Neidio i'r prif gynnwy

Y Cefndir

Gall myfyrwyr dderbyn cymorth statudol i fyfyrwyr yn y DU os ydynt:

  • yn astudio cwrs dynodedig, ac
  • yn bodloni amodau preswylio perthnasol

Mae dynodi cyrsiau yn ofyniad rheoleiddiol hirsefydlog. Mae'n sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei gyfeirio at gyrsiau a ddarperir gan sefydliadau sy'n ddarostyngedig i drefniadau rheoleiddio, sicrhau ansawdd a goruchwylio priodol.

Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio newidiadau i'r trefniadau a ddefnyddir i benderfynu a fydd cwrs wedi'i ddynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Cymru.

Pam mae trefniadau dynodi yn newid

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y rheolau sy'n penderfynu a fydd cyrsiau addysg uwch wedi'u dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Cymru. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud y canlynol:

  • adlewyrchu'r fframwaith rheoleiddiol newydd a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, o 1 Awst 2027 ymlaen
  • alinio trefniadau dynodi rhai cyrsiau breiniol a ddarperir yn Lloegr â'r trefniadau goruchwylio rheoleiddiol cryfach yn Lloegr, o 1 Awst 2028 ymlaen

Bydd y trefniadau newydd yn:

  • alinio dynodiad â'r fframweithiau rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr
  • symleiddio'r system ddynodi
  • lleihau nifer y cyrsiau sy'n galw am benderfyniad dynodi penodol gan Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol Cymru

Nid yw'r newidiadau hyn yn newid cyfrifoldeb darparwyr i sicrhau bod cyrsiau yn cael eu dynodi yn unol â rheoliadau cymorth i fyfyrwyr.

Rhaid dynodi cyrsiau cyn iddynt gael eu hychwanegu at System Rheoli Cyrsiau'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Mae'r System Rheoli Cyrsiau yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis cwrs a lanlwythwyd wrth wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru. Fe'i defnyddir i asesu eu cymhwysedd ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr.

Newidiadau o ran cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr o 1 Awst 2027 ymlaen

Cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru

O dan y trefniadau newydd, bydd dynodiad awtomatig yn gysylltiedig â statws cofrestru darparwr gyda Medr.

Cyrsiau gradd

Categori craidd Medr

Bydd cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru yng nghategori craidd addysg uwch Medr yn:

  • cael eu dynodi'n awtomatig
  • sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu uwch

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027, y gyfradd ffioedd dysgu uwch yw £9,790. Gallai'r gyfradd fod yn wahanol mewn blynyddoedd academaidd i ddod.

Categori amgen Medr

Bydd cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru yng nghategori amgen addysg uwch Medr yn:

  • cael eu dynodi'n awtomatig
  • sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu is

Mae hyn yn disodli'r arfer presennol lle gallai fod angen i'r darparwyr dan sylw wneud cais am ddynodiad penodol drwy Medr. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027, y gyfradd ffioedd dysgu is yw £6,525. Gallai'r gyfradd fod yn wahanol mewn blynyddoedd academaidd i ddod.

Cyrsiau ôl-radd

Bydd cyrsiau ôl-radd a gynigir gan ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gyda Medr yn y categorïau craidd neu amgen yn cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ôl-radd. Mae hyn yn disodli'r arfer presennol lle gallai fod angen i'r darparwyr wneud cais am ddynodiad penodol drwy Medr.

Cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr

Bydd y trefniadau dynodi presennol ar gyfer llawer o ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr sy'n darparu cyrsiau gradd ac ôl-radd yn parhau.

Cyrsiau gradd

Categori cymeradwy (cap ffioedd) Ofs

Bydd cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) yn Lloegr yn y categori Cymeradwy (cap ffioedd) yn:

  • parhau i gael eu dynodi'n awtomatig
  • sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu uwch
Categori cymeradwyo OfS

Bydd cyrsiau a ddarperir yn uniongyrchol gan ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r OfS yn y categori Cymeradwy yn:

  • cael eu dynodi'n awtomatig
  • sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu is

Yn achos llawer o ddarparwyr y mae angen dynodiad cwrs penodol arnynt drwy Medr ar hyn o bryd, mae hyn yn golygu na fydd angen hynny arnynt mwyach er mwyn i fyfyrwyr Cymru gael cymorth.

Cyrsiau ôl-radd

Bydd cyrsiau ôl-radd a ddarperir gan ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r OfS, yn y naill gategori neu'r llall, yn cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ôl-radd.

Yn achos darparwyr y mae angen dynodiad cwrs penodol arnynt drwy Medr ar hyn o bryd, ni fydd angen hynny arnynt mwyach er mwyn i fyfyrwyr Cymru gael cymorth ôl-radd.

