag gwaethygu os byddant yn digwydd. Mae'n bwysig diweddaru'r sefyllfa reoliadol er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd am fod y Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn dyddio'n ôl i 2003 ac nid ydynt yn gyson mwyach ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn byw mewn amgylchedd diogel.
  2. Bydd y Rheoliadau diwygiedig yn cryfhau trefniadau rheoli a llywodraethu ysgolion annibynnol ac yn rhoi cyfrifoldeb clir am gyflawni'r Safonau ar berchennog yr ysgol. Os na chaiff y Safonau eu cyflawni, bydd gan Weinidogion Cymru fwy o gyfle i ymyrryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Bydd hyn yn atal problemau rhag gwaethygu mewn ysgolion annibynnol wrth i gydymffurfiaeth â'r rheoliadau dynhau.

Integreiddio

  1. Gan ystyried y Cais cychwynnol am Dystiolaeth yn llawn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r Rheoliadau drafft hyn er mwyn dileu rhai o'r bylchau sy'n ymwneud â diogelwch plant a phobl ifanc. Bydd y Rheoliadau drafft yn darparu mesurau i ddiogelu llesiant corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc sy'n dysgu yn y sector ysgolion annibynnol ac, felly, yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn y Rhaglen Lywodraethu, i roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwella iechyd meddwl. Yn ogystal, mae mesurau gwell i ddiogelu plant a phobl ifanc yn cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion fel diwygio addysg, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a dileu anghydraddoldeb.

Cydweithio

  1. Cafwyd Cais am Dystiolaeth rhwng 9 Rhagfyr 2021 a 4 Chwefror 2022 a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r Rheoliadau drafft hyn. Cynhaliwyd digwyddiadau i randdeiliaid hefyd ym mis Ionawr 2023, er mwyn hysbysu'r sector am y newidiadau rheoliadol arfaethedig a'i annog i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Caiff y Memorandwm Esboniadol drafft a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau drafft eu cyhoeddi hefyd fel y gellir gwneud sylwadau arnynt. Er mai ymgynghoriad ar-lein ydyw, mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â rhanddeiliaid yn uniongyrchol i'w hysbysu am lansiad yr ymgynghoriad a'u gwahodd i ymateb. 

Cyfranogiad

  1. Fel y nodwyd uchod, ymgysylltwyd yn sylweddol â rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r Rheoliadau drafft hyn, gan gynnwys yn ystod Cais am Dystiolaeth, digwyddiadau i randdeiliaid mewn perthynas â'r cyfarwyddyd a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023 a'r camau i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Penaethiaid Ysgolion Annibynnol, yn ogystal ag ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Dangosodd allbynnau'r Cais am Dystiolaeth fod y sector ysgolion annibynnol o blaid y cynlluniau i gryfhau neu ymestyn y ddeddfwriaeth bresennol i raddau helaeth. Ymgysylltwyd yn llawn ag Estyn hefyd wrth ddatblygu'r Rheoliadau drafft a'r cyfarwyddyd gweithredu diwygiedig. Bydd swyddogion yn parhau i gyfarfod â rhanddeiliaid wrth i'r ddeddfwriaeth ddatblygu er mwyn trafod ei heffaith bosibl.

Adran 8: Casgliad

  1. Er mwyn helpu i ddatblygu'r Rheoliadau drafft hyn, cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu penodedig ar gyfer ysgolion annibynnol, awdurdodau lleol, Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru a'r Gymdeithas Ysgolion Preswyl ym mis Tachwedd 2021 cyn i'r Cais am Dystiolaeth gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 9 Rhagfyr 2021. Cynhaliodd swyddogion ymarfer e-bost wedi'i dargedu er mwyn annog ysgolion annibynnol i rannu gwybodaeth am y Cais am Dystiolaeth â dysgwyr a rhieni. Gwnaethom ymgysylltu ag Estyn, Comisiynydd Plant Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o ddechrau'r broses hefyd.

Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

  1. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru Gais am Dystiolaeth i bob parti â diddordeb yn 2021 i 2022 a digwyddiadau i randdeiliaid ym mis Tachwedd 2021 a mis Ionawr 2023 er mwyn ceisio barn y sector ar y newidiadau arfaethedig. Cafodd y digwyddiadau i randdeiliaid eu hwyluso gan Estyn. Yn ogystal, cyflwynodd swyddogion o Lywodraeth Cymru wybodaeth am y newidiadau rheoliadol arfaethedig mewn cynadleddau a drefnwyd gan Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru yn 2021 a 2022 a sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Penaethiaid Ysgolion Annibynnol i roi trosolwg arbenigol a helpu i ddatblygu'r Rheoliadau terfynol.
  2. Fel rhan o ddatblygiad parhaus yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, mae swyddogion yn gweithio gyda Plant yng Nghymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn ysgolion annibynnol yn cael cyfle i roi eu barn ar y rheoliadau diwygiedig.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

