Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'n ofynnol i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â chyfres o reoliadau. Ar hyn o bryd mae pum set o Reoliadau ac un Gorchymyn sy'n pennu sut mae ysgolion annibynnol Cymru yn gweithredu:

Yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru o'r Rheoliadau, canfyddiadau y Cais am Dystiolaeth gan randdeiliaid ac argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA), rydym bellach yn bwriadu diwygio Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) (2003) a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003.

Rydym hefyd yn cynnig gwneud Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru). Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd i wahardd person rhag cymryd rhan mewn rheoli mewn ysgol annibynnol. 

Mae'r tair set hyn o Reoliadau yn rhan o fframwaith ehangach o reoliadau, canllawiau a pholisïau sy'n cydweithio i ddiogelu dysgwyr mewn ysgolion annibynnol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn am y newidiadau arfaethedig i'r gyfres hon o Reoliadau. Bydd yr ymatebion a gawn i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio'r fersiynau terfynol wedi'u diweddaru o Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003, Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru)  2003 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru).

Cefndir

Ble ydyn ni nawr?

Mae hi bellach yn ugain mlynedd ers i'r mwyafrif o’r Rheoliadau sy'n llywodraethu ysgolion annibynnol gael eu gwneud. Dros y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o ddiffygion, gan gynnwys bylchau yn y fframwaith deddfwriaethol presennol a'r modd y mae'r Rheoliadau'n cael eu gweithredu ac y gellir eu gorfodi.

Pam rydyn ni'n cynnig newid?

O ganlyniad, mae gwaith polisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn wedi arwain at adolygu'r fframwaith rheoleiddio sy'n ymwneud â phob ysgol annibynnol yng Nghymru. Bwriad y gwaith hwn yw cryfhau a diweddaru'r Rheoliadau yn ôl yr angen i wella ansawdd addysg a lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol. Rydym hefyd yn dymuno cymryd camau i gryfhau trefniadau llywodraethu.

Mae'r uchelgais hon yn adlewyrchu polisi presennol Llywodraeth Cymru ar draws y system addysg drwy greu cydraddoldeb rhwng ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol pan fo hynny'n briodol. Mae'r cynigion hefyd yn adlewyrchu pryderon a amlygwyd gan randdeiliaid gan gynnwys barn a fynegwyd a materion a godwyd yn ystod Cais am Dystiolaeth y llynedd, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer Cymru gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA). 

Bwriad Llywodraeth Cymru nawr yw disodli Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003. Ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cyfres newydd o Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru). Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd arnynt i wahardd person rhag cymryd rhan mewn rheoli mewn ysgol annibynnol. 

Mae'r tair set hyn o Reoliadau yn rhan o fframwaith ehangach o reoliadau, canllawiau a pholisïau sy'n cydweithio i ddiogelu dysgwyr mewn ysgolion annibynnol. Mae'r cynigion hefyd yn ceisio mynd i'r afael â phryderon penodol sydd wedi'u nodi ynghylch cyfyngu pwerau Gweinidogion Cymru, yn enwedig wrth helpu i roi sicrwydd ychwanegol bod dysgwyr ym mhob lleoliad yn cael eu diogelu'n briodol.

Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cydbwyso'r adolygiad hwn yn erbyn yr angen i sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig yn rhesymol ac yn gymesur ac nad ydynt yn cyfyngu'n ddiangen ar y rhyddid sydd gan ysgolion annibynnol i drefnu eu hunain a darparu addysg.

Beth yw'r newidiadau arfaethedig?

Gan ystyried y farn a fynegwyd yn y Cais am Dystiolaeth a thrwy ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid rhithwir, mae swyddogion yn glir bod cytundeb cyffredinol bod angen diweddaru'r Rheoliadau.

Drwy'r gweithgareddau hyn, nododd adborth rhanddeiliaid feysydd allweddol cyffredin y mae angen eu cryfhau, yn enwedig ynghylch llywodraethu a rheoli ysgolion i sicrhau diogelwch a lles dysgwyr. Wrth gynnig newidiadau i'r Rheoliadau, byddwn hefyd yn ystyried argymhellion yr IICSA.  Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft y gofyniad i sicrhau bod ysgolion yn mynd ati i hybu diogelu dysgwyr, cryfhau gofynion hyfforddiant diogelu ar gyfer arweinwyr, staff a dysgwyr ysgolion, ac ystyried pwy ddylai gael gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ynghyd â chynyddu amlder y gwiriadau hyn.

Ar ben hyn, er mwyn helpu i egluro pwy sydd yn y pen draw yn gyfrifol ac yn atebol am gynnal a gwella darpariaeth mewn ysgol, rydym yn cynnig diwygio'r geiriad mewn sawl Rheoliad i'w gwneud yn glir mai  'y perchennog', ac nid 'yr ysgol', sy'n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio.

Nodir newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm yn Safon 1 (Ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol).

Newidiadau arfaethedig eraill i Ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol' (Safon 1) yw y dylid diwygio geiriad rhai gofynion i godi disgwyliadau drwy ddefnyddio termau fel 'effeithiol' neu 'dda' yn hytrach na 'boddhaol' neu 'ddigonol'. 

Ar draws Safonau eraill, gan fod trefniadau gweithio cyfunol a hybrid yn fwyfwy cyffredin, mae newidiadau arfaethedig yn cynnwys y dylai'r Safonau adlewyrchu newidiadau o'r fath ym maes addysg a chymdeithas. Er enghraifft, nid yw cyfeirio'n benodol at yr 'ystafell ddosbarth' mewn Rheoliad penodol bob amser yn briodol.

Yn fwy cyffredinol, wrth gydnabod yr angen i ddiweddaru'r Safonau, rydym yn  ymwybodol bod sawl un o'r Rheoliadau yn cyfeirio at ddogfennau penodol wrth eu henwau, a bod y ddogfen wedyn yn dyddio. Rydym felly yn cynnig yn y mwyafrif o achosion i ddileu'r dogfennau a enwir o'r Rheoliadau a rhoi yn eu lle gyfeiriadau at fwriad polisi'r canllawiau i ddiogelu'r Rheoliadau ar gyfer y dyfodol a chadw'r geiriad yn gyfredol. Er mwyn helpu ysgolion i ddeall a chydymffurfio â'r Rheoliadau a gofynion statudol eraill, rydym yn darparu Llawlyfr Cofrestru a Gweithredu Ysgolion Annibynnol. Rydym yn cynnig cyhoeddi dogfen ganllawiau wedi'i diweddaru pan wneir y Rheoliadau diwygiedig. Bydd y ddogfen hon yn cyfeirio at y canllawiau priodol, y dogfennau allweddol a'r wybodaeth berthnasol. Bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Yn gysylltiedig â blaenoriaethau eraill sy'n ymwneud â'r Rheoliadau mae gofyniad deddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth Cymru bod staff â chyfrifoldebau addysgu mewn ysgolion annibynnol yn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).  Rhagwelir y bydd y gofyniad hwn yn dod i rym cyn i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003 gael eu disodli, neu tua’r un pryd.

Blaenoriaeth allweddol arall yw cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ALNET) yn raddol, a fydd hefyd yn cael effaith ar y Rheoliadau sy'n cael eu hadolygu. Byddwn felly yn diwygio'r Rheoliadau perthnasol i adlewyrchu gofynion ALNET.

Bydd y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig sy'n dilyn, ochr yn ochr â datblygiad fframwaith ymyrraeth, yn ceisio gwella darpariaeth a chanlyniadau ar y cyd i ddysgwyr ac yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch deddfwriaethol sy'n bodoli i Weinidogion Cymru nad oes ganddynt ddigon o bwerau ymyrraeth.

Y broses ymgynghori

Diben yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn ar y newidiadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud  i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003, yn ogystal â'r newidiadau hynny i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a chyflwyno Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru).