Darpariaeth hyfforddiant athrawon

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn y trefniadau dynodi awtomatig i gyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon achrededig yn Lloegr a gynigir gan ysgolion (SCITT).

Bydd y cyrsiau hyn yn sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu is.

Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr Cymru sy'n astudio ar y cyrsiau hyn yn gallu manteisio ar gymorth i fyfyrwyr Cymru heb fod angen i'r darparwr gael penderfyniad dynodi penodol gan Medr.

Newidiadau o ran darpariaeth freiniol a darpariaeth partneriaeth o 1 Awst 2027 ymlaen

Caiff rhai cyrsiau addysg uwch eu darparu gan un sefydliad ar ran un arall. Cyfeirir at y trefniadau hyn yn aml fel darpariaeth freiniol neu ddarpariaeth partneriaeth.

Gall y trefniadau dynodi presennol ar gyfer darpariaeth freiniol fod yn gymhleth. Yn aml mae gofyn i ddarparwyr gael dynodiad cwrs penodol drwy Medr er mwyn i fyfyrwyr Cymru gael cymorth.

Bydd y trefniadau newydd yn symleiddio'r system. Bydd yn alinio'r broses ddynodi â'r fframweithiau rheoleiddiol yng Nghymru a Lloegr.

Cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr categori craidd yng Nghymru

Bydd cyrsiau a ddarperir ar ran darparwr yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru yng nghategori craidd addysg uwch Medr yn gyffredinol yn cael ei ddynodi'n awtomatig os yw'r partner gweithredu yn destun goruchwyliaeth reoleiddiol briodol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • lle mae darparwr arall wedi'i gofrestru (yn y naill gategori neu'r llall) gyda Medr
  • lle caiff darparwr ei ariannu gan Medr
  • lle mae darparwr yn Lloegr wedi'i gofrestru (yn y naill gategori neu'r llall) gyda'r OfS

Bydd y cyrsiau hyn yn parhau i sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu uwch.

O dan y trefniadau newydd, ni fydd dynodi awtomatig yn dibynnu bellach ar statws elusennol y partner gweithredu. Yn hytrach, y gofyniad allweddol fydd bod y partner gweithredu yn cael ei reoleiddio'n briodol. O ganlyniad, bydd rhai cyrsiau sydd ar hyn o bryd yn gofyn am ddynodiad cwrs penodol drwy Medr yn cael eu dynodi'n awtomatig.

Cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr categori amgen yng Nghymru

Bydd trefniadau gwahanol yn berthnasol lle darperir cwrs ar ran darparwr yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru yng nghategori amgen addysg uwch Medr. Yn yr achosion prin hyn, bydd angen dynodiad cwrs penodol drwy Medr.

Lle caiff dynodiad ei roi, y gyfradd ffioedd dysgu is fydd yn berthnasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r trefniadau hyn yn rheolaidd.

Cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr a gofrestrwyd yn Lloegr

Bydd cyrsiau a ddarperir ar ran darparwr yn Lloegr sydd wedi'i gofrestru gyda'r OfS yn y categori Cymeradwy (cap ffioedd) yn cael eu dynodi'n awtomatig os yw'r partner gweithredu hefyd yn destun rheoleiddio priodol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • darparwyr cofrestredig yng Nghymru
  • darparwyr a ariennir yng Nghymru
  • darparwyr cofrestredig yn Lloegr

Bydd hyn yn lleihau'r angen am benderfyniadau dynodi penodol gan Medr. Bydd yn cysoni'r trefniadau rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd y cyrsiau hyn yn sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu uwch.

Lle darperir cwrs ar ran darparwr yn Lloegr sydd wedi'i gymeradwyo gan y Swyddfa Fyfyrwyr ac nad yw'n ddarostyngedig i derfynau ffioedd, yn gyffredinol bydd yn dal i fod yn ofynnol i Medr ei ddynodi'n benodol er mwyn i fyfyrwyr Cymru gael cymorth.

Bydd cyrsiau dynodedig yn sicrhau cymorth ar y gyfradd ffioedd dysgu is.

Cymhwyso ar gyfer cymorth ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd – dileu'r rheol ddynodi 3 mis

Bydd Llywodraeth Cymru yn dileu rheol sy'n effeithio ar gymhwysedd myfyriwr i gael cymorth ffioedd dysgu.

Ar hyn o bryd, rhaid i gwrs gael ei ddynodi o fewn 3 mis i ddechrau'r flwyddyn academaidd er mwyn i fyfyrwyr gael cymorth ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn honno. Os eir ati i ddynodi yn ddiweddarach, ni fydd y cymorth ffioedd dysgu ar gael fel rheol tan y flwyddyn academaidd ganlynol.

