Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 i ychwanegu opsiwn i apelau gael eu cynnal o bell yn ogystal ag yn bersonol (wyneb yn wyneb, neu drwy gymysgedd o’r ddau.

Byddai'r newidiadau a gynigir yn berthnasol i'r ddau fath o wrandawiadau apelau derbyn yr ymdrinnir â hwy o dan y Cod Apelau (apelau yn erbyn penderfyniad awdurdod derbyn i wrthod derbyn plentyn, ac apelau gan gyrff llywodraethu yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i dderbyn i'w hysgol blentyn sydd wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor).

Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â rôl neu ddiddordeb mewn apelau derbyn i ysgolion, gan gynnwys paneli apelau derbyn, awdurdodau lleol, ysgolion, cyrff llywodraethu, rhieni/gofalwyr a phartïon eraill â diddordeb. Mae'n gyfyngedig, gan geisio barn ar y newidiadau uchod yn unig. 

Beth yw testun yr ymgynghoriad?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynnig Llywodraeth Cymru i ddiwygio Cod Apelau Derbyn i Ysgolion 2013 a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 i ganiatáu i apelau gael eu cynnal o bell yn ogystal ag yn bersonol (wyneb yn wyneb), neu drwy gymysgedd o'r ddau (hybrid) lle bydd rhai cyfranogwyr yn ymuno yn bersonola rhai eraill o bell.

Bydd y newidiadau'n galluogi i rywfaint o'r hyblygrwydd, a ganiatawyd drwy reoliadau dros dro a gyflwynwyd o fis Mai 2020 ymlaen, yn fwyaf diweddar - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022, i barhau (gydag addasiadau priodol) pan ddaw'r Cod a'r Rheoliadau diwygiedig i rym.

Byddai'r newidiadau hyn yn berthnasol i'r ddau fath o wrandawiadau apelau derbyn yr ymdrinnir â hwy o dan y Cod Apelau (apelau yn erbyn penderfyniad awdurdod derbyn i wrthod derbyn plentyn, ac apelau gan gyrff llywodraethu yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i dderbyn i'w hysgol blentyn sydd wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor).

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i gyfyngu i'r newidiadau hyn yn unig. Nid ydym yn ceisio barn ar hyn o bryd ar unrhyw faterion ehangach mewn perthynas ag apelau derbyn i ysgolion.

Mae fersiwn ddrafft o'r Cod Apelau diwygiedig, sy'n cynnwys y newidiadau arfaethedig a ddisgrifir yn y ddogfen hon, ar gael ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn. Bydd angen newidiadau hefyd i Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005.

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

Nodir y rheolau o ran apelau derbyn yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (Rheoliadau 2005) a'r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion statudol (y Cod Apelau).

Mae'r Cod Apelau yn gosod gofynion gorfodol ar awdurdodau derbyn i sicrhau bod y broses apelio yn deg ac yn dryloyw. Mae dau gategori ar wahân o apelau derbyn yr ymdrinnir â hwy o dan y Cod Apelau a Rheoliadau 2005:

  • Mae gan rieni'r hawl i apelio yn erbyn unrhyw ysgol a gynhelir sydd wedi gwrthod lle i blentyn. Mae gwrandawiad apêl yn rhoi cyfle i rieni nodi'r rhesymau pam y dylai eu plentyn gael lle yn eu hysgol ddewisedig
  • Apelau gan gyrff llywodraethu ysgolion cymunedol neu ysgolion gwirfoddol a reolir yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol (awdurdod derbyn eu hysgol) i dderbyn plentyn sydd wedi ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor.

Yr awdurdod derbyn (yr awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu, yn dibynnu ar y math o ysgol) sy'n gyfrifol am sefydlu'r panel apêl. Mae'r panel apêl yn annibynnol ar yr awdurdod derbyn a dylai ddod i'w gasgliad annibynnol ei hun ynghylch a ddylai'r ysgol dderbyn y plentyn. Mae'r panel yn ystyried yr achos a gyflwynir gan yr awdurdod derbyn a'r rhiant ac mae ei benderfyniad yn derfynol. Cefnogir y panel gan glerc sydd wedi'i hyfforddi'n llawn.