Nodir y newidiadau isod ynghyd ag amlinelliad o bob newid ac esboniad o'r rhesymeg y tu ôl i bob newid penodol. Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ynghylch a oes unrhyw newidiadau eraill y dylem fod yn eu gwneud i'r gyfres ddiweddaraf hon o reoliadau ysgolion annibynnol.

Bydd yr ymatebion a gawn i'r ymarfer ymgynghori yn helpu i lywio'r fersiynau terfynol wedi'u diweddaru o Reoliadau Safonau Ysgol  Annibynnol (Cymru), Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003, Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) a'r Canllawiau Cofrestru a Gweithredu cysylltiedig.

Newidiadau cyffredinol

Rydym yn cynnig gwneud tri newid cyffredinol yn y rheoliadau newydd a fydd yn disodli Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003. Yn gyntaf, rydym yn bwriadu dileu'r dogfennau a enwir o'r Rheoliadau perthnasol a'u disodli gan gyfeirio at fwriad polisi'r canllawiau er mwyn diogelu'r Rheoliadau ar gyfer y dyfodol.

Yn ail ac yn drydydd, rydym yn cynnig gwneud newidiadau trosfwaol ar draws y Safonau perthnasol sy'n ymwneud â chyfrifoldeb y perchennog a chyflwyno Rheoliadau ALNET yn raddol.

Cyfrifoldeb y perchennog

Rydym yn cynnig y dylai'r Rheoliadau mewn llawer o'r gofynion perthnasol newid o 'rhaid i'r ysgol' i 'rhaid i'r perchennog'. Bwriad y dull hwn yw egluro pwy sy'n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â'r Safonau. Ar draws y Safonau, mae enghreifftiau o'r newid hwn yn cynnwys:

  • Mae ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod y gofynion yn cael eu bodloni.
  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod polisi ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu'n effeithiol ar y cwricwlwm a gefnogir gan gynlluniau ac atodlenni gwaith priodol.
  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod yr addysgu yn yr ysgol yn galluogi disgyblion i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd da yn ôl eu gallu fel eu bod yn cynyddu eu dealltwriaeth ac yn datblygu eu sgiliau yn y pynciau a addysgir.
  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod yr ysgol wedi gosod fframwaith i berfformiad disgyblion gael ei werthuso, drwy gyfeirio naill ai at nodau'r ysgol ei hun fel y darperir i rieni neu normau cenedlaethol, neu at y ddau.
  • Mae datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yr ysgol yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo egwyddorion sy'n mynd ati i hyrwyddo gwerthoedd sylfaenol Prydain o ddemocratiaeth, rheol y gyfraith, rhyddid unigol, a pharch a goddefgarwch y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau.
  • Mae lles, iechyd a diogelwch disgyblion yr ysgol yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i ddiogelu a hybu lles disgyblion yr ysgol.
  • Mae addasrwydd staff, staff cyflenwi a pherchnogion yn bodloni'r safonau os yw'r perchennog yn sicrhau bod y gofynion yn cael eu bodloni.
  • Mae'r modd y mae cwynion yn cael eu trin yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod gan yr ysgol weithdrefn gwyno a’i bod yn ei gweithredu’n effeithiol.

Cyflwyno deddfwriaeth ALNET yn raddol

Mae'r broses raddol o gyflwyno deddfwriaeth ALNET wedi arwain at rai newidiadau canlyniadol i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003. Felly, dymunwn sicrhau, pan fo'n briodol o fewn y Rheoliadau newydd bod cyfeiriadau at gyflwyno ALNET yn raddol trwy ddiwygio'r geiriad yn y gofynion perthnasol i gynnwys disgyblion sydd â chynlluniau datblygu unigol neu ddatganiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall y bydd angen cadw cyfeiriadau at ddisgyblion sydd â datganiadau yn ystod y broses o gyflwyno'r system ALNET yn raddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r gofynion canlynol yn y Rheoliadau y bydd angen eu diwygio, os nad yw hyn eisoes wedi digwydd drwy reoliadau eraill:

  • Y pwnc yn briodol ar gyfer oedrannau a gallu disgyblion gan gynnwys y disgyblion hynny sydd â chynllun datblygu unigol neu ddatganiad.
  • Pan fo gan ddisgybl gynllun datblygu unigol neu ddatganiad, addysg sy'n cyflawni ei ofynion.
  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod yr ysgol yn darparu addysg effeithiol i bob disgybl wneud cynnydd gan gynnwys disgyblion sydd â chynllun datblygu unigol neu ddatganiad a'r rhai y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
  • Manylion darpariaeth addysgol a lles i ddisgyblion gyda chynllun datblygu unigol neu ddatganiad a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
  • Yn dilyn archwiliad o dan adran 163(1) o Ddeddf 2002 cyhoeddir copi o adroddiad yr arolygiad a'i gadw ar wefan rhyngrwyd yr ysgol ac, erbyn dyddiad a bennir gan y corff a gynhaliodd yr archwiliad. Os oes gan y disgybl cofrestredig gynllun datblygu unigol neu ddatganiad, yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb am ei gynnal.
  • Pan fo disgybl sydd â chynllun datblygu unigol neu ddatganiad wedi'i gofrestru yn yr ysgol, rhaid i'r ysgol gyflenwi gwybodaeth o’r fath i'r awdurdod addysg lleol cyfrifol ag y bo'n rhesymol ei hangen at ddiben yr adolygiad blynyddol o'r Cynllun Datblygu Unigol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

NC1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau cyffredinol arfaethedig sy'n ymwneud â chyfrifoldeb y perchennog yn y pen draw am gydymffurfio â'r Rheoliadau ac i gadw cyfeiriadau at ddysgwyr â datganiadau yn ystod cyflwyno'r system anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg (ALNET) yn raddol?

NC2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y newidiadau cyffredinol?

Safon 1: ansawdd yr addysg a ddarperir

Bwriad y newidiadau arfaethedig i Safon 1 yw gwella ansawdd yr addysg a ddarperir mewn ysgolion annibynnol drwy:

  • geisio codi lefel y disgwyliad
  • canolbwyntio ar anghenion dysgwyr unigol
  • cynnwys cyfeiriadau priodol at Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • cyflwyno gofyniad newydd nad yw addysgu yn yr ysgol yn tanseilio gwerthoedd democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a chyd-barch a goddefgarwch y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau

Codi lefel y disgwyliad

Drwy ofynion y Safon hon, mae Llywodraeth Cymru'n dymuno codi lefel y disgwyliad o ansawdd y ddarpariaeth addysg gan yr ysgol. Y bwriad yw codi'r ansawdd a'r safon ddisgwyliedig o addysgu, o 'ddigonol', 'boddhaol' a 'phriodol' i lefel lle mae'r ddarpariaeth yn 'dda' neu'n 'effeithiol'.

Mae'r dull gweithredu hwn er mwyn ei gwneud yn glir nad yw darparu'r isafswm i gydymffurfio â gofynion y Safonau yn ddigon.

Rydym felly yn cynnig diwygio geiriad y Rheoliadau fel bod Estyn, pan fydd yn ystyried cydymffurfiaeth â'r Safon hon, y bydd yn gallu asesu effaith y ddarpariaeth ar y disgyblion.

Mae enghreifftiau penodol o'r newid hwn yn cynnwys:

  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod polisi ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu'n effeithiol ar y cwricwlwm a gefnogir gan gynlluniau a threfniadau gwaith priodol, sy'n paratoi disgyblion yn effeithiol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd oedolion.
  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod yr addysgu yn yr ysgol yn galluogi disgyblion i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd da yn ôl eu gallu fel eu bod yn cynyddu eu dealltwriaeth ac yn datblygu eu sgiliau yn y pynciau a addysgir.
  • Mae'n galluogi disgyblion i feithrin gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd da yn ôl eu gallu fel eu bod yn cynyddu eu dealltwriaeth ac yn datblygu eu sgiliau yn y pynciau a addysgir.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r pwnc a addysgir.
  • Yn defnyddio adnoddau effeithiol o ansawdd, nifer ac amrywiaeth dda.
  • Defnyddio strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli ymddygiad ac annog disgyblion i ymddwyn yn gyfrifol.

