Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y cefndir

Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol heintus hysbysadwy. Caiff ei drosglwyddo pan fydd gwybed heintiedig (o'r rhywogaeth Culicoides) yn brathu anifeiliaid cnoi cil gwyllt neu ddomestig sy'n gallu dal y clefyd, megis defaid, geifr, gwartheg a cheirw, yn ogystal â chamelidau (fel lamas). 

Nid yw'r tafod glas yn filhaint, hynny yw nid yw'n peri unrhyw risg i iechyd pobl. Mae cynhyrchion bwyd, gan gynnwys cig a chynhyrchion llaeth, yn ddiogel felly i ddefnyddwyr ac nid ydynt yn peri risg o ledaenu'r clefyd i bobl, na rhwng anifeiliaid. Gellir parhau i allforio'r nwyddau hyn hefyd, ar yr amod y bodlonir gofynion ardystio iechyd y wlad sy'n eu mewnforio.

Mae mwy na chwech ar hugain o wahanol seroteipiau BTV wedi'u canfod ac mae gallu pob straen i achosi clefyd yn amrywio'n sylweddol. Mae BTV-3, BTV-8 a BTV-12 wedi'u canfod yn Lloegr ers 2023, a BTV-3 yng Nghymru ers mis Medi 2024 ac yng Ngogledd Iwerddon ers diwedd hydref 2026. 

Mae gwybed yn cael eu heintio â'r feirws pan fyddant yn brathu anifail heintiedig. Fel arfer, trosglwyddir y feirws drwy wybed rhwng mis Ebrill a Thachwedd pan fydd gwybed yn fwy bywiog a phan fydd y tymheredd yn ffafriol i ddyblygu BTV yn y gwybedyn (y cyfnod magu anghynhenid, neu EIP, fel y'i gelwir). Wrth iddi gynhesu, mae mwy o wybed ar hyd lle ac mae cyfnod magu'r feirws mewn gwybed sydd wedi'u heintio â BTV yn byrhau, gan gynyddu'r risg o drosglwyddo'r clefyd drwy wybed. 

Gall feirws y tafod glas hefyd ledaenu i ardaloedd newydd wrth i dda byw heintiedig symud a thrwy gynhyrchion cenhedlol (semen ac ofa) a geir o anifeiliaid heintiedig. 

Er bod yr effeithiau ar dda byw sy'n gallu dal y clefyd yn medru amrywio'n fawr, gall y tafod glas gael effaith sylweddol ar iechyd, lles a chynhyrchiant da byw. Efallai na fydd rhai anifeiliaid yn dangos unrhyw arwyddion nac effeithiau clinigol, ond gall eraill ddangos arwyddion clinigol fel briwiau o amgylch y trwyn a'r geg neu garnau wedi chwyddo mewn gwartheg. 

Mae effaith haint y tafod glas hefyd yn cynnwys ffrwythlondeb a pherfformiad atgenhedlu is, colli lloi, cynhyrchu llai o laeth ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gall achosi marwolaeth mewn anifeiliaid llawn-dwf. 

Y broblem

Canfuwyd feirws y tafod glas seroteip 3 (BTV-3) gyntaf yn Lloegr ym mis Tachwedd 2023. Cadarnhaodd Cymru ei hachos gyntaf o BTV-3 ym mis Medi 2025, ac yn ystod yr un mis, cadarnhaodd Lloegr yr achos cyntaf o feirws y tafod glas seroteip 8 (BTV-8). 

Er nad oes achosion o BTV-8 yng Nghymru, mae presenoldeb y feirws yn Lloegr yn peri risg amlwg a chynyddol y gall ledaenu. Mae'r ffaith fod achosion wedi'u cadarnhau mor agos i Gymru yn cynyddu'r tebygolrwydd o wybed heintiedig yn lledaenu gyda'r gwynt a lledaeniad trawsffiniol trwy anifeiliaid yn symud. Unwaith y mae'r tafod glas yn bresennol ym Mhrydain Fawr, dengys y profiad o BTV-3 y gall y feirws ledaenu'n gymharol gyflym, yn enwedig pan fydd y tywydd yn ffafriol. Ar yr un pryd, dangoswyd bod dulliau traddodiadol o reoli clefydau, sy'n seiliedig ar gyfyngiadau symud a dynodi parthau, yn arwain at gostau economaidd sylweddol i'r sector da byw. Maent hefyd yn creu pwysau gweithredol sy'n mynd y tu hwnt i'r capasiti cyflenwi pan geir achosion dros ardal eang.

Mae argaeledd brechlynnau BTV-8 o wanwyn 2026 ymlaen yn cynrychioli newid sylweddol yn y cyd-destun polisi, gan alluogi symud i ffwrdd o'r ddibyniaeth ar fesurau rheoli cyfyng.