  1. Yr effaith gadarnhaol fwyaf arwyddocaol fydd y ffaith bod mwy o fesurau diogelu ar waith i'r holl blant a phobl ifanc sy'n dysgu yn y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru, yn ogystal â gwelliannau i drefniadau llywodraethu ar gyfer ysgolion annibynnol eu hunain. Bydd y Rheoliadau'n mynd i'r afael â diffygion a nodwyd yn y Rheoliadau presennol gan Gomisiynydd Plant Cymru ac yn ymateb i faterion a godwyd gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
  2. Plant a phobl ifanc anabl, plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â merched a menywod ifanc fydd yn cael y budd mwyaf o'r cynnig i gryfhau'r rheoliadau gan y bydd mwy o fesurau diogelu ar waith i atal cam-drin rhywiol.
  3. Nodau cyffredinol y Rheoliadau drafft yw cryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn gwella trefniadau llywodraethu ysgolion annibynnol a diogelu a chefnogi llesiant dysgwyr. Caiff hyn ei gyflawni drwy newidiadau rheoliadol a fydd yn:
    • Helpu perchnogion ysgolion annibynnol a'r rhai sy'n gyfrifol am eu rheoli i ddeall beth sy'n ofynnol o dan y rheoliadau a'r safonau a ragnodir ganddynt; bydd hyn yn cynnwys rhoi amlinelliad clir o rôl y perchennog o ran sicrhau bod gofynion o dan y safonau'n cael eu bodloni
    • sicrhau y gall dysgwyr gyflawni eu potensial a'u bod yn meithrin y sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt
    • sicrhau y caiff dysgwyr eu haddysgu a, lle y bo'n briodol, eu bod yn preswylio, mewn amgylchedd diogel sy'n cefnogi eu llesiant
    • adlewyrchu deddfwriaeth a pholisïau cyfredol Llywodraeth Cymru
  4. O ran effeithiau negyddol, bydd y Rheoliadau drafft yn creu rhai costau i ysgolion annibynnol, er enghraifft, yn nhermau gwiriadau amlach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a chaiff y rhain eu hystyried yn adran dadansoddi costau neu buddiannau'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Bydd ysgolion annibynnol yn denu'r costau hyn i raddau amrywiol, yn dibynnu ar eu trefniadau presennol a faint o waith ychwanegol y bydd angen iddynt ei wneud o ganlyniad. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol eraill.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

  1. Rydym yn gwneud y newidiadau hyn i'r ddeddfwriaeth er mwyn helpu i sicrhau bod plant a phobl sy'n dysgu a/neu'n preswylio yn y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru yn gwneud hynny mewn amgylchedd diogel. Bydd y Rheoliadau diwygiedig yn cryfhau'r trefniadau diogelu mewn ysgolion annibynnol ac yn diwygio'r Safonau ar ansawdd yr addysg a ddarperir er mwyn diwygio'r ymyriadau sydd ar gael i Weinidogion Cymru mewn achosion pan nad yw ysgol annibynnol yn cyflawni'r Safonau hynny.
  2. Byddant hefyd yn cryfhau trefniadau rheoli a llywodraethu ysgolion annibynnol ac yn cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Safonau'n cael eu cyflawni'n gyson, gan roi'r cyfrifoldeb am gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau drafft yn glir yn nwylo perchennog yr ysgol. Bydd y canlyniadau hyn yn helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant.
  3. Mae swyddogion o'r farn y bydd effaith gadarnhaol trefniadau diogelu mwy effeithiol i blant a phobl ifanc sy'n dysgu yn y sector a systemau gwell i sicrhau bod ysgolion annibynnol yn gweithredu yn unol â'r Safonau yn llawer trech nag unrhyw gostau i ysgolion annibynnol o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol hyn.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