Diwallu anghenion dysgwyr unigol

Nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno tanseilio gallu ysgol i ddatblygu a chyflwyno ei chwricwlwm ei hun, ond mae eisiau i'r Rheoliadau ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r cwricwlwm y maent yn ei ddatblygu ddangos ei fod yn diwallu anghenion pob dysgwr unigol.

Ar gyfer dysgwr ag ADY, bydd y ddarpariaeth dysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt yn cael ei ddisgrifio yn eu cynllun datblygu unigol neu eu datganiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion fod yn ymwybodol o anghenion ac amgylchiadau eu holl ddysgwyr nid yn unig y rhai sydd â chynllun datblygu unigol neu ddatganiad. Mae'n dymuno i ysgolion ystyried tegwch cyfle wrth ddylunio eu cwricwlwm ac i roi cefnogaeth ac ymyriadau ar waith neu wneud addasiadau rhesymol yn ôl yr angen.

Dylai cwricwlwm ysgol ddarparu dysgu gwahaniaethol o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r dull gweithredu hwn gael ei adlewyrchu yn y gofynion, gyda'r newid (penodol) yn newid o/newid i:

  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod polisi ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu'n effeithiol ar y cwricwlwm a gefnogir gan gynlluniau a threfniadau gwaith priodol.
  • Pwnc sy'n briodol ar gyfer oedrannau a gallu disgyblion gan gynnwys y disgyblion hynny sydd â chynllun datblygu unigol neu ddatganiad.
  • Y cyfle i bob disgybl ddysgu a gwneud cynnydd.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Yn y newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cynnwys cyfeiriad addas i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn perthynas â rhaglen addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd yr ysgol (ABGI). Byddai'r dull hwn yn golygu, pan fo’r Rheoliad yn nodi'n glir y dylai ABGI adlewyrchu nodau ac ethos yr ysgol ac annog parch at bobl eraill, ei fod yn rhoi sylw penodol i'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf 2010.

Mae'r perchennog yn sicrhau bod polisi ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu'n effeithiol ar y cwricwlwm a gefnogir gan gynlluniau a threfniadau gwaith priodol, sy'n darparu ar gyfer:

  • Addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd sy'n:
    • adlewyrchu nodau ac ethos yr ysgol ac
    • yn annog parch at bobl eraill, gan roi sylw arbennig i'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf 2010

Gofyniad nad yw addysgu yn tanseilio gwerthoedd democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a chyd-barch a goddefgarwch y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno gofyniad newydd nad yw addysgu yn yr ysgol yn tanseilio gwerthoedd democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a pharch a goddefgarwch y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod yr addysgu yn yr ysgol yn galluogi disgyblion i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd da yn ôl eu gallu fel eu bod yn cynyddu eu dealltwriaeth ac yn datblygu eu sgiliau yn y pynciau a addysgir.
  • Nid yw'n tanseilio gwerthoedd sylfaenol democratiaeth a chefnogaeth i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, rheolaeth y gyfraith, rhyddid unigol, a chyd-barch a goddefgarwch at y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau.
  • Nid yw'n gwahaniaethu yn erbyn disgyblion sy'n groes i Ran 6 o Ddeddf 2010.

Mae'r gwelliannau i Safon 1 hefyd yn cynnwys rhai newidiadau trawsbynciol sy'n ymwneud â'r mecanweithiau cyflenwi sy'n esblygu ac elfen gynyddol o ddysgu cyfunol.

Dulliau cyfunol a hybrid o addysgu a dysgu

Yn dilyn y profiad o symud addysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, mae'n amlwg bod sawl ysgol annibynnol yn dewis parhau i gynnig agwedd gyfunol tuag at addysgu a dysgu. Mae dysgu cyfunol neu hybrid yn cynnwys cydbwysedd o ddysgu digidol ar-lein neu oddi ar y safle a dysgu wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth neu adeilad arall yn yr ysgol.

Mewn ymateb i'r newid sylweddol hwn i ddulliau dysgu ac addysgu, ac wrth ragweld y gallai hyn ddod yn duedd fwy cyffredin o fewn ysgolion annibynnol, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno egluro yn y Rheoliadau bod disgwyl i ysgolion fodloni o fewn gofynion y Safonau, ni waeth sut caiff yr addysgu a'r dysgu eu darparu.

I helpu'r dull uchod, gan ei bod yn bosibl na fydd addysgu'n yn cael ei gyflwyno mewn lleoliad ystafell ddosbarth bob amser, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid tynnu unrhyw gyfeiriadau at 'amser dosbarth', 'ystafell ddosbarth' a 'dosbarth' oddi ar y Rheoliadau yn yr holl Safonau, ac eithrio'r rhai yn Safon 5 sy'n ymwneud â'r safle a'r llety preswyl.

  • Mae'r perchennog yn sicrhau bod yr addysgu yn yr ysgol yn galluogi disgyblion i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd da yn ôl eu gallu fel eu bod yn cynyddu eu dealltwriaeth ac yn datblygu eu sgiliau yn y pynciau a addysgir.
  • Yn cynnwys gwersi sydd wedi eu cynllunio'n dda, dulliau addysgu effeithiol, gweithgareddau addas a rheoli amser doeth.
  • Yn defnyddio adnoddau effeithiol o ansawdd, nifer ac amrywiaeth dda.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

1.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 1?

1.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ansawdd yr addysg a ddarperir?

Safon 2: datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion

Bwriad y newidiadau arfaethedig i Safon 2 yw cryfhau Rheoliadau ynghylch datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cyflwyno gofynion newydd penodol sy'n:

  • annog disgyblion i barchu gwerthoedd democratiaeth, cyfraith sifil a throseddol, rhyddid unigol a chyd-barch a goddefgarwch at y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau
  • atal hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol pleidiol wrth addysgu
  • pan fydd materion gwleidyddol yn cael eu dwyn i sylw disgyblion, cymryd y fath gamau ag sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau y cynigir cyflwyniad cytbwys o safbwyntiau gwrthwynebol
  • egluro'r ystyr neu ychwanegu mwy o fanylion at y Rheoliad

Parch at werthoedd democratiaeth, cyfraith sifil a throseddol, rhyddid unigol a chyd-barch a goddefgarwch at y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r cynnig hwn gael ei adlewyrchu yn y gofynion, gyda'r newid o/newid i:

  • Mae datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yr ysgol yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo egwyddorion sy'n mynd ati i hyrwyddo gwerthoedd sylfaenol Prydain o ddemocratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid unigol, a chyd-barch a goddefgarwch at y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau.
  • Galluogi disgyblion i wahaniaethu rhwng cywir ac anghywir ac i barchu'r gyfraith sifil a throseddol.
  • Annog parch at bobl eraill gan roi sylw arbennig i'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf 2010.

Gwahardd hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol pleidiol mewn addysgu a, phan fo materion gwleidyddol yn cael eu dwyn i sylw disgyblion, cymryd y fath gamau ag sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau y cynigir cyflwyniad cytbwys o safbwyntiau gwrthwynebol

Rydym yn cynnig tri gofyniad newydd yn y Rheoliadau ynghylch y gofynion ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.

  • Mae datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yr ysgol yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo egwyddorion sy'n mynd ati i hyrwyddo gwerthoedd sylfaenol Prydain o ddemocratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid unigol, a chyd-barch a goddefgarwch at y rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau.
  • Atal hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol pleidiol wrth addysgu unrhyw bwnc yn yr ysgol.
  • Cymryd camau fel sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau, pan fo materion gwleidyddol yn cael eu dwyn i sylw disgyblion:
    • tra eu bod yn bresennol yn yr ysgol
    • tra eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy'n cael eu darparu neu eu trefnu gan neu ar ran yr ysgol
    • yn yr hyrwyddo yn yr ysgol gan gynnwys trwy ddosbarthu deunydd hyrwyddo; o weithgareddau allgyrsiol sy'n digwydd yn yr ysgol neu rywle arall

Y cynigir cyflwyniad cytbwys o safbwyntiau gwrthwynebol.

