Newidiadau i ragnodi triniaethau gwrthfeirysol a gwrthgyrff ar gyfer COVID-19
Cyngor newydd NICE ar fynediad i driniaethau ar gyfer oedolion sydd mewn perygl o COVID-19 difrifol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nirmatrelvir plus ritonavir
Argymhellir nirmatrelvir ynghyd â ritonavir yn opsiwn ar gyfer trin COVID-19 mewn oedolion, dim ond:
- os nad oes angen ocsigen ychwanegol arnynt ar gyfer COVID-19
- os ydynt yn oedolion ac mewn mwy o berygl o fynd ymlaen i ddatblygu COVID-19 difrifol, fel y'i diffinnir ym mlwch 1 y ffactorau risg i oedolion o ran datblygu COVID‑19 difrifol yn adran 5 o nirmatrelvir ynghyd â ritonavir, sotrovimab a tocilizumab ar gyfer trin COVID-19
Nid yw nirmatrelvir ynghyd â ritonavir wedi'i drwyddedu na'i argymell fel opsiwn ar gyfer trin COVID-19 mewn unrhyw un o dan 18 oed.
Sotrovimab
Argymhellir atgyfeiriad i gael gweinyddu sotrovimab yn fewnwythiennol fel opsiwn ar gyfer trin COVID-19 mewn oedolion a phobl ifanc 12 oed a hŷn sy'n pwyso o leiaf 40 kg, dim ond:
- os nad oes angen ocsigen ychwanegol arnynt ar gyfer COVID-19
- os yw nirmatrelvir ynghyd â ritonavir yn feddyginiaethau y cynghorir yn eu herbyn neu sy'n cael eu hystyried yn anaddas
- os ydynt yn oedolyn ac yn wynebu risg uwch o fynd ymlaen i ddatblygu COVID-19 difrifol, fel y'i diffinnir ym mlwch 1 y ffactorau risg i oedolion o ran datblygu COVID‑19 difrifol yn adran 5 o nirmatrelvir ynghyd â ritonavir, sotrovimab a tocilizumab ar gyfer trin COVID-19
- os ydynt yn berson ifanc rhwng 12 a 17 oed ac yn wynebu risg uwch o fynd ymlaen i ddatblygu COVID-19 difrifol, fel y'i diffinnir ym mlwch 2 y ffactorau risg i bobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed o ran datblygu COVID‑19 difrifol yn adran 5 o nirmatrelvir ynghyd â ritonavir, sotrovimab a tocilizumab ar gyfer trin COVID-19
Molnupiravir
Argymhellir molnupiravir fel opsiwn ar gyfer trin COVID-19 ysgafn i gymedrol mewn oedolion, dim ond:
- os yw nirmatrelvir ynghyd â ritonavir a sotrovimab yn feddyginiaethau y cynghorir yn eu herbyn neu sy'n cael eu hystyried yn anaddas
- os ydynt yn wynebu risg uwch o fynd ymlaen i ddatblygu COVID-19 difrifol, fel y'i diffinnir ym mlwch 1 y ffactorau risg i oedolion o ran datblygu COVID‑19 difrifol yn adran 5 o nirmatrelvir ynghyd â ritonavir, sotrovimab a tocilizumab ar gyfer trin COVID-19
Nid yw molnupiravir wedi'i drwyddedu nac yn cael ei argymell fel opsiwn ar gyfer trin COVID-19 mewn unrhyw un o dan 18 oed.