Ar hyn o bryd mae Rheoliadau 2005 a'r Cod Apelau yn ei gwneud yn ofynnol i apelwyr gael cyfle i ymddangos yn bersonol a gwneud sylwadau llafar. Rhaid i'r awdurdod derbyn hefyd ddarparu swyddog cyflwyno i gyflwyno'r penderfyniad i beidio â derbyn y plentyn ac i ateb cwestiynau manwl am yr achos sy'n cael ei glywed ac am yr ysgol. Mae hyn yn golygu bod rhaid cynnal pob gwrandawiad apêl yn bersonol (wyneb yn wyneb) neu, o dan amgylchiadau cyfyngedig, caniateir penderfynu ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir.

Yn sgil pandemig COVID-19, nid oedd bob amser yn bosibl bodloni holl ofynion statudol Rheoliadau 2005 a'r Cod Apelau ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl. Er enghraifft, ar rai adegau roedd cyfyngiadau COVID-19 yn ei gwneud yn amhosibl cynnal gwrandawiadau yn bersonol (wyneb yn wyneb). Felly, gwnaethom gyflwyno Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (‘Rheoliadau Diwygio 2020’) ym mis Mai 2020. Roedd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol a phaneli apelau derbyn alluogi i wrandawiadau apêl barhau i gael eu clywed mewn modd amserol.

Roedd y trefniadau dros dro hyn yn datgymhwyso’r gofyniad yn y Cod Apelau a Rheoliadau 2005 bod rhaid cynnal gwrandawiadau apêl yn bersonol pan nad oedd yn rhesymol ymarferol dilyn y broses apelau arferol oherwydd pandemig COVID-19. Yn hytrach, roeddent yn rhoi hyblygrwydd i’r gwrandawiadau ddigwydd naill ai yn bersonol neu drwy alwad ffôn neu fideogynadledda, neu lle nad oedd yr un o'r opsiynau hynny'n bosibl drwy apêl ar bapur lle gall pob parti wneud sylwadau yn ysgrifenedig.

Estynnwyd Rheoliadau Diwygio 2020, yn fwyaf diweddar drwy Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 (yn ddarostyngedig i rai eithriadau ar gyfer apelau a oedd yn mynd ymlaen).

Rydym yn cynnig gwneud newidiadau i Reoliadau 2005 a'r Cod Apelau i gyflwyno newid parhaol i ganiatáu i apelau hefyd gael eu cynnal o bell, yn ogystal ag yn bersonol neu drwy gymysgedd o'r ddau.

Pam rydym yn cynnig newidiadau?

Yn ystod haf 2022 cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau dros dro ar ffurf arolwg o Grŵp Swyddog Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, sydd â chynrychiolaeth o bob un o'r 22 awdurdod lleol ac awdurdodau esgobaethol. Ymatebodd 18 o awdurdodau lleol, ynghyd ag un awdurdod esgobaethol a ymatebodd ar ran ysgolion y mae'r corff llywodraethu yn awdurdod derbyn iddynt mewn un ardal awdurdod lleol.

Dangosodd dadansoddiad o'r ymatebion i’r arolwg, ers i'r trefniadau dros dro ddod i rym, bod cyfanswm o 3,543 o apelau wedi'u clywed gan yr ymatebwyr, a bod 2,953 (83%) ohonynt wedi’u cynnal o bell. Roedd 943 o apelau yn llwyddiannus. Mae'r hyblygrwydd a ddarparwyd gan Reoliadau Diwygio 2020 wedi bod yn hanfodol i alluogi cynifer o apelau i barhau yn ystod pandemig COVID-19 ac mae'r ffigurau hyn yn dangos pa mor dda y mae awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn eraill wedi addasu i wrando apelau o bell.

Roedd yr adborth gan yr ymatebwyr i'r adolygiad yn gadarnhaol, gan awgrymu bod y trefniadau dros dro yn gweithio'n dda ac yn rhoi buddion i awdurdodau lleol, awdurdodau derbyn, ysgolion, paneli apêl ac apelwyr.