  1. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Estyn i fonitro, adolygu a gwerthuso'r newidiadau deddfwriaethol ar ôl dyddiad dod i rym y Rheoliadau diwygiedig hyn. Arolygiadau gan Estyn fydd y dangosydd mwyaf mesuradwy o gydymffurfiaeth â'r rheoliadau diwygiedig. Bydd y dull gweithredu hwn yn ceisio mesur eu heffeithiolrwydd ac asesu eu gwir effaith ac, yn benodol, a yw'r nodau polisi yn cael eu cyflawni.
  2. Fel yr awdurdod cofrestru, gall Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i Estyn arolygu unrhyw ysgol gofrestredig mewn perthynas ag unrhyw un o'r Safonau Ysgol Annibynnol neu bob un ohonynt. Bydd gofyn i Estyn gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru ar y graddau y mae'r ysgol yn cyflawni'r Safonau Ysgol Annibynnol a threfnu bod yr adroddiad arolygu yn cael ei gyhoeddi os bydd angen.
  3. Diben yr adolygiad fydd asesu a yw'r rheoliadau'n cael eu bodloni ac a ydynt yn addas at y diben. Cyfrifoldeb Estyn fydd cadarnhau hyn yn ystod yr arolygiadau a gynhelir ganddi. Bydd yr adolygiad yn un parhaus: oherwydd yn ystod pob cyfarfod (bob tymor fel arfer) rhwng Llywodraeth Cymru, Estyn ac AGC, bydd yr arolygiaethau'n darparu rhaglen o arolygiadau o ysgolion annibynnol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y tymor canlynol.
  4. Bydd Estyn yn rhoi cyngor bob tymor ar yr amserlen gyhoeddi ar gyfer adroddiadau arolygu Adran 163 a nodiadau o ymweliadau monitro blynyddol. Bydd hyn yn golygu y gellir tynnu sylw Gweinidogion Cymru at unrhyw faterion cynhennus cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ac y gellir dechrau cymryd unrhyw gamau gweithredu dilynol sydd eu hangen.

Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Cefndir

  1. Mae'r asesiad hwn yn ystyried effaith y gwaith i adolygu a diwygio'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru ar blant a phobl ifanc sy'n dysgu mewn lleoliad o'r fath yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cyfredol a'r safonau a ragnodir ganddynt wedi bod ar waith ers 2003 ac, er eu bod wedi cael eu diwygio o bryd i'w gilydd yn ystod y cyfnod hwn, nid ydynt yn adlewyrchu polisi na sefyllfa ddeddfwriaethol gyfredol Llywodraeth Cymru mwyach. Mae angen eu diwygio er mwyn adlewyrchu deddfwriaeth gysylltiedig a gyflwynwyd ers 2003, fel Deddf Cydraddoldebau 2010, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018 a chanllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio diogelu a chefnogi llesiant dysgwyr.
  2. Y prif reoliadau a gorchmynion sy'n rhan o'r adolygiad hwn yw:
  1. Mae'r diwygiadau i'r rheoliadau yn cynnwys y rhai a wnaed gan y canlynol:
  1. Rydym hefyd yn cynnig cyflwyno set newydd o reoliadau, sef Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023, gan ddefnyddio'r pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 i wneud rheoliadau sy'n rhagnodi ar ba sail y gellir rhoi cyfarwyddyd yn gwahardd person rhag cymryd rhan yn y broses o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru. Rydym o'r farn bod hwn yn gyfraniad pwysig at y mesurau y dylid eu cymryd i ddiogelu dysgwyr.
  2. Yn o brif nodau'r Rheoliadau yw cryfhau mesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc mewn ysgolion annibynnol.   Rydym am sicrhau y gallwn atal problemau diogelu rhag digwydd a'u hatal rhag gwaethygu os byddant yn digwydd. Mae'n bwysig diweddaru'r sefyllfa reoliadol er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
  3. Bydd y Rheoliadau hefyd yn cryfhau trefniadau rheoli a llywodraethu ysgolion annibynnol ac yn rhoi cyfrifoldeb clir am gyflawni'r Safonau ar berchennog yr ysgol. Os na chaiff y Safonau eu cyflawni, bydd gan Weinidogion Cymru fwy o gyfle i ymyrryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
  4. Bydd y Rheoliadau'n cyd-fynd â gwaith arall sy'n cael ei wneud i gyflwyno Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023, a fydd yn rhoi pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg reoleiddio grwpiau ychwanegol o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon mewn ysgolion annibynnol, a'u cynnwys ar gofrestr y gweithlu addysg. Ar y cyd, bydd hyn yn rhoi lefel uchel o hyder i'r cyhoedd y bydd plant a phobl ifanc sy'n dysgu mewn ysgolion annibynnol yn gwneud hynny mewn amgylchedd diogel.

Comisiynydd Plant Cymru

  1. Ym mis Chwefror 2021 cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru yr Adolygiad o sut mae Llywodraeth Cymru yn ymarfer ei swyddogaethau, gan Gomisiynydd Plant Cymru, Chwefror 2021. Roedd yr adroddiad yn feirniadol nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy o gynnydd wrth adolygu'r rheoliadau ar gyfer ysgolion annibynnol gan nodi ei bod wedi ‘methu ag ymateb yn ddigonol i'r pryderon diogelu yng nghyswllt ysgolion annibynnol y buont yn ymwybodol ohonynt ers o leiaf 2014’.  Yn ei hymateb i'r Adolygiad, cydnabu Llywodraeth Cymru fod angen gwneud diwygiadau sylfaenol er mwyn diweddaru'r system reoliadol ar gyfer ysgolion annibynnol. Mae'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant yn rhan o'r ddogfennaeth ategol mewn perthynas â datblygu'r Rheoliadau diwygiedig a fydd yn helpu i fynd i'r afael â phryderon y Comisiynydd.

Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

  1. Ar 1 Mawrth 2022, cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yr Ymchwiliad i Ysgolion Preswyl. Edrychodd yr ymchwiliad ar natur a graddau'r achosion o gam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion preswyl, ac ymatebion yr ysgolion a sefydliadau eraill i'r honiadau hynny.Ymhlith y themâu a ystyriwyd roedd trefniadau llywodraethu a rheoli ysgolion, arolygu a monitro, hyfforddi a recriwtio staff, chwythu'r chwiban a rhoi gwybod am ddigwyddiadau, diwylliant ysgolion ac ymarferion diogelu da. Ystyriodd yr ymchwiliad dystiolaeth yn ymwneud ag ysgol breswyl yng Nghymru, lle cododd materion diogelu yn 2019 a arweiniodd at ddiswyddo'r pennaeth ym mis Chwefror 2020.
  2. Yn ei adroddiad terfynol, gwnaeth yr Ymchwiliad saith argymhelliad. Mae chwech o'r argymhellion hyn i'r Adran Addysg yn Lloegr a Llywodraeth Cymru ac mae un i Lywodraeth Cymru yn unig.
  3. Mae'r newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn ystyried argymhellion amrywiol yr Ymchwiliad ac yn cyflwyno gwiriadau amlach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, trefniadau llywodraethu gwell a mwy o bwyslais ar lywodraethu da mewn ysgolion annibynnol, gan osod dyletswyddau ar y perchennog, nid yr ysgol ei hun.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

  1. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dadlau dros lawer o'r newidiadau arfaethedig ac wedi cyflwyno ymateb manwl a defnyddiol i'r Cais am Dystiolaeth. Mae'r Comisiynydd Plant yn eiriolwr dylanwadol ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn meddu ar wybodaeth gadarn am faterion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc ledled Cymru.
  2. Mae tystiolaeth i lywio'r adolygiad o'r rheoliadau ar gyfer ysgolion annibynnol ac effaith bosibl y newidiadau arfaethedig ar blant wedi cael ei chasglu o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys gwaith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc eu hunain.

Ymgysylltu â dysgwyr o ysgolion annibynnol

  1. Mae sawl ysgol annibynnol ledled Cymru wedi cytuno i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws lle bydd plant rhwng 10 a 18 oed yn cael gwybodaeth am y newidiadau rheoliadol ac yn rhoi eu barn arnynt. Bydd y grwpiau hyn yn dechrau tua diwedd gwanwyn 2023 a defnyddir yr allbynnau er mwyn helpu i ddatblygu'r Rheoliadau terfynol.

Ymgysylltu'n gyffredinol â rhanddeiliaid

  1. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru Gais am Dystiolaeth rhwng 9 Rhagfyr 2021 a 4 Chwefror 2022, gan roi cyfle i bob parti â diddordeb gyflwyno barn, tystiolaeth ategol ac awgrymiadau ynghylch newidiadau posibl i'r fframwaith deddfwriaethol a'r cyfarwyddyd. Gwahoddwyd pob ysgol annibynnol i fynd i un o gyfres o sesiynau ymgysylltu ym mis Tachwedd 2021 ac fe'u hanogwyd i rannu'r Cais am Dystiolaeth â'u disgyblion a rhieni hefyd. Cynhaliwyd sesiynau hefyd ag awdurdodau lleol, cyrff ambarél, y Comisiynydd Plant a rhanddeiliaid eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r adolygiad ac amlinellu'r prif themâu.
  2. Cafodd crynodeb o'r ymatebion i'r Cais am Dystiolaeth ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022.  Dangosodd y canfyddiadau cyffredinol o'r Cais am Dystiolaeth bod cytundeb cyffredinol bod angen diweddaru'r rheoliadau ac mai'r prif feysydd pryder oedd cryfhau'r rheoliadau ynghylch llywodraethu a rheoli ysgolion a sicrhau diogelwch a llesiant dysgwyr. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn cefnogi'r cynigion i wneud y canlynol:
  • cryfhau'r gofyniad o ran hyfforddiant diogelu ar gyfer staff, arweinwyr ysgolion a dysgwyr
  • ystyried pwy ddylai gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chynyddu amlder y gwiriadau hyn i bob tair blynedd
  • cryfhau'r rheoliadau i sicrhau bod ysgolion yn hyrwyddo trefniadau i ddiogelu dysgwyr
  • diwygio geiriad y safonau er mwyn dangos yn glir mai'r perchennog sy'n bennaf gyfrifol am gydymffurfiaeth
  • llunio rheoliadau ynghylch cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgolion annibynnol

Ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft

  1. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2023. Caiff yr holl ymatebion eu hystyried a'u defnyddio i helpu i lunio drafft terfynol y Rheoliadau.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

  1. Bwriedir bod pob un o'r newidiadau arfaethedig i'r rheoliadau a'r set newydd o reoliadau a gyflwynir yn cryfhau'r systemau i ddiogelu dysgwyr ac yn sicrhau addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion annibynnol a fydd, felly, yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc sy'n dysgu yn y sector hwnnw. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol na gwrthdaro ag erthyglau CCUHP.
  2. Caiff cydymffurfiaeth ysgol â'r Safonau ei phrofi gan Estyn yn ystod arolygiadau, a ddylai olygu y bydd llai o risg na fydd ysgolion yn gweithredu yn unol â gofynion y Rheoliadau. Gallai methiant i gydymffurfio â'r Safonau, fodd bynnag, arwain at gamau gweithredu gan Weinidogion Cymru, fel y nodwyd yn flaenorol.
  3. Dangos yr effaith ar Erthyglau CCUHP yn y tabl isod.
Dangos yr effaith ar Erthyglau CCUHP
Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol Yn gwella (X) Yn herio (X) Esboniad

Erthygl 1

Mae gan bawb dan 18 oed yr holl hawliau sydd yn y Confensiwn.

X Dd/G Mae'r rheoliadau diwygiedig yn gymwys yn yr un modd i bob ysgol annibynnol a phob dysgwr yn yr ysgolion hynny

Erthygl 3

Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn

X Dd/G

Mae'r Rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol sicrhau bod budd pennaf y plentyn wrth wraidd pob penderfyniad.

O arwyddocâd penodol yn hyn o beth mae'r newidiadau i'r gofynion o dan y safon Llesiant, Iechyd a Diogelwch Disgyblion a'r gofyniad a gyflwynir sy'n nodi bod yn rhaid i ysgolion ystyried effaith unrhyw bolisïau neu benderfyniadau a wnânt ar lesiant eu disgyblion.

Erthygl 12

Mae gan blant yr hawl i roi eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried.

X Dd/G Mae'r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol alluogi'r plentyn i ddatblygu ei hunanwybodaeth, ei hunanhyder a'i hunan-barch a thrwy hynny ei annog i leisio barn.

Erthygl 19

Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag pob math o drais, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt.

X Dd/G

Bydd y Rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol wneud mwy i amddiffyn llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion a rhoi'r trefniadau diogelu diweddaraf ar waith. Yn ei dro, bydd modd cymryd camau gweithredu rheoliadol cryfach mewn ysgolion lle gwelir, yn ystod arolygiadau, nad yw hyn yn digwydd neu nad yw'n effeithiol.

 Yn ogystal, bydd y Rheoliadau drafft yn cryfhau'r gofyniad i holl staff yr ysgol gael gwiriadau priodol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn iddynt gael eu penodi neu cyn gynted ag sy'n ymarferol wedi hynny. 

Erthygl 28

Hawl y plentyn i addysg

X Dd/G Mae'r Rheoliadau arfaethedig yn hyrwyddo addysg o ansawdd da sy'n annog ac yn cefnogi dysgwyr â'u datblygiad addysgol ac emosiynol er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial dysgu llawn.

Erthygl 29

Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn llawn. Rhaid iddi annog parch y plentyn tuag at hawliau dynol, ynghyd â pharch tuag at ei rieni, ei ddiwylliant ei hun a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd.

X Dd/G Mae'r Rheoliadau drafft yn gwella'r safonau presennol mewn perthynas â pharchu pobl eraill a pharchu eu diwylliant eu hunain a diwylliant pobl eraill er mwyn annog cytgord rhwng traddodiadau diwylliannol gwahanol ac annog mwy o gyfranogiad yn y gymuned lle mae'r ysgol wedi'i lleoli.

Erthygl 34

Rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag camdriniaeth a chamfanteisio rhywiol

X Dd/G Mae'r Rheoliadau drafft yn cryfhau'r gofyniad i berchennog ysgol annibynnol fod yn ymwybodol o'r canllawiau diweddaraf ar ddiogelu plant ac ymdrin â honiadau o gamdriniaeth yn erbyn athrawon a staff eraill.