Ar sail profiad y llywodraeth a’r diwydiant o reoli BTV-3, cynigir ein bod yn mynd i’r afael â BTV-8 mewn ffordd wahanol i’n hymateb cychwynnol i BTV-3 pan ymddangosodd y seroteip hwnnw y tro cyntaf ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn adlewyrchu newidiadau pwysig i’r dystiolaeth, ein paratoadau ar gyfer wynebu’r clefyd a’r mesurau rheoli sydd ar gael yn hytrach nag asesiad bod y clefyd yn llai o risg.

Pan gafodd BTV-3 ei ganfod y tro cyntaf, roedd yn fygythiad newydd i Brydain Fawr. Nid oedd gennym fawr o brofiad yn y maes o’i ymddygiad o dan amodau Prydeinig, roeddem yn ansicr ynghylch ei effeithiau epidemiolegol ac economaidd ac nid oedd brechlynnau wedi’u hawdurdodi. O’r herwydd, dilynwyd trywydd mwy rhagofalus gan gynnwys creu systemau parthau a rheoli symudiadau i ffrwyno lledaeniad y clefyd, i gasglu tystiolaeth a diogelu da byw wrth i’n dealltwriaeth wyddonol ddatblygu. 

Ers hynny, cafwyd llawer o brofiad o reoli achosion o BTV-3 ledled Prydain ac Ewrop. Mae gwaith goruchwylio, ymchwiliadau epidemiolegol a phrofiad y diwydiant wedi’n helpu i ddod i ddeall yn well sut mae’r tafod glas yn cael ei drosglwyddo, beth yw ei effeithiau a beth yw’r opsiynau ar gyfer ei reoli. Hefyd, mae brechlynnau rhag BTV-3 a BTV-8 bellach wedi’u datblygu, gan roi erfyn effeithiol i bawb sy’n cadw da byw i leihau effeithiau’r clefyd a chryfhau eu gallu i’w wrthsefyll. 

Mae’r polisi a gynigir ar gyfer delio â BTV-8 felly yn adlewyrchu’r dystiolaeth a’r amgylchedd gweithredu diweddaraf. Mae’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng rheoli’r clefyd ac effeithiau economaidd, cymdeithasol a gweithredol unrhyw gyfyngiadau, gan gydnabod bod brechu bellach yn ffordd ymarferol i’r diwydiant reoli’r clefyd gan ganiatáu i’r llywodraeth dargedu’i hymyriadau’n well a bod yn fwy cymesur. 

Camau gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig fframwaith polisi newydd ar gyfer rheoli BTV-8 yn seiliedig ar ddull brechu cymesur. 

Prif amcanion y polisi yw:

  • gohirio lledaeniad BTV-8 i Gymru, lle bo'n bosibl
  • arafu ei ledaeniad pe bai'n cyrraedd
  • rhoi amser i ffermwyr baratoi a brechu eu da byw
  • lleihau unrhyw darfu ar y sector da byw a'r economi wledig

Bydd y ffordd o fynd ati:

  • yn osgoi cyflwyno parthau dros ardal eang a chyfyngiadau symud fel mater o drefn
  • yn defnyddio mesurau rheoli cymesur wedi'u targedu, sy'n canolbwyntio ar safleoedd heintiedig lle bo angen
  • yn cefnogi ac annog brechu dan arweiniad y diwydiant fel y prif ddull o reoli'r clefyd
  • yn cyd-fynd â'r ffordd bresennol o ymdrin â BTV-3, gan gydnabod argaeledd cynyddol brechlynnau a'r angen am wydnwch hirdymor

Dros amser, bydd y polisi'n cefnogi newid cyfrifoldebau, o ymyriadau dan arweiniad y llywodraeth i reoli clefydau dan arweiniad y diwydiant. Mae hyn yn adlewyrchu proffil risg newidiol clefydau a gludir gan fectorau yn sgil newid hinsawdd a'r cynnydd mewn argaeledd brechlynnau a'r cyfraddau brechu. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 - y 5 ffordd o weithio

Y tymor hir

Mae'r cynnig yn ymateb i nifer o dueddiadau, heriau a chyfleoedd hirdymor allweddol sy'n effeithio ar iechyd anifeiliaid ac amaethyddiaeth yng Nghymru.

Newid hinsawdd

Mae'r cynnydd yn y tymheredd yn estyn cyfnod hedfan a gwasgariad daearyddol rhywogaethau fector (gwybed Culicoides), sy'n golygu bod y tafod glas yn fwy tebygol o ledaenu ac aros gyda ni dros amser.

Clefydau anifeiliaid sy'n dod i'r amlwg ac sy'n ailymddangos

Mae globaleiddio a newid amgylcheddol yn cynyddu amlder clefydau egsotig, sy'n gofyn am ddulliau rheoli mwy hyblyg a chynaliadwy.

Pwysau economaidd ar amaethyddiaeth

Mae'r sector da byw yn wynebu pwysau ariannol parhaus, sy'n golygu y gallai ymyriadau costus neu rai sy'n tarfu ar y sector leihau hyfywedd ffermydd yn yr hirdymor.