Pwysleisiodd nifer o awdurdodau lleol y manteision y mae'r trefniadau dros dro hyn wedi'u cael o ran amser ac arbedion costau gan nad oedd raid i rieni, swyddogion cyflwyno, aelodau paneli a chlercod (yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig) deithio i leoliadau, ac yn hytrach roeddent yn gallu cymryd rhan o'r cartref neu’r gwaith. Mae awdurdodau lleol ac ysgolion hefyd wedi gwneud arbedion o ran costau llogi sawl lleoliad ar gyfer gwrandawiadau.

Awgrymodd adborth gan awdurdodau lleol fod y trefniadau dros dro yn galluogi rhieni i gael mynediad at y system apelau yn haws, er enghraifft heb orfod cymryd amser sylweddol o'r gwaith a/neu orfod talu unrhyw gostau ychwanegol eraill, megis trefnu gofal plant ychwanegol. Mewn rhai achosion, cadarnhawyd hyn gan rieni drwy adborth uniongyrchol i awdurdodau lleol. 

Rydym yn gobeithio casglu mwy o dystiolaeth yn uniongyrchol gan rieni ar eu safbwyntiau ar y trefniadau hyn drwy'r ymgynghoriad hwn.

Mae pob un o'r 22 o awdurdodau lleol wedi gofyn am wneud yr opsiwn o apelau o bell yn barhaol. Gan nad yw gwrandawiadau apêl yn gyfarfodydd cyhoeddus, nid oes angen iddynt gael eu cynnal mewn fforwm cyhoeddus.

Pa newidiadau rydym yn eu cynnig?

Rydym yn cynnig diwygio'r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 i ychwanegu opsiwn ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl o bell yn ogystal ag yn bersonol (wyneb yn wyneb). Byddai'r diwygiadau yn:

  • cyflwyno'r gallu i gynnal gwrandawiadau apêl o bell yn ogystal ag yn bersonol, neu drwy gymysgedd o'r ddau (hybrid) gyda rhai cyfranogwyr yn ymuno yn bersonol a rhai eraill o bell
  • rhoi hyblygrwydd i awdurdodau derbyn wneud y penderfyniad ynghylch pa un a i gynnig gwrandawiadau apêl yn bersonol neu o bell neu drwy gymysgedd o'r ddau (hybrid)
  • Cyfyngu’r amgylchiadau lle gellir cynnal apelau yn gyfan gwbl dros y ffôn i ddim ond pan na fo modd defnyddio fideogynadledda am resymau'n ymwneud â chysylltedd neu hygyrchedd, a dim ond os yw'r apelydd a'r swyddog cyflwyno ill dau yn cytuno
  • caniatáu i apelau gael eu penderfynu ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd dim ond pan fydd y swyddog cyflwyno a/neu apelydd yn methu bod yn bresennol ac nid mewn amgylchiadau eraill.

Bydd y newidiadau hyn yn rhoi hyblygrwydd pellach o ran sut mae gwrandawiadau apêl yn cael eu cynnal.

Mae llawer o awdurdodau derbyn eisoes wedi gwneud defnydd o'r trefniadau dros dro ac wedi rhoi'r dechnoleg angenrheidiol ar waith ar gyfer apelau o bell. Rydym yn disgwyl y bydd y manteision sy'n deillio o hynny i baneli apêl, ysgolion a rhieni yn parhau i wrthbwyso costau unrhyw dechnoleg neu amser a dreulir yn darparu unrhyw gymorth ychwanegol. Mae’r newidiadau i wrandawiadau apêl i’w gweld ym mharagraffau 3.9, 3.10, 4.5, 4.11, 4.13, 4.14, 4.16, 4.18, 4.20, 5.2, 5.3, 5.4, 5.5, 5.8, 5.25, 7.6 a 7.8, a’r eirfa yn y Cod Apelau drafft.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau a ganlyn.

Cwestiwn 1

A ydych chi’n cytuno y dylai Rheoliadau 2005 a'r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion gynnwys opsiwn ar gyfer cynnal apelau o bell?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 2

A ydych chi’n cytuno bod y ffurfiau a ganlyn yn caniatáu ar gyfer gwrandawiad apêl teg a thryloyw?