 

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010

  1. Bydd y newidiadau arfaethedig yn y Rheoliadau drafft, yn nhermau systemau diogelu cryfach a threfniadau llywodraethu gwell mewn ysgolion annibynnol, yn cael effaith gadarnhaol ar gyfer pob plentyn sy'n dysgu mewn ysgol annibynnol. Fodd bynnag, gall yr effeithiau amrywio rhwng grwpiau gwahanol. Er enghraifft, mae tystiolaeth gref i ddangos bod grwpiau penodol, e.e., merched a menywod ifanc, plant a phobl ifanc traws, plant a phobl ifanc ag anableddau a phlant a phobl ifanc LHDT, yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth rywiol. Felly, bydd y gofynion ychwanegol o ran diogelu a llywodraethu yn cael mwy o effaith ar y grwpiau hyn.
  2. Bydd y newidiadau rheoliadol drafft hyn yn cyflwyno trefniadau diogelu a llywodraethu gwell mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru, a fydd yn sicrhau bod pob plentyn sy'n dysgu a/neu'n preswylio yn y sector ysgolion annibynnol yn cael ei amddiffyn yn well.
Cofnod o Effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?

Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran) Bydd mesurau diogelu gwell ar waith ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc mewn ysgolion annibynnol o ganlyniad i'r Rheoliadau drafft.

Mae'r newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau yn gymwys yn yr un modd i bob ysgol annibynnol yng Nghymru.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Anabledd (ystyriwch y model cymdeithasol o anabledd (Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd.  Rydym yn deall nad eu namau sy'n anablu pobl anabl ond y rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn y gymdeithas.  Sicrhau bod eich cynnig yn dileu rhwystrau, yn hytrach na'u creu, yw'r ffordd orau o wella cydraddoldeb i bobl anabl.  I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r fewnrwyd a chwiliwch am y ‘model cymdeithasol’.) a'r ffordd y gallai eich cynnig achosi'n anfwriadol, neu gael ei ddefnyddio i ddileu'n rhagweithiol, y rhwystrau sy'n anablu pobl â gwahanol fathau o namau) Mae rhai ysgolion annibynnol wedi'u trefnu'n benodol i gynnig darpariaeth dysgu ychwanegol i ddisgyblion ag ADY. Maent yn darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth y gall fod ganddynt anawsterau neu anableddau dysgu dwys neu luosog sy'n galw am lawer o gefnogaeth bob dydd neu sydd ag anghenion y gellir ond eu diwallu mewn sefydliadau arbenigol o'r fath. Felly, bydd y Rheoliadau'n cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc anabl yn benodol y gwyddys eu bod, yn eu tro, yn wynebu risg uwch o gamdriniaeth rywiol.

Mae'r newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau yn gymwys yn yr un modd i bob ysgol annibynnol yng Nghymru.

Disgwylir i bob ysgol annibynnol ddarparu ar gyfer y mwyafrif o ddisgyblion sydd ag ADY mwy nodweddiadol neu lai cymhleth.

Bydd y newidiadau deddfwriaethol yn cael effaith gadarnhaol ar blant anabl gan eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i safle ysgol fod yn gwbl hygyrch i bob disgybl.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Ailbennu Rhywedd (y broses o newid rhyw a phobl Drawsryweddol)

Mae tystiolaeth gan sefydliadau fel yr NSPCC yn dangos y gall plant a phobl ifanc traws wynebu risg uwch o gamdriniaeth rywiol na'u cyfoedion. Felly, bydd y gofynion diogelu gwell yn y Rheoliadau drafft yn cael effaith gadarnhaol o ran sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn benodol yn cael eu hamddiffyn yn well.

Yn ogystal, bydd y gofynion yn y Rheoliadau mewn perthynas â sicrhau cydberthnasau parchus hefyd yn cael effaith fuddiol ar blant a phobl ifanc traws.
Bydd y Rheoliadau drafft yn sicrhau y bydd pob plentyn sy'n dysgu yn y lleoliad annibynnol yng Nghymru yn cael ei amddiffyn yn well.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Beichiogrwydd a mamolaeth Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd y diwygiadau arfaethedig i'r Rheoliad yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar fenywod beichiog na'r rhai ar gyfnod mamolaeth. Mae'r Rheoliadau drafft yn ymwneud â newidiadau i'r rheolau sy'n llywodraethu ysgolion annibynnol ac nid ydynt yn effeithio ar feichiogrwydd na mamolaeth.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Hil (gan gynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr a Mudwyr, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid) Rhagwelir y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gofynion o ran datblygiad ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn cael effaith fuddiol gan eu bod yn ceisio cynyddu parch a goddefgarwch tuag at bobl o hil wahanol. Mae llawer o ysgolion annibynnol yn recriwtio dysgwyr o bob cwr o'r byd gan greu cymunedau amrywiol ac amlethnig. Bydd y cynnig i gyflwyno gofyniad newydd i annog disgyblion i barchu'r rhai â ffydd a chredoau gwahanol yn cryfhau'r gofyniad presennol i hyrwyddo mwy o oddefgarwch a chytgord rhwng traddodiadau diwylliannol gwahanol.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Crefydd, cred a diffyg cred Rhagwelir y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gofynion o ran Ansawdd yr addysg a ddarperir a Datblygiad ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn cael effaith fuddiol gan eu bod yn ceisio cynyddu parch a goddefgarwch tuag at bobl â ffydd a chredoau gwahanol.