Egluro'r ystyr neu ychwanegu mwy o fanylion at y Rheoliad

Rydym yn cynnig diwygio'r gofyniad ym mharagraff 2(c) o'r Atodlen i wneud y cyfeiriad at 'fywyd cymunedol' yn llai amwys. Bwriad y geiriad diwygiedig yw y dylid annog disgyblion i gyfrannu'n gadarnhaol i gymuned yr ysgol yn ogystal ag i'r gymuned leol a'r gymdeithas yn ehangach.

  • Annog disgyblion i dderbyn cyfrifoldeb am eu hymddygiad, dangos menter a deall sut y gallant gyfrannu'n gadarnhaol at fywydau'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal lle mae'r ysgol wedi ei lleoli ac i gymdeithas yn ehangach.
  • Rhoi gwybodaeth gyffredinol eang i ddisgyblion am sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

2.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 2?

2.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol dysgwyr?

Safon 3: lles, iechyd a diogelwch disgyblion

Mae'r newidiadau yr ydym yn eu cynnig i Safon 3 yn ceisio amddiffyn lles, iechyd a diogelwch disgyblion ymhellach drwy:

  • gyflwyno gofyniad i'r perchennog fynd ati i hyrwyddo llesiant dysgwyr
  • cryfhau trefniadau ar gyfer hyfforddiant diogelu, gan gynnwys cofnodi manylion hyfforddiant
  • cyflwyno gofyniad am adolygu polisïau ysgol
  • rhoi pwyslais o’r newydd yn y Rheoliad ar ymddygiad (3.[ 3][d]) tuag at ddulliau cadarnhaol, ac i ystyried canllawiau ynghylch lleihau arferion cyfyngol

Gofyniad i'r perchennog fynd ati i hybu lles dysgwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig mynd i'r afael â bwlch yn y Rheoliadau presennol sef sicrhau bod y rhai sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli, gan gynnwys aelodau o'r cyrff llywodraethol a pherchnogol, â rôl fwy gweithredol wrth gyflawni eu cyfrifoldebau i hybu lles disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru felly eisiau creu gofyniad newydd:

  • i'r perchennog sicrhau bod pawb sy'n meddu ar gyfrifoldebau arwain a rheoli yn yr ysgol yn hybu'n weithredol les y dysgwyr

Pan fydd yna fethiannau ailadroddus, lluosog neu ddifrifol gan ysgol annibynnol i fodloni un neu fwy o'r Safonau, gall y dystiolaeth awgrymu bod hyn o ganlyniad i wendidau yn strwythur rheoli a phrosesau llywodraethu'r ysgol. Mae profiad o ymdrin â materion o'r fath mewn ysgol annibynnol yn y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod mynd i'r afael â'r gwendidau yma yn holl bwysig. O ganlyniad, bydd y gofyniad hwn hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i weithredu, pan fo'n briodol, os yw'n ymddangos bod methiannau yn rheolaeth, arweinyddiaeth neu lywodraethiant yr ysgol sy'n arwain at roi dysgwyr mewn perygl o niwed.

Cryfhau trefniadau ar gyfer diogelu hyfforddiant

Dymunwn ystyried y farn gonsensws o’r Cais am Dystiolaeth, a gadarnhaodd yr angen i gryfhau gofynion hyfforddiant diogelu, gan gynnwys hyfforddiant diogelu gorfodol ac ymrwymiad gan yr ysgol i adolygu a diweddaru'r hyfforddiant yn rheolaidd. Rydym hefyd yn dymuno gweithredu Argymhelliad 4 o ymchwiliad IICSA,  a oedd hefyd yn canolbwyntio ar yr angen i wella hyfforddiant diogelu a chodi ymwybyddiaeth.

Er mwyn cryfhau'r gofyniad presennol ac ymateb i argymhellion yr IICSA, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gosod gofynion newydd o dan Safon 3 fel bod:

  • pawb mewn ysgol, staff, gwirfoddolwyr a dysgwyr, yn cael hyfforddiant diogelu priodol, ac
  • mae perchnogion yn cynnal cofnod o'r hyfforddiant a ddarperir i staff, gwirfoddolwyr a'r corff llywodraethu i ddangos ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o fanylion am y math a lefel yr hyfforddiant sy'n briodol i wahanol grwpiau o staff, gwirfoddolwyr a dysgwyr yn y canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth am ffynonellau hyfforddiant, ac yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor a help yn y Canllawiau Cofrestru a Gweithredu Ysgolion Annibynnol diwygiedig. Ond nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno pennu pwy sy'n darparu'r hyfforddiant, pwy sy'n derbyn pa hyfforddiant, a phryd na pha mor aml y darperir hyfforddiant. Bydd ysgolion unigol yn parhau i fod â'r hyblygrwydd i benderfynu ar weithredu'r gofynion hyn yn ymarferol.

Gofyniad newydd i adolygu polisïau ysgolion

Rydym yn cydnabod mai polisïau sy'n cael eu hadolygu a'u haddasu'n rheolaidd yng ngoleuni profiad ac arfer da yw'r sail ar gyfer diogelu'n effeithiol o fewn ysgol. O ganlyniad, rydym yn dymuno i ofyniad gael ei roi ar y perchennog i:

  • gynnal cofnod i dystiolaethu bod polisïau'r ysgol yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau a pholisïau perthnasol

Felly, dylai polisïau'r ysgol fod yn 'ddogfennau byw', i edrych arnynt a'u defnyddio fel sylfaen i arfer da.

Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn pennu amserlenni ar gyfer yr adolygiadau hyn, gan y byddant yn wahanol o bolisi i bolisi a'r math o sefydliad. Yr hyn y bydd yn ei ddisgwyl yw y gall y perchennog ddarparu tystiolaeth bod yr holl bolisïau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u bod yn cael eu diweddaru er mwyn iddynt adlewyrchu'r canllawiau a'r cyngor diweddaraf a’u bod yn briodol ar gyfer y lleoliad.

Pwyslais o’r newydd yn y Rheoliad ar ymddygiad (3.[ 3][d]) tuag at ddulliau cadarnhaol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod geiriad y Rheoliad hwn yn cael ei ailystyried fel ei fod yn canolbwyntio ar annog ymddygiad da yn hytrach nag ar sancsiynau a chosbau. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai'r gofyniad adlewyrchu dull cadarnhaol o hyrwyddo ymddygiad da gan barhau i gydnabod bod yn rhaid cymryd mesurau os bydd camymddwyn difrifol a bod y perchennog yn sicrhau bod yr ysgol yn cadw cofnod ysgrifenedig o'r sancsiynau a orfodir ar ddisgyblion am droseddau disgyblu difrifol.

Wrth ddatblygu sancsiynau, dylai ysgolion dalu sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar leihau arferion cyfyngol. Bydd hefyd yn ofynnol i ysgolion ddatblygu polisi sy'n amlinellu amodau ar gyfer defnyddio arferion cyfyngu yn unrhyw un o'u gwasanaethau sydd wedi eu hystyried i'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol).

Cwestiynau’r ymgynghoriad

3.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 3?

3.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am les, iechyd a diogelwch dysgwyr?