Cyfyngiadau o ran capasiti'r sector cyhoeddus

Mae gwaith modelu adnoddau yn dangos nad yw modelau ymyrryd ar raddfa fawr yn gynaliadwy, yn enwedig ar gyfer clefydau a allai droi'n risgiau endemig.

Mae'r cynnig yn lliniaru'r heriau hyn trwy wneud y canlynol:

  • cefnogi gwydnwch hirdymor trwy frechu: Trwy hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar frechu, mae'r polisi'n mynd i'r afael â risg parhaus clefydau yn hytrach na dibynnu ar fesurau cyfyngu tymor byr
  • addasu i risg clefydau a achosir gan yr hinsawdd: Yn cydnabod y tafod glas fel risg rheolaidd ac yn mabwysiadu dull rheoli cynaliadwy yn hytrach na cheisio ei atal rhag lledaenu'n llwyr
  • osgoi ymyriadau sy'n niweidiol yn economaidd: Dengys tystiolaeth economaid bod mesurau cyfyngol yn cynhyrchu colledion net; mae'r cynnig yn osgoi'r rhain, gan gefnogi hyfywedd hirdymor y sector
  • sicrhau cynaliadwyedd gweithredol: Trwy osgoi mesurau rheoli sy'n gofyn am lawer o adnoddau, mae'r polisi'n parhau'n gyflawnadwy o fewn capasiti presennol y sector cyhoeddus
  • cefnogi pontio'r diwydiant:  Mae'r dull yn annog cyfrifoldeb gan y diwydiant dros reoli clefydau, gan wella parodrwydd ar gyfer risgiau yn y dyfodol

Atal

Mae'r cynnig yn cefnogi atal trwy leihau'r risg o niwed economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach sy'n gysylltiedig â mesurau cyfyngol ar gyfer rheoli clefydau.

Torri'r cylchoedd negyddol

Trwy osgoi cyfyngiadau symud eang, mae'r polisi'n atal colledion ariannol sylweddol ar draws y sector da byw, gan helpu i gynnal hyfywedd ffermydd a lleihau'r risg o dlodi gwledig ac effeithiau cysylltiedig ar iechyd meddwl. Mae cynnal systemau ffermio sefydlog hefyd yn cefnogi ffermwyr i barhau i ofalu am eu tir ac yn osgoi tarfu a allai gael effaith negyddol ar fioamrywiaeth.

Mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol

Mae'r polisi'n mynd i'r afael ag achos sylfaenol effaith y clefyd trwy hyrwyddo brechu, sy'n lleihau tebygolrwydd yr anifail o ddal yr haint, ochr yn ochr â mesurau rheoli wedi'u targedu i reoli lledaeniad. Mae hyn yn cynrychioli newid o fesurau adweithiol i'r gallu i wrthsefyll clefydau yn yr hirdymor, gan gydnabod bod y tafod glas yn risg a ysgogir gan yr hinsawdd.

Lleihau effeithiau negyddol

Mae'r ffordd hon o fynd ati yn lleihau'r defnydd o adnoddau a'r effaith amgylcheddol trwy osgoi systemau profi a thrwyddedu ar raddfa fawr, wrth gynnal arferion ffermio effeithlon. Mae hefyd yn cefnogi cydlyniant cymdeithasol trwy leihau'r tarfu ar gymunedau gwledig a sicrhau bod yr effeithiau'n gymesur ac wedi'u targedu.

Integreiddio

Mae'r polisi BTV-8 sy'n cael ei gynnig yn cyfrannu at ystod o agendâu polisi Llywodraeth Cymru drwy gefnogi gwydnwch gwledig, sefydlogrwydd economaidd, addasu i'r hinsawdd ac amaethyddiaeth gynaliadwy, gan osgoi effeithiau anghymesur mesurau cyfyngol ar gyfer rheoli clefydau.

Mae'r polisi'n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol gan gynnwys gwydnwch gwledig a sefydlogrwydd economaidd. Trwy ganiatáu i dda byw symud ac osgoi cyfyngiadau eang, mae'r cynnig yn diogelu incwm ffermydd ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi gwledig (marchnadoedd, proseswyr, cludwyr). 

Dengys tystiolaeth economaidd y byddai mesurau cyfyngol yn achosi colledion net sylweddol ar draws y sector da byw, a fyddai'n cael effaith negyddol ar economïau gwledig. Mae'r polisi felly'n cyfrannu at Gymru lewyrchus. 

Mae'r cynnig yn cefnogi lles meddyliol yn anuniongyrchol trwy leihau'r straen ariannol sy'n gysylltiedig â mesurau rheoli cyfyngol ac yn osgoi tarfu eang ar y gymuned ffermio. Mae rheoli clefydau mewn ffordd gymesur yn lleihau ansicrwydd ac yn helpu i gynnal hyder yn y systemau da byw. Mae hyn yn cefnogi Cymru iachach. 

