Newidiadau i reolau sefydlog y Cyd-bwyllgor Comisiynu
Mae'r newidiadau hyn yn cyd-fynd â'r rhai i'r rheolau sefydlog enghreifftiol ar gyfer byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau arbennig y GIG.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cydymffurfio.
Categori:
Llywodraethu.
Teitl:
Diwygiadau i'r Rheolau Sefydlog ar gyfer Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.
Dyddiad dod i ben neu ddyddiad yr adolygiad:
Amherthnasol.
I’w weithredu gan:
Gadeirydd ac Ysgrifennydd y Pwyllgor a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.
Er gwybodaeth i:
- Gadeiryddion a prif weithredwyr byrddau iechyd lleol
- Cyfarwyddwyr llywodraethu corfforaethol neu ysgrifenyddion y bwrdd.
Anfonwyd gan:
Llinos Henry, Llywodraethiant y GIG, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar.
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Cyflwyniad a chefndir:
Rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru gytuno ar reolau sefydlog. Mae'r rhain, ynghyd â chyfres o gyfarwyddiadau ariannol sefydlog a chynllun penderfyniadau sy'n nodi'r penderfyniadau sydd wedi'u cadw i'r bwrdd; cynllun dirprwyo i swyddogion ac eraill; ac amryw o ddogfennau fframwaith eraill, yn nodi'r trefniadau y mae'r bwrdd, ei bwyllgorau, ei grwpiau cynghori, a staff y GIG yn eu defnyddio i wneud eu penderfyniadau ac ymgymryd â'u gweithgareddau. Dylid seilio'r rheolau sefydlog ar y model a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn gydbwyllgor sy'n cynnwys pob bwrdd iechyd yng Nghymru, a sefydlwyd o dan Gyfarwyddiadau Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (Cymru) 2024.
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol ar y rheolau sefydlog enghreifftiol, a chadw a dirprwyo pwerau newydd ar gyfer Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru cyn ei sefydlu ar 1 Ebrill 2024.
Ym mis Ionawr 2025, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r diwygiadau i'r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol, Cadw a Dirprwyo Pwerau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG, ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yn dilyn diwygiadau i Reoliadau ar gyfer cyrff y GIG. Cynigir y bydd y cyd-bwyllgor yn mabwysiadu'r un dull gweithredu mewn trafodion pwyllgor er mwyn sicrhau cysondeb ar draws byrddau’r GIG.
Mae rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor yn seiliedig ar y model a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud diwygiadau i'r ddogfen ganlynol:
- Rheolau Sefydlog - Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r rheolau sefydlog ar gyfer y Cyd-bwyllgor wedi'u cyhoeddi, a gellir eu gweld yma:
Rheolau Sefydlog Enghreifftiol Cyd-bwyllgor Comisiynau GIG Cymru
Mae crynodeb o'r diwygiadau ar gael yn y dogfennau amgaeedig.
Dogfennau amgaeedig:
Llythyr at gadeiryddion byrddau iechyd lleol, a llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.
Llythyr at gadeiryddion byrddau iechyd lleol, a llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Annwyl Gadeirydd,
Fel y gwyddoch, ym mis Ionawr, daeth Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 i rym.
O ganlyniad i'r rheoliadau hyn, gwnaed diwygiadau i'r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol, Cadw a Dirprwyo Pwerau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig gan ddefnyddio pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd yn unol ag Adran 12(3), Adran 19(1) ac Adran 23(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Cytunwyd y bydd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC) yn mabwysiadu'r un dull gweithredu mewn trafodion pwyllgor (lle bo hynny'n briodol) er mwyn sicrhau cysondeb ar draws byrddau'r GIG.
Mae'r diwygiad arfaethedig i reolau sefydlog y JCC yn ymwneud ag amseriad cyhoeddi papurau cyhoeddus ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor (gweler Dogfen 1).
Mae'r diwygiadau hyn yn disodli'r rhai a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2024 ac fel y'u cadarnhawyd yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru WHC2024/019. Bydd cylchlythyr iechyd Cymru newydd yn cael ei gyhoeddi i gadarnhau hyn.
Mae'n ofynnol i'r JCC ymgorffori a mabwysiadu'r adolygiad diweddaraf hwn i reolau sefydlog eich pwyllgor. Mae rheolau sefydlog Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn ffurfio rhan o Atodlen 4 o Reolau Sefydlog Enghreifftiol y Bwrdd Iechyd Lleol.
Yn gywir,
Jeremy Miles AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cabinet Secretary for Health and Social Care
Diwygiadau i reolau sefydlog Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Adran 7 – cyfarfodydd pwyllgor: hysbysu'r cyhoedd ac eraill
Diwygio'r testun yn y paragraff canlynol, o:
7.12 Except for meetings called in accordance with SOs, at least 10 calendar days before each meeting of the Joint Committee, a public notice of the time and place of the meeting, and the public part of the agenda, shall be displayed bilingually (in English and Welsh) as follows:
- each LHBs website shall link to the JCC website, where the papers supporting the public part of the agenda will be available; as well as
- through other methods of communication as set out in the Joint Committee’s communication strategy
When providing notification of the forthcoming meeting, each LHB shall set out when and how the agenda and the papers supporting the public part of the agenda may be accessed, in what language and in what format, such as, as Braille, large print, and so on.
I:
7.12 Except for meetings called in accordance with SOs, at least 10 calendar days before each meeting of the Joint Committee, a public notice of the time and place of the meeting shall be displayed bilingually (in English and Welsh):
- on the JCC’s website
- each LHBs website shall link to the JCC website; as well as
- through other methods of communication as set out in the JCC’s communication strategy
When providing notification of the forthcoming meeting, the committee shall set out when and how the agenda and the papers supporting the public part of the agenda may be accessed, in what language and in what format, such as, as Braille, large print, and so on. The agenda and papers will be made available to the public at least 5 clear days before each meeting of the Committee.