Safon 4: addasrwydd y perchennog a'r staff

O ystyried pwysigrwydd cynnal gwiriadau priodol ar bobl sy'n gweithio mewn ysgolion neu sy'n berchnogion, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cryfhau'r Rheoliadau yn Safon 4 drwy:

  • ymestyn y rhai a ddylai fod yn destun gwiriadau DBS
  • cynyddu amlder cynnal gwiriadau DBS

Ymestyn y rhai a ddylai fod yn destun gwiriadau DBS

Ar sail yr ymatebion a ddaeth i law i'r Cais am Dystiolaeth ac argymhellion a wnaed gan IICSA, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cryfhau'r Rheoliadau ynghylch pwy ddylai fod yn destun gwiriadau DBS fel y nodir isod.

Yn gyntaf, drwy ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog sicrhau bod staff cyflenwi a gynigir gan fusnes cyflogaeth yn cael y gwiriadau DBS priodol.

Yn ail, trwy ymestyn y rhai sydd angen cael gwiriadau DBS priodol i gynnwys:

  • llywodraethwyr yr ysgol a’r rhai hynny sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli

Y rhesymeg dros ddiwygio'r rheoliadau y dylai gwiriadau DBS fod yn orfodol i lywodraethwyr ysgol yw oherwydd bod ganddynt fynediad at wybodaeth bersonol ac mewn rhai achosion gwybodaeth gyfrinachol iawn am ddysgwyr ac mae ganddynt ddyletswyddau i sicrhau diogelu a materion amddiffyn plant. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn, oherwydd y gwahanol strwythurau a ffyrdd y caiff ysgolion annibynnol eu rheoli a'u llywodraethu, ei bod hefyd yn briodol cyfeirio at y rhai sydd â chyfrifoldeb am arweinyddiaeth a rheolaeth.

O ran teuluoedd neu gwarcheidwaid sy’n derbyn plant, mae'r ysgolion preswyl hynny sy'n croesawu dysgwyr rhyngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i'r disgybl fod â 'gwarcheidwad' wedi'i leoli yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cyflwyno gofyniad bod perchennog yr ysgol yn gyfrifol am sicrhau bod y sawl sy’n derbyn plentyn neu'r gwarcheidwaid sydd wedi eu trefnu gan yr ysgol i dderbyn disgyblion yn destun gwiriad DBS priodol. Bydd yn ofynnol i'r perchennog gadw cofnod i gadarnhau bod y gwiriadau hyn wedi'u cynnal.

Mewn sefyllfaoedd lle mae teuluoedd yn trefnu gwarcheidwad neu rywun i dderbyn plentyn gyda chwmni trydydd parti, bydd Llywodraeth Cymru'n rhoi cyngor mewn canllawiau, y dylai'r perchennog ddangos yr un lefel o ofal a phryder ac y dylai gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw'r trefniadau a wneir gan deulu neu warchodwr y dysgwr yn ei roi mewn perygl. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog sicrhau bod unrhyw gontractwr, gan gynnwys staff peripatetig, staff dros dro neu gyflenwi (heblaw trwy fusnes/asiantaeth gyflogaeth) neu weithiwr gyda'r contractwr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr yn ddarostyngedig i'r lefel briodol o wiriadau DBS.  Mae'r rheoliadau'n pennu pan nad oes unrhyw DBS cyfredol bod hyn  i'w wneud o fewn y chwe mis cyntaf wedi i’r rheoliadau wedi'u diweddaru ddod i rym.

Gofyniad newydd i gynyddu amlder cynnal archwiliadau DBS a chyflwyno’r angen am archwiliad DBS cychwynnol o fewn chwe mis i pan fydd y Rheoliadau’n dod i rym

Ar hyn o bryd, ar ôl i'r gwiriadau DBS uwch cychwynnol gael eu gwneud ar berchnogion a staff nid oes gofyniad iddynt gael eu hailadrodd tra'u bod yn parhau yn y swydd.

Roedd mwyafrif yr ymatebion i'r Cais am Dystiolaeth yn cytuno y byddai cynyddu amlder y gwiriadau hyn yn cyfrannu at wella diogelwch pob dysgwr. Er enghraifft, mae'n arfer cyffredin ar draws y sector gofal cymdeithasol a nifer o ysgolion a gynhelir a gwasanaethau addysg llywodraeth leol i wiriadau DBS gael eu diweddaru bob tair blynedd. 

Rydym eisoes wedi bod yn annog y dull hwn yn anffurfiol fel arfer da, ond rydym bellach yn cynnig ei ffurfioli fel polisi drwy Reoleiddio drwy gyflwyno gofyniad:

  • i adnewyddu gwiriadau DBS bob tair blynedd
  • i'r perchennog gadw cofnod sy'n dangos bod gwiriadau DBS ar gyfer yr holl staff neu gwirfoddolwyr wedi'u hadnewyddu bob tair blynedd
  • gofyniad newydd i gael archwiliad cyntaf o fewn 6 mis i pan fydd y Rheoliadau’n dod i rym

Nid ydym yn dymuno pennu sut mae gwiriadau DBS yn cael eu cynnal. Os yw'r aelod o staff wedi ymrwymo i'r gwasanaethau adnewyddu, dylai'r ysgolion fod â'r dewis i ddefnyddio'r gwasanaeth i wirio gwybodaeth i'r unigolion hynny fel arall dylai fod yn ofynnol iddynt gynnal gwiriad DBS newydd ar y lefel briodol.

Gofyniad newydd i gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA)

Mae ail ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru wedi ei gynnal yn ddiweddar yn cynnig y dylai staff sy'n cael eu cyflogi i ddysgu mewn ysgolion annibynnol a gweithwyr cymorth dysgu gofrestru gyda'r CGA.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

4.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 4?

4.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am addasrwydd y perchennog a'r staff?

Safon 5: safle a llety preswyl mewn ysgolion

Mae'r newidiadau arfaethedig i safle a llety preswyl yn yr ysgol yn ymwneud yn bennaf â:

  • chyfrifoldeb y perchennog yn y pen draw am gydymffurfio â'r Rheoliadau
  • geiriad o ran y model cymdeithasol o anabledd

Geiriad o ran y model cymdeithasol o anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried union eiriad rhai o'r gofynion sy'n ymwneud ag 'anghenion arbennig' sy'n ymddangos yn groes i'r model cymdeithasol o anabledd a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru yn 2003.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod cyfeirio at 'anghenion arbennig' yn y Safonau presennol yn cyfeirio at ddisgyblion sydd â nam nid disgyblion ag AAA neu ADY.

O ganlyniad, ble bynnag y bo'n bosibl, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig newid y geiriad i roi'r pwyslais ar yr angen i adeiladau, a'r holl gyfleusterau gan gynnwys mannau chwarae o fewn yr ysgol fod yn hygyrch, i sicrhau eu bod yn gallu cael eu defnyddio yn gyfartal gan bob dysgwr. Dylai dysgwyr sydd â namau hefyd gael mynediad at ddysgu a gweithgareddau allgyrsiol ar sail gyfartal â phob dysgwr arall.

5g Mae digon o fynediad fel y gellir cyflawni gwacáu brys yn ddiogel i bob disgybl, yn enwedig y rhai hynny sydd â gofynion arbennig

5h Mae mynediad i'r ysgol yn caniatáu i bob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd â gofynion arbennig, i fynd i mewn a gadael yr ysgol yn ddiogel ac yn gysurus

5j Gan ystyried nifer, oedran ac anghenion (gan gynnwys unrhyw ofyniad arbennig) disgyblion, mae ystafelloedd dosbarth yn briodol o ran maint i ganiatáu addysgu effeithiol ac nid ydynt yn peryglu iechyd a diogelwch

5k Mae digon o ystafelloedd ymolchi i staff a disgyblion, gan gynnwys cyfleusterau i ddisgyblion sydd â gofynion arbennig, gan ystyried Rheoliadau 1999

5r Mae'r dodrefn a'r ffitiadau wedi'u cynllunio'n briodol ar gyfer oedran ac anghenion (gan gynnwys unrhyw ofyniad arbennig) pob disgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol

Cwestiynau’r ymgynghoriad

5.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 5?