Mae'r tafod glas yn glefyd sy'n sensitif i'r hinsawdd, ac mae mwy o risg yn gysylltiedig â thymheredd cynhesach a gweithgarwch fectorau. Mae'r polisi'n cefnogi addasu i risgiau clefydau a ysgogir gan yr hinsawdd a gwydnwch hirdymor mewn systemau amaethyddol. Mae cynnal cynhyrchiant yn osgoi aneffeithlonrwydd a all gynyddu allyriadau (e.e. llai o gynnyrch, bwydo ychwanegol). Mae hyn yn cyfrannu at Gymru gydnerth a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. 

Trwy gefnogi hyfywedd ffermio da byw, mae'r polisi'n cynnal cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith ac yn gwarchod arferion diwylliannol sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Mae osgoi tarfu eang ar y diwydiant yn helpu i gynnal seilwaith cymunedol a chydlyniant cymdeithasol. Mae hyn yn cyfrannu at Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. 

Mae'r polisi'n osgoi ymyriadau ar raddfa fawr sy'n gofyn am lawer o adnoddau. Dengys gwaith modelu APHA y byddai mesurau cyfyngol yn gofyn am lefelau staffio anghynaladwy. Mae dull cymesur yn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau cyhoeddus o hyd a bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon. Mae hyn yn cefnogi system gwasanaeth cyhoeddus fwy cyfartal ac effeithlon. 

Aliniad â blaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu

Mae'r cynnig yn cefnogi'n uniongyrchol flaenoriaethau sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • cryfhau economïau gwledig a pha mor wydn yw'r ardaloedd hynny
  • cefnogi amaethyddiaeth a rheoli tir yn gynaliadwy
  • addasu i heriau hinsoddol ac amgylcheddol
  • darparu gwasanaethau cyhoeddus cymesur ac effeithlon

Mae'r newid i fodel brechu a gefnogir gan y diwydiant, osgoi beichiau rheoleiddio anghymesur, a chanolbwyntio ar wydnwch hirdymor yn hytrach na chyfyngu yn y tymor byr yn enghreifftiau o'r alinio hyn. 

Cydweithio â phartneriaid ar lefel y DU a rhai datganoledig

Bu'r gweinyddiaethau datganoledig, APHA a rhanddeiliaid y diwydiant yn rhan o waith datblygu'r polisi. Mae hyn yn sicrhau aliniad lle bo hynny'n briodol, cysondeb ar draws ffiniau a llai o darfu ar fasnachu. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid y diwydiant yn sicrhau bod y polisi'n adlewyrchu anghenion y diwydiant a bod ystyriaethau cyflawni ymarferol yn cael eu hystyried. 

Cafodd gwaith modelu adnoddau APHA ei ystyried yn benodol i sicrhau bod modd cyflawni'r polisi ac i osgoi llethu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r polisi'n lleihau'r angen am systemau trwyddedu ar raddfa fawr a gwaith gorfodi dwys. 

Cydweithio

Mae polisïau tafod glas yng Nghymru wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad agos â phartneriaid yn y diwydiant yn gyson. Mae'r cynnig hwn ar gyfer ymdrin ag achosion o BTV-8 felly'n adlewyrchu'r sgyrsiau di-dor a'r adborth rhwng Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol a'r diwydiant, a gasglwyd trwy fecanweithiau ymgysylltu â rhanddeiliaid megis gweithgorau ar glefydau egsotig. Mae partneriaid allweddol fel yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), Sefydliad Pirbright, yr NFU a phartneriaid cyflenwi milfeddygol eraill wedi cyfrannu. Bu sgyrsiau anffurfiol rheolaidd â rhanddeiliaid hefyd, gan sicrhau bod y polisi'n parhau i fod yn ymatebol ac yn cyd-fynd ag anghenion a safbwyntiau'r rhai sy'n ymwneud â rheoli clefydau a'r diwydiant.

Cyfranogiad

Mae pobl yr effeithir arnynt gan y cynnig wedi chwarae rhan yn ei ddatblygiad trwy strwythurau sefydledig ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefelau Prydain Fawr a Chymru.

Ar lefel Prydain, bu ymgysylltu trwy'r Grŵp Craidd Da Byw, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff y diwydiant ledled y DU. Mae'r fforwm hwn wedi rhoi cyfleoedd i wneud y canlynol:

  • trafod risgiau sy'n dod i'r amlwg o ran y tafod glas
  • ystyried dulliau polisi posibl
  • rhannu barn ar oblygiadau ymarferol ac economaidd gwahanol opsiynau rheoli. 