  • Wyneb yn wyneb
  • O bell (dros y ffôn)
  • O bell (fideogynadledda)
  • Cyflwyniad ysgrifenedig
  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 3i

A ydych chi’n cytuno mai awdurdodau derbyn ddylai wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid cynnig gwrandawiadau apêl yn bersonol, o bell neu roi’r dewis o’r naill neu’r llall i’r rhai sy’n dod i’r gwrandawiad?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 3ii

Pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddod i'r penderfyniad hwn?

Cwestiwn 4

A ydych chi’n cytuno y dylai apelau sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl dros y ffôn gael eu cyfyngu i adegau pan na fo modd defnyddio fideogynadledda am resymau'n ymwneud â chysylltedd neu hygyrchedd, a dim ond os yw'r apelydd a'r swyddog cyflwyno ill dau yn cytuno?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 5

A ydych chi’n cytuno y dylai apelau ond cael eu hystyried ar sail y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd dan yr amgylchiadau a ganlyn:

  • nid yw'r swyddog cyflwyno yn bresennol, ac mae'r panel apêl yn fodlon y gall ddatrys yr achos drwy ddefnyddio’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod derbyn os na fydd hynny’n rhoi’r apelydd dan anfantais?

neu

  • mae'r apelydd yn peidio â dod neu’n methu dod i’r gwrandawiad ac mae'n anymarferol cynnig dyddiad arall?
     
  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 6

A ydych chi’n cytuno y dylai gwrandawiadau apêl hybrid fod yn opsiwn? (Ystyr 'hybrid' yw pan fo un neu ragor o’r cyfranogwyr yn ymuno o bell drwy fideo neu dros y ffôn ac un neu ragor ohonynt yn ymuno yn bersonol).

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 7

A ydych chi’n cytuno y gellir cynnal gwrandawiad apêl hybrid mewn ffordd deg a thryloyw sy’n galluogi’r swyddog cyflwyno a’r apelydd i gyflwyno eu hachos?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 8

(ar gyfer awdurdodau lleol) – A ydych chi’n cytuno y bydd y Cod Apelau arfaethedig yn arwain at gostau/arbedion newydd i awdurdodau lleol?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 9

(ar gyfer ysgolion) – A ydych chi’n cytuno y bydd y Cod Apelau arfaethedig yn arwain at unrhyw gostau/arbedion i ysgolion?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 10

Bydd mân newidiadau drafftio technegol hefyd yn cael eu gwneud i sicrhau bod y Cod Apelau yn gyfredol – mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i ddeddfwriaeth, codau ymarfer addysgol eraill ac enwau adrannol. Nodwch unrhyw sylwadau sydd gennych ar y newidiadau arfaethedig.

Cwestiwn 11

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynnig i ganiatáu i wrandawiadau apêl gael eu cynnal o bell neu yn bersonol yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 12

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gallai’r polisi arfaethedig i ganiatáu cynnal gwrandawiadau apêl o bell neu yn bersonol gael ei lunio neu ei addasu er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu drefnu ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth ichi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, bydd unrhyw ddata a ddelir gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am gyfnod o ddim mwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • i ofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD,
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Atodiad: Mân newidiadau drafftio technegol

Rydym yn cynnig gwneud newidiadau drafftio technegol ychwanegol i'r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion. Mae'r mwyafrif o’r newidiadau yn diweddaru cyfeiriadau at Godau, Rheoliadau ac enwau adrannol. Rydym yn cynnig gwneud diwygiadau i’r canlynol:

Mân newidiadau drafftio technegol
Lleoliad Mân Newid Rheswm am newid
  Dileu rhagair y Gweinidog.

Y Gweinidog a’r Llywodraeth wedi newid.

Tudalen 1

 

Diwygiadau i’r Crynodeb.

I adlewyrchu'r newidiadau a gynigir gan yr ymgynghoriad hwn.

Tudalen 2

Diwygiadau i’r Cyflwyniad.

 

I egluro'r dyddiadau y bydd y Cod Apelau diwygiedig yn gymwys.

Tudalen 3 – Paragraff 1.9

 

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 4

Cynnwys testun ychwanegol ym mhwynt bwled 4.