5.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am safle a llety preswyl ysgolion?

Safon 6: darparu gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau cyffredinol i Safon 6. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â:

  • newidiadau i'r math o fanylion cyswllt y mae'n rhaid i berchnogion ysgolion eu darparu i Lywodraeth Cymru
  • gofyniad bod yn rhaid cyhoeddi adroddiadau arolygu ar wefan yr ysgol a'u bod ar gael i rieni a, phan fo hynny'n briodol, i awdurdodau lleol
  • gofyniad i sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael i rieni - gan gynnwys dyddiadau tymhorau a chanlyniadau diweddaraf arholiadau cyhoeddus

Manylion cyswllt y mae'n rhaid i berchnogion ysgolion eu darparu i Lywodraeth Cymru

Paragraff 29(2)(b) O ran y math o fanylion cyswllt mae'n rhaid i berchnogion ysgolion ddarparu i Lywodraeth Cymru, bod y gofynion diwygiedig yn nodi, pan fo'r perchennog yn unigolyn, y dylai'r wybodaeth gynnwys y canlynol am y person hwnnw:

(aa) enw llawn

(bb) cyfeiriad e-bost busnes uniongyrchol

(cc) rhif ffôn (yn ystod y tymor a’r tu allan i amser y tymor)

(dd) cyfeiriad gohebiaeth (yn ystod y tymor a’r tu allan i amser y tymor)

Gofyniad bod yn rhaid i adroddiadau arolygu gael eu cyhoeddi ar wefan yr ysgol a'u bod ar gael i rieni a, phan fo’n briodol, i awdurdodau lleol

Cynigir diwygio Paragraff 29(4) i ddatgan yn glir, yn dilyn archwiliad o dan Adran 163 (1) o Ddeddf 2002, bod copi o adroddiad yr arolygiad (os yw wedi'i anfon at y perchennog neu'r ysgol) yn cael ei gyhoeddi a'i gadw ar wefan rhyngrwyd yr ysgol ac, erbyn dyddiad a bennir gan y corff a gynhaliodd yr arolygiad, yn cael ei ddarparu i:

(a) rieni pob disgybl cofrestredig

(b) os yw awdurdod lleol yn gofalu am y disgybl cofrestredig, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ofalu amdano

(c) os yw lleoliad y disgybl cofrestredig yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan awdurdod lleol, yr awdurdod lleol sy'n darparu'r cyllid ac

(d) os oes gan y disgybl cofrestredig  gynllun datblygu unigol neu ddatganiad, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun datblygu unigol neu ddatganiad

Pan nad oes gan ysgol wefan, rhaid rhoi copi o adroddiad yr arolygiad i rieni pob disgybl cofrestredig a, phan fo'n briodol, i bob awdurdod lleol perthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau penodol i’r Safon darparu gwybodaeth y mae'n ystyried y bydd yn cyfrannu at les, iechyd a diogelwch disgyblion. Mae'r gofynion hyn yn ymwneud â:

  • cyhoeddi dyddiadau tymhorau
  • cyhoeddi canlyniadau diweddaraf arholiadau cyhoeddus a
  • y gofyniad i hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau neu addasiadau arfaethedig i safle ysgol

Gofyniad i sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael i rieni - gan gynnwys dyddiadau tymhorau a chanlyniadau diweddaraf arholiadau cyhoeddus

Cyhoeddi dyddiadau tymhorau

Mae gan Lywodraeth Cymru brofiad diweddar o ysgol annibynnol yn gwrthod rhoi gwybodaeth am ddyddiadau tymor mewn ymateb i gais i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Mae'r diffyg mynediad i'r wybodaeth hon yn ei gwneud yn anodd i arolygiaethau drefnu gweithgareddau arolygu, yn enwedig mewn amgylchiadau pan fo angen archwiliadau dirybudd oherwydd bod pryderon diogelu. Bydd gwybod pryd mae ysgolion ar agor yn helpu Llywodraeth Cymru ac arolygiaethau i flaenoriaethu a gwneud y defnydd gorau o'u hamser a'u hadnoddau.

Er mwyn osgoi sefyllfaoedd tebyg rhag digwydd eto yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi dyddiadau tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol a'r flwyddyn academaidd nesaf ar eu gwefan ac unrhyw gyfnodau arfaethedig eraill o gau, er enghraifft ar gyfer hyfforddiant neu gau mewn argyfwng, er enghraifft oherwydd rhesymau iechyd.

Fel arall, os nad oes gan ysgolion wefan, neu os yw'r cau ar fyr rybudd, dylai fod yn ofynnol iddynt ddarparu'r wybodaeth hon i Lywodraeth Cymru fel y gellir ei rhannu ag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Canlyniadau Arholiadau Cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio geiriad y gofyniad hwn (6)(2)(i) i'w gwneud yn glir bod yr wybodaeth a ddarperir gan yr ysgol, yn cynnwys y canlyniadau diweddaraf unrhyw arholiadau cyhoeddus a gymerwyd gan ddisgyblion.

Gan ddysgu o brofiad y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gwneud yn glir y dylai ysgolion ddefnyddio'r canlyniadau perfformiad diweddaraf p'un a gawsant eu cyflawni trwy arholiadau traddodiadol neu fesurau eraill er enghraifft graddau rhagfynegol a ddefnyddiwyd yn ystod pandemig COVID-19.

Y rhesymeg dros y diwygiadau hyn yw osgoi sefyllfa pan fo ysgol yn defnyddio gwybodaeth hanesyddol nad yw efallai'n adlewyrchu lefelau cyrhaeddiad eu disgyblion ar hyn o bryd, a allai fod yn gamarweiniol i rieni dysgwyr presennol a rhieni darpar ddysgwyr.  

Gofyniad i hysbysu Llywodraeth Cymru am newidiadau arfaethedig neu addasiadau i eiddo ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio'r Rheoliadau i reoli'r arfer cyfredol yn unol â'r broses o gymeradwyo newidiadau i adeiladau ysgolion.

Yn y canllawiau a gyhoeddwyd ar hyn o bryd, gofynnir i ysgolion annibynnol roi gwybod i Lywodraeth Cymru os oes unrhyw newidiadau neu addasiadau i safle'r ysgol o dan y broses newid perthnasol. Fodd bynnag, ni ddarperir ar gyfer hyn yn adran 162 o Ddeddf Addysg 2002.

Yn rhan o'r broses gofrestru gychwynnol ar gyfer ysgol annibynnol newydd, rhaid i Arolygydd Ychwanegol Estyn wirio bod yr adeiladau a'r safleoedd eraill yn bodloni gofynion Safon 5. Gall unrhyw newid neu addasiadau olygu nad yw'r adeiladau bellach yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn y Safon. Mae'n bwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am unrhyw newidiadau neu addasiadau i safleoedd ac adeiladau i osgoi sefyllfa pan fo ysgol yn methu â chydymffurfio â Safon 5 yn anfwriadol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i ysgolion roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau arfaethedig cyn gweithredu'r newidiadau.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

6.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 6?

6.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ddarparu gwybodaeth?

Safon 7: y modd y mae cwynion i'w trin

Prif fwriad y diwygiadau arfaethedig i'r Safon hon yw cryfhau llywodraethiant yr ysgol a gwella lefel y wybodaeth sydd ar gael i ddisgyblion a rhieni.

Cryfhau'r llywodraethu a gwella lefel y wybodaeth sydd ar gael i ddisgyblion a rhieni

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r bwriad hwn gael ei adlewyrchu yn y gofynion, ac mae’r newidiadau penodol, neu newidiadau i, wedi’u nodi isod. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i'r geiriad sy'n cyfeirio at ddisgyblion a disgyblion preswyl yn ogystal â rhieni. 