O dan y trefniadau newydd, caiff y cyfyngiad hwn ei ddileu. Efallai y bydd myfyrwyr cymwys yn gallu cael cymorth ffioedd dysgu yr un flwyddyn academaidd, hyd yn oed os caiff cwrs ei ddynodi yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw myfyrwyr yn colli eu cyfle am gymorth oherwydd oedi yn y broses ddynodi.

Mae'r newid yn berthnasol i gymorth ffioedd dysgu yn unig, ac nid yw'n effeithio ar amodau cymorth cynhaliaeth.

Cyrsiau celfyddydau perfformio a chyrsiau cysylltiedig o 1 Awst 2027 ymlaen

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth celfyddydau perfformio arbenigol. Mae hefyd yn cydnabod yr heriau a all godi pan ddarperir cyrsiau drwy ddarparwyr nad ydynt yn rhan o system reoleiddiol yr OfS.

Mae'r materion hyn wedi effeithio ar nifer fach o gyrsiau celfyddydau perfformio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd trefniadau dynodi cyrsiau dros dro a gyflwynwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027 yn cael eu hymestyn am flwyddyn arall. Byddant yn parhau i fod yn berthnasol i gyrsiau celfyddydau perfformio cymwys a chyrsiau cysylltiedig ym mlwyddyn academaidd 2027 i 2028. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr newydd sy'n dewis y cyrsiau hyn yn gallu manteisio ar gymorth i fyfyrwyr Cymru. Bydd cymorth ffioedd dysgu yn parhau i fod ar gael ar y gyfradd ffioedd is.

Newidiadau o ran darpariaeth freiniol a darpariaeth partneriaeth o 1 Awst 2028 ymlaen

O 1 Awst 2028 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer rhai cyrsiau addysg uwch breiniol a ddarperir yn Lloegr. Gwneir y newidiadau hyn yn dilyn diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU i gryfhau'r trefniadau i reoleiddio a goruchwylio darpariaeth addysg uwch freiniol.

O dan y trefniadau newydd, caiff cyrsiau breiniol eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Cymru lle cânt eu darparu drwy ddarparwyr sydd yn un o'r canlynol:

  • wedi'u cofrestru gyda'r OfS
  • wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru
  • islaw'r trothwy rheoleiddiol o 300 o fyfyrwyr

Bwriad y newidiadau yw:

  • sicrhau cysondeb rhwng Cymru a Lloegr
  • lleihau'r angen am benderfyniadau dynodi penodol
  • cysylltu darpariaeth cymorth i fyfyrwyr â threfniadau goruchwylio rheoleiddiol priodol

Cyrsiau Celfyddydau Perfformio a chyrsiau cysylltiedig o 1 Awst 2028 ymlaen

O 1 Awst 2028 ymlaen, bydd diwygiadau ehangach i drefniadau dynodi cyrsiau breiniol yn cynnig ateb hirdymor ar gyfer cyrsiau celfyddydau perfformio a chyrsiau cysylltiedig.

Yn gyffredinol, bydd cyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr sydd o dan y fframwaith rheoleiddio cryfach yn cael eu dynodi yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i fwy o gyrsiau celfyddydau perfformio a chyrsiau cysylltiedig ddod yn gymwys i gael cymorth heb fod angen penderfyniad dynodi ar wahân gan Medr.

Ar gyfer cyrsiau breiniol, bydd y penderfyniad ynghylch cyfradd ffioedd dysgu uwch neu is yn dibynnu ar statws cofrestru'r darparwr y darperir y cwrs ar ei ran, yn unol â'r trefniadau cymorth ffioedd presennol.

Pryd fydd y newidiadau yn dod i rym

Bydd y trefniadau dynodi dros dro ar gyfer cyrsiau celfyddydau perfformio a chyrsiau cysylltiedig yn cael eu hymestyn am flwyddyn arall o 1 Awst 2027 ymlaen.

Yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a gwneud y rheoliadau angenrheidiol, bydd y newidiadau eraill a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn yn berthnasol i gyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2027 neu 1 Awst 2028, yn dibynnu ar yr union newid.

Mae darparwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod darpar fyfyrwyr yn cael gwybodaeth gywir am statws dynodiad cyrsiau cyn iddynt dderbyn cynnig lle. Mae hyn yn cynnwys a yw cwrs wedi'i ddynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Cymru.

Bydd y broses ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyrwyr yn parhau fel y mae.

Ymholiadau

Os oes gennych gwestiynau ynghylch ceisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, anfonwch e-bost at Is-adran Ariannu a Strategaeth Llywodraeth Cymru.

Gellir gwneud cais am y ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.