Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Ionawr 2017.

Cyfnod ymgynghori:
14 Rhagfyr 2016 i 31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn ynghylch y newidiadau arfaethedig i reoliadau yn sgil diwygio’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (2011/92/EU) yn 2014.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Dyma ymgynghoriad ar y cyd â DEFRA, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Rydym yn ymgynghori ynghylch diwygiadau i ddeddfwriaeth ddomestig ynghylch asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer coedwigaeth, adnoddau dŵr, draenio tir, ffermio pysgod asgellog mewn dyfroedd morol a gwaith morol.

Bydd y diwygiadau hyn:

  • yn symleiddio’r rheolau ar gyfer asesu effeithiau posibl prosiectau ar yr amgylchedd
  • yn atgyfnerthu’r broses sgrinio ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol
  • yn gwella’r modd y diogelir yr amgylchedd
  • yn sicrhau bod gweithdrefnau’n canolbwyntio ar y ffactorau amgylcheddol y mae prosiectau’n cael effaith sylweddol arnynt.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 535 KB

PDF
535 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.