(7) Mae'r modd y mae cwynion yn cael eu trin yn cyrraedd y safon os yw'r perchennog yn sicrhau bod gan yr ysgol weithdrefn gwyno a’i bod yn ei gweithredu yn effeithiol sydd:

(7)(b) ar gael ar wefan yr ysgol neu pan nad oes gan yr ysgol wefan, fe'i darperir i ddisgyblion neu ddisgyblion preswyl, rhieni disgyblion neu ddisgyblion preswyl a ddarpar ddisgyblion neu ddisgyblion preswyl yn yr ysgol

(7)(d) yn rhoi cyfle i gŵyn gael ei gwneud a'i hystyried yn anffurfiol i ddechrau

(7)(e) os nad yw'r rhieni, y disgyblion neu'r disgyblion preswyl yn fodlon â'r ymateb a wnaed yn unol â pharagraff (d) neu os ydynt yn dymuno cyflwyno cwyn ffurfiol yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig

(7(f) os nad yw'r rhieni, y disgyblion neu’r disgyblion preswyl, yn fodlon â'r ymateb i'r gŵyn a wnaed yn unol â pharagraff (e) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwrandawiad gerbron panel a benodwyd gan neu ar ran perchennog ac sy'n cynnwys o leiaf tri pherson nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â'r materion a nodir yn y gŵyn

(7)(h) caniatáu i'r rhieni, y disgyblion neu'r disgyblion preswyl fynychu a chael eu hebrwng mewn gwrandawiad panel os ydynt yn dymuno

(7)(j) yn darparu i gofnodion ysgrifenedig gael eu cadw o'r holl gwynion gan gynnwys a ydynt yn cael eu datrys ar y cam rhagarweiniol neu'n mynd ymlaen i wrandawiad panel ac unrhyw gamau a gymerwyd gan yr ysgol o ganlyniad i'r cwynion hynny ac a chawsant eu cadarnhau

Cwestiynau’r ymgynghoriad

7.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 7?

7.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y modd y mae cwynion i'w trin?

Deddfwriaeth arfaethedig arall

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

Mae'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 yn ymwneud â'r:

  • cais i gofrestru ysgol newydd
  • fformat ar gyfer cais i gofrestru ysgol annibynnol ac ar gyfer llenwi'r ffurflen flynyddol
  • gwybodaeth sydd ei hangen ar y ffurflen i'w chyflwyno o fewn y tri mis cyntaf wedi derbyn disgyblion
  • gwybodaeth ofynnol ar y ffurflen flynyddol

Cais i gofrestru ysgol annibynnol newydd

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno diwygio'r broses ymgeisio i gofrestru ysgol annibynnol newydd fel ei bod yn cymhwyso'r arfer gorau, fel yr argymhellwyd yn adroddiad IICSA i ysgolion preswyl.

Wrth gofrestru Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar gydag AGC, mae'r broses ymgeisio yn casglu gwybodaeth am gysylltiadau gyda gwasanaethau rheoleiddiedig eraill a buddiannau busnesau eraill nad ydynt yn cael eu hystyried yn uniongyrchol fel rhan o gofrestriad ysgol annibynnol. Bydd ychwanegu gofyniad i ymgeiswyr ddatgelu buddiannau busnesau eraill a chysylltiadau â gwasanaethau rheoleiddiedig eraill pan fyddant yn gwneud cais i gofrestru ysgol annibynnol yn darparu gwybodaeth ychwanegol werthfawr wrth benderfynu ar geisiadau.

Mae Llywodraeth Cymru felly yn cynnig gwneud y newidiadau a amlinellir isod i'r Rheoliadau Darparu Gwybodaeth i'w gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol pan fyddant yn gymwys i gofrestru ysgol newydd. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i unigolion ddarparu eu henw llawn (gan gynnwys enwau blaenorol), cyfeiriad preswyl arferol, rhif ffôn, dyddiad geni a rhif yswiriant cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ychwanegu'r canlynol at y wybodaeth y mae'n ofynnol i berchennog unigol ei ddarparu yn y cam ymgeisio:

  • cyfeiriad e-bost
  • hanes cyflogaeth a phrofiad
  • manylion unrhyw ymwneud cyfredol neu flaenorol â gwasanaethau eraill a reoleiddir yn y DU
  • manylion buddiannau busnes eraill

Bydd y newidiadau hyn yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y rhai hynny sy’n gwneud cais i agor ysgol, yn nodi eu haddasrwydd i fod yn berchennog ac yn helpu i sefydlu os oes gan yr unigolyn y gallu i gynnal yr ysgol arfaethedig yn llwyddiannus.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno diwygio'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r ardystiad DBS, drwy ei gwneud yn ofynnol  i'r unigolyn ddarparu tystysgrif DBS y mae'n rhaid iddi fod yn llai na thri mis oed ar adeg cyflwyno'r cais neu mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod ef/hi wedi ei gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddariadau'r DBS. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wirio statws gwiriad DBS yr unigolyn ar-lein.

Yn ogystal â'r wybodaeth y mae aelodau'r gorfforaeth, y cwmni neu'r corff yn ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd i ddarparu mae Llywodraeth Cymru am ychwanegu:

  • manylion unrhyw ymwneud blaenorol neu gyfredol â busnesau eraill

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno ychwanegu manylion Yswiriant Gwladol at y rhestr o wybodaeth y mae'n ofynnol i aelod ei darparu.

Pan nad yw’r perchennog yn unigolyn

Ar gyfer pob cais pan nad yw’r perchennog yn unigolyn, bydd angen gwybodaeth am y 'Cadeirydd' ar Lywodraeth Cymru. Diffinnir 'Cadeirydd' mewn diwygiad i Reoliadau’r Safonau

Rheoliad 3: Fformat cais i gofrestru ysgol annibynnol

Rheoliad 3(a): Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i ysgolion wneud cais ysgrifenedig i gofrestru fel ysgol annibynnol er, yn ymarferol, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn derbyn ceisiadau yn electronig ers sawl blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno diwygio'r rheoliadau fel bod ceisiadau electronig yn dod yn ddiofyn.  Bydd cyngor yn cael ei ddarparu mewn canllawiau ynglŷn â sut i gyflwyno cais.

Rheoliad 5: Fformat ar gyfer ffurflenni blynyddol

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig diweddaru Rheoliad 5(2)(a) i adlewyrchu bod y ffurflen bellach ar-lein yn hytrach na'r ffurflen ysgrifenedig flaenorol.

Rhan 3: Gwybodaeth sy'n ofynnol ar y ffurflen i gael ei chyflwyno o fewn tri mis cyntaf wedi derbyn disgyblion

Tystysgrifau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Dymuna Llywodraeth Cymru ei gwneud yn glir bod y gwiriadau DBS priodol wedi'u cynnal ar adeg eu penodi yn unol â'r cyngor yn Diogelu Plant mewn Addysg

Os yw'r person a gyflogir yn yr ysgol yn berson y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi tystysgrif DBS ar ei gyfer o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 mewn ymateb i gais a wnaed yn briodol ar gyfer tystysgrif o'r fath, cadarnhad bod tystysgrif DBS  priodol mewn perthynas â'r person ar gael i'r perchennog.

Rhan 4: Gwybodaeth ofynnol mewn ffurflen flynyddol

Gofyniad 10(d) diweddaru gwiriadau DBS

Yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig yn Safon 4 i'w gwneud yn ofynnol i wiriadau DBS gael eu hadnewyddu o leiaf bob tair blynedd, efallai y bydd angen cyflwyno gofyniad newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion gadarnhau bod y gwiriadau hyn wedi digwydd.

Disgyblion Haen 4 a noddir

Mae ysgolion annibynnol sydd â darpariaeth breswyl yn aml â thrwydded a gyhoeddwyd gan Fisas a Mewnfudo'r DU i noddi myfyrwyr rhyngwladol i ddod i'r DU o dan y llwybrau Cyffredinol (Myfyriwr) neu Fyfyrwyr Plant. Cyfeirir at hyn yn aml fel noddwr Haen 4.