Gall ysgolion annibynnol ddewis gwneud cais i Lywodraeth Cymru er mwyn cael eu dynodi'n ysgolion â chymeriad crefyddol.

Mae'r newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn gymwys yn yr un modd i ysgolion sydd wedi dewis cael eu dynodi'n ysgolion â chymeriad crefyddol ac ysgolion sydd wedi dewis peidio â chael eu dynodi.

Nod y newidiadau i'r gofynion o ran Ansawdd yr addysg a ddarperir a Datblygiad ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yw hyrwyddo parch a goddefgarwch tuag at bobl â ffydd a chredoau gwahanol i raddau mwy.

Bydd yr eithriad i ysgolion â chymeriad crefyddol gael meini prawf derbyn sy'n ffafrio aelodau o'u crefydd eu hunain yn parhau.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Rhyw neu Rhywedd Mae llawer o dystiolaeth i ddangos bod merched a menywod ifanc yn wynebu lefelau llawer uwch o gamdriniaeth rywiol na'u cyfoedion gwrywaidd ac, felly, bydd y mesurau diogelu ychwanegol a gyflwynir gan y Rheoliadau drafft yn cael mwy o effaith gadarnhaol arnynt.

Gall ysgolion annibynnol ddewis cofrestru fel ysgol un rhyw neu ysgol gydaddysgol.

Bydd yr opsiynau hyn yn parhau a bydd y newidiadau arfaethedig yn gymwys yn yr un modd i bob math o ysgolion rhyngddibynnol.

Bydd yr eithriad i ysgolion un rhyw gael meini prawf derbyn sy'n cyfyngu mynediad i ddisgyblion o un rhyw yn parhau.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Cyfeiriadedd rhywiol (Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol)

Mae tystiolaeth i ddangos bod plant a phobl ifanc LHDT yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth rywiol ac, felly, bydd y mesurau diogelu ychwanegol a gyflwynir gan y Rheoliadau drafft yn cael effaith gadarnhaol sylweddol arnynt.

Yn ogystal, bydd y gofynion yn y Rheoliadau mewn perthynas â sicrhau cydberthnasau parchus hefyd yn cael effaith fuddiol ar blant a phobl ifanc LHDT.

Bydd y Rheoliadau drafft yn sicrhau y bydd pob plentyn sy'n dysgu yn y lleoliad annibynnol yng Nghymru yn cael ei amddiffyn yn well.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Priodas a phartneriaeth sifil

Nid yw hon yn nodwedd warchodedig ar gyfer darpariaeth ysgolion.

Mae'r Rheoliadau drafft yn ymwneud â diogelu plant mewn ysgolion annibynnol ac nid ydynt yn effeithio ar briodas na phartneriaeth sifil.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed Mae Asesiad llawn o'r Effaith ar Hawliau Plant wedi cael ei baratoi. Bydd y Rheoliadau drafft yn sicrhau y bydd pob plentyn sy'n dysgu yn y lleoliad annibynnol yng Nghymru yn cael ei amddiffyn yn well.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Cartrefi incwm isel

Mae'n bosibl y caiff rhai dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol eu lleoli mewn ysgol annibynnol, un sydd fel arfer wedi'i threfnu'n benodol gan yr awdurdod addysg lleol i gynnig darpariaeth dysgu ychwanegol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Ysgolion yw'r rhain a all ddarparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth y gall fod ganddynt anawsterau neu anableddau dysgu dwys neu luosog na ellir darparu ar eu cyfer yn y sector a gynhelir. Caiff ffioedd a chostau lleoliad o'r fath eu cyllido gan yr awdurdod lleol perthnasol.  Felly, mae cryfhau trefniadau llywodraethu, addysg a mesurau diogelu ar gyfer y plant hyn a all ddod o deuluoedd incwm isel yn hanfodol a bydd yn cael effaith gadarnhaol arnynt.