Ar lefel Cymru, mae ymgysylltu parhaus drwy'r Gweithgor ar Glefydau Egsotig, sy'n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant yng Nghymru megis undebau ffermio, rhanddeiliaid milfeddygol a phartneriaid cyflenwi, wedi llywio'r cynnig. Mae'r grŵp hwn wedi galluogi:

  • trafodaeth fanwl ar ystyriaethau sy'n benodol i Gymru
  • adborth ar gymesuredd ac ymarferoldeb y mesurau sy'n cael eu cynnig
  • alinio'r polisi ag anghenion sector da byw Cymru

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi amlygu bod y blaenoriaethau allweddol ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn cynnwys:

  • lleihau unrhyw darfu ar yr economi, gan osgoi cyfyngiadau symud eang yn enwedig
  • cynnal hyfywedd ffermydd a'u llif arian
  • sicrhau bod mesurau'n ymarferol a bod modd eu cyflawni ar ffermydd
  • sicrhau cyfathrebu clir, cyson ac amserol
  • mynediad at frechlynnau a'r gallu i gymryd camau ataliol

Mae dyluniad y polisi'n adlewyrchu'r blaenoriaethau hyn, gan ei fod yn defnyddio dull ysgafn a chymesur, yn osgoi dynodi parthau a chyfyngiadau ar raddfa fawr, ac yn cefnogi strategaeth ar sail brechu, gan alluogi'r diwydiant i chwarae rhan weithredol. 

Bydd rhanddeiliaid yn parhau i chwarae rhan yn y gwaith cyflawni drwy'r canlynol:

  • parhau i ymgysylltu trwy grwpiau diwydiant a fforymau gwaith
  • cydweithio â rhwydweithiau milfeddygol i gefnogi'r defnydd o frechlynnau
  • lledaenu canllawiau ac arferion gorau yn y sector

Effaith

Mae'r cynnig hwn yn mabwysiadu fframwaith ysgafn a chymesur ar sail brechu, gan osgoi dynodi parthau a chyfyngiadau symud eang.

Mae tystiolaeth economaidd a gweithredol yn ategu'r dull hwn:

  • dengys gwaith modelu economaidd bod cyfyngiadau symud yn cynhyrchu costau net. Ar draws pob senario canolog, mae mesurau rheoli symudiadau yn arwain at golledion economaidd net o'u cymharu â llinell sylfaen heb gyfyngiadau. Amcangyfrifir bod y colledion yn amrywio o £5 miliwn i £29 miliwn fel arfer, ac yn uwch mewn rhai senarios
  • mae costau cyfyngiadau yn drech nag effeithiau clefydau. Nid yw effeithiau clefydau (cynhyrchu llai o laeth, marwolaeth, erthyliadau) yn ddigonol i wrthbwyso:
    • costau profi a thrwyddedu 
    • tarfu ar symudiadau da byw
    • effeithiau ar y gadwyn gyflenwi ehangach
  • mae'r canfyddiadau'n gadarn ar draws rhagdybiaethau. Hyd yn oed gyda chostau profi sylweddol is (e.e. £30–£100 fesul symudiad), dengys dadansoddiad sensitifrwydd bod cyfyngiadau'n parhau i gynhyrchu colledion net o oddeutu £3 miliwn i £41 miliwn
  • osgoi tarfu ar y sector cyfan mewn ffordd anghymesur. Mae mesurau rheoli'n effeithio ar ddegau o filoedd o ffermydd:
    • hyd at ~51,000 o ffermydd o dan gyfyngiadau mewn rhai senarios
    • ymhell y tu hwnt i'r rhai sydd wedi'u heintio'n uniongyrchol
  • dichonoldeb gweithredol. Byddai mesurau rheoli llym yn golygu bod angen:
    • mwy na 1,000 o staff milfeddygol a thechnegol pan fo'r galw ar ei uchaf
    • lefelau adnoddau sydd y tu hwnt i gapasiti APHA
  • yn cynnal gwydnwch y fasnach a'r diwydiant. Mae'r dull a gynigir: 
    • yn caniatáu i dda byw barhau i symud
    • yn lleihau'r tarfu ar yr economi
  • yn cefnogi rheoli clefydau dan arweiniad y diwydiant. Ceir tystiolaeth glir bod pobl yn manteisio ar frechiadau ar draws Cymru, gyda data milfeddygol a chan geidwaid yn dangos bod cannoedd o filoedd o anifeiliaid eisoes wedi'u brechu rhag y tafod glas. Mae hyn yn dangos bod dull ar sail brechu yn hyfyw a bod y diwydiant yn mynd ati i'w fabwysiadu, gan leihau dibyniaeth ar fesurau ymyrryd mwy cyfyngol ac economaidd gostus

Dadleuon yn erbyn / risgiau

  • gall cyfyngiadau llai llym arwain at ledaeniad cychwynnol cynharach neu ehangach
  • dibyniaeth ar bobl yn manteisio ar frechiadau ac ymddygiad ffermwyr
  • effeithiau anghyson ar draws gwahanol systemau cynhyrchu
  • canfyddiad bod y llywodraeth yn ymyrryd llai 

Casgliad cyffredinol

Dengys tystiolaeth economaidd a gweithredol y byddai dulliau cyfyngol yn arwain at gostau net sylweddol ac mae'n annhebygol bod modd cynnal y dulliau hynny ar raddfa fawr. Felly, mae'r ffordd o ymdrin â BTV-8 sy'n cael ei chynnig yn gymesur, yn ymarferol a gellir ei chyfiawnhau'n economaidd.