I gynnwys dogfen gysylltiedig newydd – Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Tudalen 4

Dileu’r cyfeiriad at y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd

Nid yw'r Cyngor hwn yn bodoli mwyach.

Tudalen 6 – Paragraff 2.6

 

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 7 – Paragraff 2.14

 

Diwygio troednodyn 5.

I gyfeirio'n gywir at reoliad 7 o Reoliadau 2005.

Tudalen 16 - Paragraff 4.8 (ail bwynt bwled)

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 16 – Paragraff 4.15

Diwygio troednodyn 8.

 

I gyfeirio'n gywir at baragraff 1(6) o Atodlen 2 i Reoliadau 2005.

Tudalen 19 – Paragraffau 4.26 a 4.27

 

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 20 – Paragraff 5.2

Cynnwys troednodyn newydd (troednodyn 9) a chael gwared ar droednodyn blaenorol (troednodyn 10 cyn hynny).

I roi eglurhad pellach o apelau a gedwir yn breifat.

Tudalen 21 – Paragraff 5.11

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 21 – Paragraff 5.13 yn y pwynt bwled cyntaf a pharagraff 5.15.

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 23 – Paragraff 5.19 (1)(C).

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 24 – Paragraff 5.20

Diwygio dolen i’r we.

I gynnwys y ddolen we gyfredol.

Tudalen 26 – Paragraff 5.26

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 27 – Paragraff 5.27

Cyfeiriad at baragraffau

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 29 – Paragraff 5.41

Diwygio enw'r Tribiwnlys.

I gyfeirio'n gywir at Dribiwnlys Addysg Cymru sy'n cymryd lle Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Tudalen 29 – Paragraff 5.43

Diwygio troednodyn 14.

 

I gyfeirio'n gywir at baragraff 1(9) o Atodlen 2 i Reoliadau 2005.

Tudalen 33 – Paragraff 7.1

Dileu troednodyn blaenorol a chyfeiriad at ddeddfwriaeth.

 

I gynnwys cyfeiriad at adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 2(2) o Atodlen 2 i Reoliadau 2005.

Tudalen 34 – Paragraff 7.12

Cynnwys paragraff 7.12 newydd.

I roi eglurder o ran adran 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Tudalen 36 – Atodiad A yn A3, A4, A5 ac A7.

Cynnwys testun esboniadol ychwanegol neu, yn achos A7, testun diwygiedig.

 

I roi eglurder ar adrannau perthnasol o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Tudalen 38 a 39 – Atodiad A yn A15 i A24.

 

Cynnwys testun diwygiedig.

I ddarparu testun esboniadol pellach mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Tudalen 44 – Atodiad C yn C4.

Diwygio troednodyn 25.

 

I gyfeirio'n gywir at reoliad 6(5) o Reoliadau 2005.

Tudalen 45 – Atodiad C yn C9.

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 46 – Atodiad C yn C15.

Cyfeiriad at baragraffau.

I gyfeirio'n gywir at y paragraff cywir yn y Cod Apelau.

Tudalen 47 – Atodiad C yn C18(1).

Diwygio'r testun.

I adlewyrchu'r newidiadau gafodd eu cyflwyno gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Tudalen 47 – Atodiad C yn C18(2).

Cynnwys troednodyn 28 a 29 newydd a diwygio testun.

I roi eglurder o ran cyfeirio at blant sy'n derbyn gofal.

Tudalen 48 – Atodiad C

Dileu’r hyn oedd yn C20.

Cyfeiriad at ddyddiadau nad ydynt yn berthnasol mwyach.

Tudalen 51 – Atodiad E

Diwygio'r testun.

Diweddaru cyfeiriadau.

Tudalen 52 – Atodiad F

Diwygio'r testun.

Cyfeiriadau wedi'u diweddaru at ddogfennau cysylltiedig a chynnwys dogfennau cysylltiedig newydd.

Tudalennau 53, 54 a 55 – Geirfa

Diwygio'r testun.

Gwybodaeth wedi'i diweddaru o ran 'cwynion', 'cyfyngiad ar faint dosbarthiadau babanod', a gwybodaeth ychwanegol o ran 'plant a oedd yn arfer derbyn gofal' a ‘mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael’.