Caiff ysgolion annibynnol eu cyllido drwy godi ffioedd a thrwy ffyrdd eraill o gynhyrchu incwm. Mae'n annhebygol felly y bydd dysgwyr o deuluoedd incwm isel yn dewis mynychu ysgol annibynnol.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig

A fydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl yn eich barn chi? (Darllenwch bwynt 1.4 yng Nghanllawiau’r Asesiad Effaith Integredig i gael rhagor o wybodaeth am Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig).

Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig
Hawliau Dynol Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau negyddol?

Erthygl 2 Protocol 1 – yr hawl i addysg Bydd plant a phobl ifanc o bob sector yn cael budd o'r trefniadau diogelu ychwanegol a gyflwynir gan y Rheoliadau diwygiedig. Bydd y cadarnhad o rolau a dyletswyddau penodol o fewn ysgolion annibynnol a'r gofyniad i gael gwiriadau amlach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a hyfforddiant yn ddefnyddiol yn hyn o beth. Mae'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a Chomisiynydd Plant Cymru wedi argymell y dylai'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol presennol gael eu cryfhau er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel wrth ddysgu yn y sector. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.

Nod y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yw helpu i sicrhau bod plant sy'n dysgu a/neu'n preswylio yn y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru yn cael eu diogelu'n effeithiol. Yn hyn o beth, maent yn gyson ag Erthygl 7 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, er enghraifft, plant ag anableddau, gan y byddant yn helpu i sicrhau y caiff plant o'r fath, y gwyddys eu bod yn wynebu risg uwch o gamdriniaeth rywiol, eu hamddiffyn yn well.

Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg

A yw'r cynnig yn cysylltu'n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050, Miliwn o Siaradwyr a'r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017 i 2021?

  1. Nid oes gan y cynnig hwn gysylltiad penodol ag unrhyw strategaeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
  2. Mae'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gofrestru Ysgolion Annibynnol yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau, gweithredu, llunio polisi, cadw cofnodion a hybu.
  3. Gall Ysgolion Annibynnol ddylunio a chyflwyno eu cwricwlwm eu hunain ac nid oes yn rhaid iddynt fabwysiadu'r cwricwlwm a addysgir mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru nac addysgu'r Gymraeg. Mae'r diwygiad arfaethedig i'r Rheoliadau drafft yn ceisio cryfhau'r cysylltiad rhwng yr ysgol a'r gymuned leol. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion helpu disgyblion i ddeall sut y gallant gyfrannu'n gadarnhaol at y cymunedau lle mae'r ysgol wedi'i lleoli ac annog disgyblion i barchu gwerthoedd democratiaeth, parch i bawb a goddefgarwch tuag at ddiwylliannau, ffydd a chredoau gwahanol ac osgoi a gwrthsefyll hiliaeth a thensiynau diwylliannol eraill.
  4. Bydd cymryd mwy o ran yn y gymuned leol yn codi ymwybyddiaeth dysgwyr o ddiwylliant unigryw'r gymuned leol, Cymru a'i hiaith.

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg. Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?

  1. Nid ydym o'r farn y bydd y Rheoliadau drafft yn effeithio ar gydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg ar gyfer proses gofrestru Ysgolion Annibynnol a gwaith monitro parhaus, nac y bydd unrhyw effeithiau negyddol eraill posibl ar y Gymraeg o ganlyniad. At hynny, nid ydym o'r farn y gallai'r Rheoliadau drafft gael unrhyw effaith niweidiol ar y Gymraeg.
  2. Disgwylir y bydd y cynigion hyn yn diogelu plant a'u teuluoedd.  Disgwylir y bydd yr effaith ar y bobl hynny a warchodir yr un peth, p'un a yw'r unigolion hynny'n byw mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn defnyddio, neu'n addysgu mewn addysg cyfrwng, neu fod angen gwasanaethau cyfrwng Cymraeg arnynt.
  3. Bydd y diwygiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn golygu bod dysgwyr yn cymryd mwy o ran yn eu cymunedau lleol a fydd, yn ei dro, yn codi ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant Cymru. Er na fydd hyn o reidrwydd yn arwain at gynnydd sylweddol yn y defnydd a wneir o'r iaith, bydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r rhan bwysig y mae'r iaith yn ei chwarae yn hunaniaeth y genedl ac yn cynyddu parch tuag at ddiwylliant gwahanol. Bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhyngwladol gan fod llawer o'r ysgolion preswyl annibynnol yn denu dysgwyr o wledydd o bob cwr o'r byd.
  4. Nid ydym wedi nodi unrhyw effaith, cadarnhaol na negyddol, ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith, addysg cyfrwng Cymraeg, na mynediad at wasanaethau cyfrwng Cymraeg.