Mae’r trywydd sy’n cael ei gynnig yn adlewyrchu hefyd barn rhanddeiliaid am yr heriau i’r diwydiant y mae’r mesurau ar reoli BTV-3 yn esgor arnyn nhw. O ganlyniad, mae’r ffordd rydym am ddelio â BTV-8 yn adlewyrchu’r newidiadau mawr yn yr amgylchiadau ers ymddangosiad BTV-3, gan gynnwys dealltwriaeth well o’r tafod glas ym Mhrydain, mwy o brofiad gweithredol, datblygiad brechlynnau a thystiolaeth am gostau ac effeithlonrwydd cyfyngiadau ar raddfa fawr. Mae’r cynnig felly yn ffrwyth polisi sy’n esblygu mewn ymateb i dystiolaeth a phrofiad newydd yn hytrach na llai o bwyslais ar reoli’r clefyd. 

Costau ac arbedion

Bydd difa anifeiliaid BTV-8 positif yn arwain at gostau iawndal statudol i Lywodraeth Cymru. Bydd yn rhaid i ffermwyr ysgwyddo costau uniongyrchol os ydynt am frechu eu hanifeiliaid rhag BTV-8. Byddant hefyd yn wynebu costau anuniongyrchol o ganlyniad i'r cyfyngiadau yn y cynnig hwn os bydd eu hanifeiliaid yn cael canlyniad positif i brawf BTV-8. Yn groes i hyn, bydd arafu ac atal lledaeniad BTV-8 yn cyflwyno manteision economaidd ehangach i ffermwyr o ran cynnal cynhyrchiant ffermydd, faint o laeth a gynhyrchir a chyfraddau atgenhedlu. Bydd hefyd yn osgoi'r costau sy'n gysylltiedig â da byw sydd wedi'u heintio â BTV-8 ac yn diogelu eu helw.

Mecanwaith

Bydd y cynnig hwn yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau deddfwriaethol presennol. 

Troednodyn 1: Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig), Dadansoddiad economaidd o gyfyngiadau symud ar gyfer y Tafod Glas, papur dadansoddol heb ei gyhoeddi. Mae'n defnyddio gwaith modelu epidemiolegol i gymharu costau a manteision senarios cyfyngu ar symud, gan ganfod, o dan ragdybiaethau canolog, fod mesurau o'r fath yn arwain at gost economaidd net i ddiwydiant.

Troednodyn 2: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) (2024), Dadansoddiad economaidd o gyfyngiadau symud ar gyfer y Tafod Glas, papur dadansoddol heb ei gyhoeddi.

Troednodyn 3: Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) (2024), Atodiad 5: Y galw am adnoddau APHA ac effeithiau ymlediad BTV-3. Papur dadansoddol heb ei gyhoeddi.

Troednodyn 4: Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) (2024), Atodiad 5: Y galw am adnoddau APHA ac effeithiau ymlediad BTV-3. Papur dadansoddol heb ei gyhoeddi.

Troednodyn 5: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) (2024), Dadansoddiad economaidd o gyfyngiadau symud ar gyfer y Tafod Glas, papur dadansoddol heb ei gyhoeddi.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut cafodd y bobl, y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, eu cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu

Mae'r bobl sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig - ceidwaid da byw, gweithwyr milfeddygol proffesiynol a chymunedau gwledig yn bennaf - wedi cael eu cynnwys ym mhob rhan o'r gwaith o'i ddatblygu trwy strwythurau ymgysylltu sefydledig ar lefelau Prydain Fawr a Chymru.

Ar lefel Prydain, bu ymgysylltu trwy'r Grŵp Craidd Da Byw, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o undebau ffermio, cyrff y diwydiant a sefydliadau milfeddygol. Mae'r fforwm hwn wedi galluogi trafodaeth ar risgiau'r tafod glas sy'n dod i'r amlwg, opsiynau polisi a goblygiadau ymarferol ac economaidd mesurau rheoli.

Ar lefel Cymru, mae'r Gweithgor ar Glefydau Egsotig, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr y diwydiant yng Nghymru, rhanddeiliaid milfeddygol a phartneriaid cyflenwi, wedi llywio'r cynnig. Mae hyn wedi galluogi ystyriaeth fanwl o faterion sy'n benodol i Gymru, gan gynnwys cymesuredd, dichonoldeb ac effaith economaidd y mesurau sy'n cael eu cynnig.