Ers peth amser, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gofyn i ysgolion ddarparu cyfanswm y disgyblion Haen 4 a noddir yn yr ysgol yn eu ffurflen flynyddol.  Hoffem nawr i ysgolion roi gwybod i ni nifer y myfyrwyr sydd yn y DU ar drwydded Gyffredinol neu drwydded Haen 4 Plentyn.

Gan ddysgu o'r profiad yn ystod COVID-19, pan ddigwyddodd cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol o wledydd 'rhestr goch', byddai wedi bod yn ddefnyddiol o safbwynt polisi a chynllunio pe byddai gennym fwy o wybodaeth am ddisgyblion rhyngwladol yn enwedig y wlad y maent wedi teithio ohoni. Byddai hyn wedi ein helpu i dargedu ein cefnogaeth i ysgolion oedd â disgyblion oedd angen cymorth penodol i deithio yn ôl ac ymlaen i'w hysgol.

Mae Llywodraeth Cymru felly yn dymuno rheoleiddio'r sefyllfa o gasglu nifer y disgyblion Haen 4 a noddir, sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd drwy ewyllys da ysgolion, drwy ychwanegu gofyniad yn y Rheoliadau i ysgolion ddarparu yn y datganiad blynyddol gyfanswm y dysgwyr Cyffredinol neu Haen 4 Plentyn a noddir yn yr ysgol.

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru)

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno Rheoliadau sy'n rhagnodi'r seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd arnynt o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 ("cyfarwyddyd adran 167A") sy'n gwahardd person rhag cymryd rhan mewn rheoli mewn ysgol annibynnol yng Nghymru, neu roi cyfyngiad ar allu person i wneud hynny.

Caniateir rhoi cyfarwyddiadau adran 167A mewn perthynas â pherson sydd:

  • wedi'i gael yn euog o
  • wedi cael rhybudd mewn perthynas â
  • yn ddarostyngedig i ganfyddiad perthnasol mewn perthynas â throsedd berthnasol, neu
  • wedi cymryd rhan mewn ymddygiad perthnasol
  • os yw'r awdurdod priodol (Gweinidogion Cymru) o'r farn bod y person, felly, yn anaddas i gymryd rhan mewn rheoli mewn ysgol annibynnol (rheoliad 2).

Mewn amgylchiadau o'r fath, mae cynnwys ar y rhestr waharddedig plant yn datgymhwyso'r unigolyn yn awtomatig rhag bod yn llywodraethwr neu'n berchennog unrhyw ysgol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

DAA1 Ydych chi’n cytuno â'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023?

DAA2 Oes gennych chi sylwadau eraill am Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023?

Dyletswydd i adrodd am blentyn sydd mewn perygl o niwed

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid ei gwneud yn ofynnol i berchnogion, llywodraethwyr neu ymddiriedolwyr ysgolion annibynnol a'r holl staff a gwirfoddolwyr i roi gwybod i'r awdurdod lleol pan fyddant yn gwybod neu'n amau yn rhesymol fod plentyn, sy'n ddisgybl yn yr ysgol, yn profi neu'n wynebu risg o gam-drin, esgeulustod neu niwed. Mae'r gofyniad  hwn yn ymateb i argymhellion Adroddiad Ymchwiliad Ysgolion Preswyl a gyhoeddwyd gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.  

Mae’r ddyletswydd hon i adrodd pan fo amheuaeth bod disgybl mewn perygl:

Mae hefyd yn gyson â'r gofyniad newydd sy'n cael ei gynnig yn y newidiadau rheoleiddio i'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol, i wneud trefniadau i ddiogelu a hybu lles disgyblion yn yr ysgol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

DIA1 Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno gofyniad ar berchnogion, llywodraethwyr neu ymddiriedolwyr ysgolion annibynnol a phob aelod o staff a gwirfoddolwyr i hysbysu'r awdurdod lleol pan fyddant yn gwybod neu'n rhesymol amau bod plentyn, sy'n ddisgybl yn yr ysgol, yn profi neu mewn perygl o brofi cam-drin, esgeulustod neu niwed?

DIA2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y cynnig hwn neu ei effeithiau posibl?

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.

Newidiadau cyffredinol

NC1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau cyffredinol arfaethedig sy'n ymwneud â chyfrifoldeb y perchennog yn y pen draw am gydymffurfio â'r Rheoliadau ac i gadw cyfeiriadau at ddysgwyr â datganiadau yn ystod cyflwyno'r system anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg (ALNET) yn raddol?

NC2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y newidiadau cyffredinol?

Safon 1: ansawdd yr addysg a ddarperir

1.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 1?

1.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ansawdd yr addysg a ddarperir?

Safon 2: datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion

2.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 2?

2.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol dysgwyr?

Safon 3: lles, iechyd a diogelwch disgyblion

3.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 3?

3.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am les, iechyd a diogelwch dysgwyr?

Safon 4: addasrwydd y perchennog a'r staff

4.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 4?

4.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am addasrwydd y perchennog a'r staff?

Safon 5: safle a llety preswyl mewn ysgolion

5.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 5?

5.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am safle a llety preswyl ysgolion?

Safon 6: darparu gwybodaeth

6.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 6?

6.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ddarparu gwybodaeth?

Safon 7: modd y mae cwynion i'w trin

7.1 Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 7?

7.2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y modd y mae cwynion i'w trin?

Deddfwriaeth arfaethedig arall

DAA1 Ydych chi’n cytuno â'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023?

DAA2 Oes gennych chi sylwadau eraill am Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023?

Dyletswydd i adrodd am blentyn sydd mewn perygl o niwed

DIA1 Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno gofyniad ar berchnogion, llywodraethwyr neu ymddiriedolwyr ysgolion annibynnol a phob aelod o staff a gwirfoddolwyr i hysbysu'r awdurdod lleol pan fyddant yn gwybod neu'n rhesymol amau bod plentyn, sy'n ddisgybl yn yr ysgol, yn profi neu mewn perygl o brofi cam-drin, esgeulustod neu niwed?

DIA2 Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y cynnig hwn neu ei effeithiau posibl?

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn drwy e-bost/post i'r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 17 Gorffennaf 2023 fan bellaf.

Er mwyn eich helpu i gwblhau'r ymgynghoriad hwn, rydym wedi nodi'r prif feysydd lle mae newidiadau i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003 yn cael eu cynnig. Rydym hefyd wedi nodi'r newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth gysylltiedig arall, gan gynnwys Rheoliadau Darparu Gwybodaeth a Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli. I hwyluso cyfeirio, rydym hefyd wedi nodi'r cwestiynau yr ydym yn gofyn i chi ymateb iddynt o dan bob adran.

Cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos 17 Gorffennaf 2023 mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • Llenwi ffurflen ar-lein
  • Lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i e-bostio at: IndependentSchools@gov.cymru
  • Lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i bostio at:

Cangen Ysgolion Annibynnol
Yr Is-adran Cefnogaeth i Ddysgwyr
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd rheolwr data unrhyw ddata personol a ddarparwch fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon i ni'n cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu wrth gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gyflawni gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym o ran prosesu a chadw data personol yn ddiogel.1

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn iawn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosib y byddwn ni hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi, dywedwch hyn wrthym yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu cuddio cyn cyhoeddi. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os yw eich manylion yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna bydd yr adroddiadau a gyhoeddwyd hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru fel arall yn cael ei gadw am ddim mwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael eich hysbysu am y data personol a gedwir amdanoch ac i'w weld
  • ei gwneud yn ofynnol i ni unioni anghywirdebau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu (o dan rhai amgylchiadau) ei brosesu neu ei gyfyngu
  • i’ch data (o dan rhai amgylchiadau) gael ei 'ddileu'
  • i (o dan amgylchiadau penodol) gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Am fwy o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd ohoni, neu os ydych chi yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@gov.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/