Mae rhanddeiliaid â nodweddion gwarchodedig a siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynrychioli yn y grwpiau hyn drwy sefydliadau cynhwysol y diwydiant ac maent wedi cael eu cefnogi trwy gyfathrebu ac ymgysylltu dwyieithog. Er nad yw'r polisi'n cael effaith uniongyrchol ar blant, mae'r effaith ehangach ar aelwydydd a chymunedau ffermio wedi cael ei hystyried.

Roedd y canlynol ymhlith y materion allweddol a godwyd trwy ymgysylltu:

  • effaith economaidd cyfyngiadau symud
  • yr angen am fesurau ymarferol y mae modd eu cyflawni
  • pwysigrwydd mynediad at frechlynnau

Mae'r safbwyntiau hyn wedi siapio'r polisi yn uniongyrchol, gan arwain at ddull cymesur ar sail brechu sy'n lleihau'r tarfu ac yn cefnogi cyfranogiad y diwydiant wrth ei gyflawni.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol

Mae effeithiau mwyaf arwyddocaol y cynnig yn codi ar draws yr economi, cymunedau gwledig, gwasanaethau cyhoeddus a gwydnwch hirdymor, gyda chanlyniadau cadarnhaol i raddau helaeth o'i gymharu ag opsiynau eraill mwy cyfyngol.

Effeithiau economaidd 

Y canfyddiad pwysicaf yw y byddai mesurau cyfyngol ar gyfer rheoli clefydau—yn enwedig cyfyngiadau symud eang—yn arwain at golledion economaidd net ar draws y sector da byw. Fel arfer, £5–£40 miliwn yw'r amcangyfrif. Achosir y costau hyn gan brofi, trwyddedu a tharfu ar y farchnad.

Mae'r dull sy'n cael ei gynnig yn osgoi'r effeithiau hyn trwy:

  • ganiatáu i dda byw symud lle bo'n bosibl
  • cefnogi gweithgarwch y farchnad i barhau
  • galluogi ffermwyr i reoli risg trwy frechu

Mae hyn yn cyfrannu'n fawr at Gymru lewyrchus a mwy cyfartal (drwy leihau effeithiau anghymesur ar ffermydd incwm isel). 

Cymunedau gwledig ac effeithiau cymdeithasol

Mae'r polisi'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau gwledig.

Trwy osgoi cyfyngiadau eang, mae'r polisi:

  • yn cefnogi hyfywedd ffermydd a chyflogaeth wledig
  • yn cynnal cadwyni cyflenwi a gweithgarwch economaidd lleol
  • yn lleihau straen ac ansicrwydd i aelwydydd ffermio

Amlygwyd gan y gwaith ymgysylltu fod lleihau'r tarfu a chynnal llif arian yn flaenoriaethau allweddol i randdeiliaid. Cyfeiriwyd at y rhain yn benodol wrth lunio'r polisi.

Mae hyn yn cefnogi Cymru iachach (drwy leihau straen) a chymunedau cydlynus.

Effaith ar y sector cyhoeddus

Mae'r polisi'n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gyflawni gan y sector cyhoeddus. Mae modelau gweithredol yn dangos y byddai dulliau cyfyngol:

  • yn gofyn am fwy na 1,000 o staff pan fo'r galw ar ei uchaf
  • y tu hwnt i gapasiti APHA
  • yn mynd ag adnoddau oddi wrth swyddogaethau hanfodol (e.e. rheoli TB, lles anifeiliaid)

Mae'r dull sy'n cael ei gynnig yn osgoi'r pwysau hyn, gan sicrhau bod modd cyflawni o fewn y capasiti presennol a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a chynaliadwy.

Effeithiau ar yr amgylchedd a gwydnwch

Er nad yw'n cyflawni canlyniadau amgylcheddol yn uniongyrchol, mae'r polisi:

  • yn cefnogi arferion rheoli tir cynaliadwy
  • yn osgoi tarfu a allai effeithio ar ecosystemau
  • yn cyfrannu at addasu i'r hinsawdd trwy gydnabod bod y tafod glas yn risg hirdymor a ysgogir gan yr hinsawdd.

Mae hyn yn cyd-fynd â Chymru lewyrchus a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Diwylliant a'r Gymraeg

Trwy gefnogi sefydlogrwydd economaidd yng nghefn gwlad, mae'r polisi'n helpu i gynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn cefnogi traddodiadau amaethyddol a hunaniaeth ddiwylliannol ac yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog. 

Mae hyn yn cefnogi Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. 

Esblygiad y polisi

Un ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu’r cynnig hwn yw’r profiad rydym wedi’i gael ers ymddangosiad BTV-3 ac wrth ei reoli. Pan ddaeth BTV-3 i Brydain Fawr gyntaf, roedd y llywodraeth a’r diwydiant yn wynebu clefyd newydd heb frechlyn a heb fawr o dystiolaeth o’i effeithiau tebygol. Penderfynwyd felly ar drywydd rhagofalus. 

Mae’r polisi sy’n cael ei gynnig ar gyfer BTV-8 yn adlewyrchu’r profiadau a gafwyd gan lywodraeth a’r diwydiant wth iddynt weithio gyda’i gilydd i reoli BTV-3. Diolch i ddealltwriaeth wyddonol a gweithredol well o’r tafod glas, datblygiad brechlynnau a’r defnydd ohonynt, rydym wedi gallu ymateb yn fwy cymesur a phenodol. Er bod BTV-8 yn dal i fod yn fygythiad mawr i iechyd anifeiliaid ac y gall effeithiau’r clefyd fod yn ddifrifol, mae’r dystiolaeth ddiweddara’n cefnogi rhoi mwy o bwyslais ar frechu ac ar gryfhau’r diwydiant, a lleihau’r ddibyniaeth ar fesurau a all greu beichiau economaidd a gweithredol. 

Ar sail hynny, mae’r cynnig yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng rheoli’r clefyd, iechyd a lles anifeiliaid, cynaliadwyedd economaidd a chyflawni gan y sector cyhoeddus, tra’n cadw’r gallu i adolygu a chryfhau mesurau pe bai’r sefyllfa epidemiolegol yn gwaethygu. 

Casgliad cyffredinol

Mae'r effeithiau mwyaf arwyddocaol yn rhai economaidd a gweithredol, gyda thystiolaeth gref bod y dull sy'n cael ei gynnig yn osgoi costau sylweddol ac yn fwy cyflawnadwy nag opsiynau eraill. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cadarnhau bod y dull hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau'r sector ac yn cefnogi gwydnwch hirdymor.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: 

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol

Mae'r cynnig wedi'i lunio i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant wrth leihau effeithiau negyddol posibl trwy ddull cymesur sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae defnyddio dull ar sail brechu yn galluogi ffermwyr i fynd ati i reoli risg clefydau. Mae osgoi cyfyngiadau eang yn cynnal incwm ffermydd, gweithgarwch y farchnad, a chadwyni cyflenwi. Mae'n osgoi ymyriadau sy'n gofyn am lawer o adnoddau sydd y tu hwnt i gapasiti gweithredol gan sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau cyhoeddus. Mae'n cydnabod bod y tafod glas yn risg rheolaidd a ysgogir gan yr hinsawdd ac mae'n hyrwyddo gwydnwch hirdymor yn hytrach na chyfyngu yn y tymor byr. Mae'n cynnal cymunedau gwledig lle mae defnydd helaeth o'r Gymraeg ac yn sicrhau bod yr holl gyfathrebu a'r gwasanaethau yn ddwyieithog. 

Caiff effeithiau ariannol ar ffermwyr eu lliniaru trwy fesurau rheoli cymesur gan alluogi brechu fel offeryn ataliol. Cyfyngir y cyfyngiadau i'r safleoedd yr effeithir arnynt a bydd canllawiau a chyfathrebu clir yn cael eu darparu i leihau ansicrwydd. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i fireinio'r polisi dros amser, hyrwyddo defnydd ac ymwybyddiaeth o frechlynnau, a sicrhau cyfathrebu dwyieithog hygyrch. 

Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol sylweddol heb eu lliniaru. Mae'r dewis ddull yn cydbwyso rheoli clefydau ag ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a gweithredol, gan wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant wrth leihau niwed.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau

Bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso trwy gyfuniad o ddangosyddion epidemiolegol, economaidd a gweithredol.

Bydd y prif fesurau'n cynnwys:

Data gwyliadwriaeth ar y clefyd

  • mynychder a lledaeniad BTV‑8
  • dosbarthiad daearyddol

Cyfraddau brechu

  • nifer y dosau a roddwyd
  • cwmpasu rhywogaethau a rhanbarthau

Dangosyddion economaidd

  • gweithgarwch y farchnad a symudiadau da byw

Perfformiad gweithredol

  • defnydd o adnoddau APHA
  • capasiti cyflenwi ac amseroedd ymateb

Adborth rhanddeiliaid

  • parhau i ymgysylltu â grwpiau diwydiant
  • adborth drwy weithgorau a fforymau

Bydd gwaith monitro'n parhau drwy gydol y cyfnodau trosglwyddo gweithredol, a bydd y polisi'n cael ei adolygu a'i addasu yn ôl yr angen yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg.

Bydd y gwerthuso'n canolbwyntio ar:

  • effeithiolrwydd wrth gyfyngu ar ledaeniad y clefyd
  • effaith economaidd o'i gymharu â dulliau amgen
  • y gallu i gyflawni a hyder rhanddeiliaid

Troednodyn 6:  Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) (2024), Atodiad 5: Y galw am adnoddau APHA ac effeithiau ymlediad BTV-3. Papur dadansoddol heb ei gyhoeddi.